Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

238 YE HAUL. siwgrau, ond rhad ym marchnadoedd Prydain,«am fod y masnachwyr a brynent siwgr yn Unol Daleith- iau America a gwledydd Ewrop yn derbyn rhwng saith a naw punt y dunell o rodd-doll (bounty) wrth gymmeryd y cargo i'w llong. Canlyniad hyn a fu troi planigf ëydd siwgr y West India yn anialwch, a thaflu hanner can mil (50,000) o weithwyr allan o waith parhäus yn Lloegr. Dywed yr adroddiad :—" Yn y flwyddyn 1874 yr oedd yn Llundain {Toioer Etam- lets) 23 o weithf ëydd puro siwgrau. Nid oes yno yn awr ddim un. Ehoddai y rhai hyny waith i hym- theng mil o ddynion. Y mae yr oll wedi gorfod chwilio am Avaith arall, a miloedd yn methu ei gael. Yn 1874 yr oedd hanner can mil o burwyr siwgrau yn gweithio yn Llundain, Glasgow, Leith, Liverpool, Bristol, a Hull: nid oes yn awr un. Mae y farchnad siwgr oll yn llaw y gwledydd rhodd-dollawl—Ffrainc, Germani, Holland, Awstria, Belgium, ac Unol Dal- eithiau Auierica." Y mae yr un gyfundrefn ag a ddileodd ein gweith- fëydd puro siwgrau ar lawn gwaith, yn awr yn dir- fawr niweidio llaw-weithfëydd ac amaethyddiaeth Prydain. Ehoddir bounty, neu rodd-dollau, ar luaws o nwyddau a gynnyrchir yn Germani (ie, teganau, a mân gelfi, a matiau a wneir mewn carcharau), wrth eu hanfon i'w gwerthu yn y wlad hon. Y mae gweithydd gwydrau, pinau ysgrifenu, a phenselydd bron â chael eu cau i fyny yn Lloegr o dan gyfun- drefn bounties Germani, Belgium, a Ffrainc. Cael pob peth yn rhad ydyw nod y Eadical sydd yn byw ar ei arian, ac ni waeth ganddo beth am ddiwrnod gwaith y gweithwyr. Os drwg ydyw i'r gweithwyr dinesig, mil gwaeth i'r maes-lafurwyr ac amaethwyr. Tretha gwledydd ereill nwyddau Prydain er mwyn ysgafnhau baich eu tiroedd gartref; tretha y Eadical y tir gartref er mwyn cael pob nwydd tramor yn ddidreth. GEIEIADUE BYWGEAFFYDDOL A BEIEN- IADOL 0 GEEDDOEION YMADAWEDIG CYMEU. GAN EOS LIiEOHID. (Parhâd o dudalen 209.) 243. Jones (Edward), Bardd y Brenin, y telynior cywrain a'r hanesydd enwog a anwyd mewn ffermdy o'r enw Henblas, ym mhlwyf Llandderfel, sir Feir- ionydd, ar Sul y Pasc yn 1752. Yr oedd ei dad yn meddu ar gryn lawer o'r ddawn gerddorol. Gallai nid yn unig chwareu amryw offerynau cerdd, ond eu saernio hefyd. Dysgodd i ddau o'i feibion, Edward a Thomas, chwareu y delyn Gymreig, a mab arall i chwareu organ-dannau (spinner), ac un arall i chwareu y crwth, ac yntau ei hun i chwareu ar yr organ. Gyda'u gilydd gwnaent gerddorfa o radd fechan. 0 ddeutu'r flwyddyn 1774, ar gymh.eH.iad amryw o'i gyfeillion, aeth Edward Jones i fyny i Lundain, a chafodd nawddogaeth amryw o'r prif foneddigion Cymreig yno. Ystyrient ef yn delynior campus, o herwydd ei chwaeth uchel a choethedig, a'i allu i osod allan deimlad byw ac accen (phrasing) wrth chwareu. Bu'n rhoddi gwersi ar y delyn i luaws o foneddigesau uchelradd. Bu i Gymdeithas y Gwyn- eddigion, a sefydlwyd gan Owen Jones (Owain My- fyr) yn y flwyddyn 1772, fod o gynnorthwy mawr iddo. Yn y flwyddyn 1783 penodwyd ef yn delynior i Dywysog Cymru (George Augustus Frederich). Ond gwyddfygedol a di-dâl ydoedd. Yn y flwyddyn 1784 cyhoeddodd ei lyfr gwerth- fawr, y " Musìcal and Poetical ReliJcs of the Weìsh Bards/1 neu yn ol y dull cyffredin o'i alw, " The Welsh Bards.^ Ail argraffwyd hwn gyda pheth ychwanegiad yn y flwyddyn 1794. Yn 1802 cy- hoeddodd lyfr arall o'r un natur yn dwyn yr enw, " Bardie Museum of Primitẁe British Ziterature.,y Yn y flwyddyn 1820 cyhoeddodd " Hen Ganiadau Cymru " (Cambro British Melodies). Heb law y rhai hyn, cyhoeddodd a golygodd lawer o gasgliadau ereill, megys Lyric Airs, yn cynnwys enghreifftiau o gerddoriaeth Eoegaidd, Albanianaidd, Walachian- aidd, Twrcaidd, Arabaidd, Persiaidd, Chineaidd, a Mooraidd, sef eu caneuon cenedlaethol, &c, yng nghyd ag ychydig nodau eglurhaol o ddulliau a symmudiadau dawnsfäu y Groegiaid diweddar, a thraethawd byr ar ddechreuad cerddoriaeth hynafol Groeg, 1804. The MinstrePs Serenade; Terpsichore's Banquent, a chasgliad o alawon Yspaenaidd, Malt- iaidd, Ewssiaidd, Armenaidd, Hindwstanaidd, Seis- onig, Ellmynaidd, Ffrancaidd, a Swissaidd. The Musical Miscellany, wedi ei ddethol yn benaf o waith yr enwogion cerddorol; Musical Remaìns of Handel, Bach, Abel, 8çc.; Choice Collection of Italian Songs; The Musical Portfolio, yn cynnwys alawon y Seison, yr Ysgotiaid, a'r Gwyddelod, yng nghyd â rhai poblog ereill; Popular Cheshire Melodies; Musical Trifles, wedi ei fwriadu i rai yn dechreu chwareu y delyn, or Musical Bouget, or Popular Songs and Ballads. Fel y crybwyllwyd eisoes, cyhoeddodd un ran o Hen Ganiadau Cymru yn 1820, ond gwaethygodd ei iech- yd, fel na ddaeth y gweddill allan o hono. Heb law ei fod ef yn gerddor a thelynior o radd uchel, yr oedd hefyd yn hanesydd a hynafìaethydd gwych. Casglodd doraeth o hen lyfrau prinion y Cymry; ac yr oedd ei gasgliad o'r cyfryw gyda'r un