Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L. iil êtfxm ẅrfyẃMn. "yng ngwyneb haul a llygad goleuni, 11A GAIÎt DUW YN UCHAF." Ehifyn 127. GOEPHENAF, 1895. Cyf. XI. Y DIWEDDAE BAECHEDIG T. JONES. TUDNO Silence is golden, speech is sifoem.—Y mae galar yn rymusach mewn dystawrwydd. Cafwyd enghraifft o hyn ar yr 22fed o Fai, pryd y oanlynwyd gwedd- illion marwol ein cyfaill ymadawedig i'w bedd ym mynwent St. Tudno ar fryn y Gogarth. Yr oedd pob peth yn ddystaw ar y pryd. Gorweddai y môr yn ddystaw a Uonydd; hunai yr awelon ar gangau y coed; a chrogai côr y wig eu telynau melusion ar yr helyg. Teyrnasai y dystawrwydd dyfnaf ar bob Uaw ; ni chlywid trwst dim oddi eithr yr ocheneidiau a ehedent i fyny o galonau y dorf ymgynnulledig yn y fynwent. Yn y dystawrwydd hwn y rhoddwyd ein cyfaill i huno ei hun olaf. Dystawrwydd a weddai i'r amgylchiad pruddaidd, ac mi wn i bob un yn bresennol deimlo oddi wrtho. Ef allai mai dys- tawrwydd fyddai mwyaf gweddaidd eto. Fodd bynag, os tori wnawn ar y dystawrwydd hwn, ni fydd i ni, pe yn ein gallu, ymadael â rheol euraidd y Lladinwr—De mortuis nil nisi bonum. Gan ein bod wedi cael y fraint o adnabod ein cyfaill yn dda, nid ammhriodol fyddai cael gair am dano. Y mae ei lwyddiant fel eisteddfodwr yn hysbys i Gymru oll: a tale twice told fyddai aros gyda hyn. Ddeng mlyn- edd ar hugain yn ol daeth i'r rhestr flaenaf o feirdd ei wlad, ac yn ol barn gyffredin y wlad bu farw y blaenaf o'r rhestr. Ganwyd ef 49 mlynedd yn ol yn Llandudno, o deulu parchus a chyfrifol, lle hefyd y bu farw ar y 18fed o Fai, o dan gronglwyd ei hen gyfaill Gwalchmai. Yr oedd wedi tori lawr o ran ei iechyd ddeunaw mis yn ol. Yng ngwyneb pob peth ymddangosai yn berffaith ddedwydd. Mynych y clywsom ef yn son am ei frawd, y Parch. W. Arthur Jones, fìcer Bwlchgwyn, ei fod yn frawd iddo 13—xi, yng ngwir ystyr y gair, a bod hyn yn peri esmwyth- der i'w feddwl yn ei waeledd. Yr oedd yn gyfaill diledry w. Gofynid ei adnabod yn dda cyn y gellid ffurfio barn am dano. Ni wnai yr olwg gyntaf, a'r ymgom gyntaf, dueddu pawb i edrych yn ffafriol arno, a hyny am y rheswm nad ai gam allan o'i ffordd i foddhau neb â gwên dwyllodrus ac â geiriau melus. Ond fel y mae y gwin yn gwella wrth ei gadw, yr oedd yntau yn gwella wrth ymgyd- nabyddu ag ef. Y mae rhai dynion yn rhyw fath o duplicates. Y maent yn un peth heddyw, peth hollol arall yfory. Ammhosibl ydyw adnabod y cyfryw. Ond am ein cyfaill, yr ydoedd yr un peth i bawb, tlawd a chyfoethog. Deuai y gair garw allan yn gyntaf. Ond wedi ei adnabod yr ydoedd yn gyfaill gwirioneddol. Ehanai y cnewullyn, a chymmerai y rhan leiaf iddo ei hun. Yr ydoedd yn naturiol yn haelionus. Ehoddai fwy na dynion cyffredin i'r porters am gario ei bag, i gardotwyr, a thuag at achosion o bob math ; ac ar yr un pryd yr oedd yn hollol anymwybodol o'r symiau a roddai. Nid oes neb ond Un a ŵyr rifedi ei roddion haelionus. I lawer amddifad a thlawd bu yn gyfaill twymgalon. Nodwedd ragorol arall yn ei gymmeriad ydoedd, ni ddaliai ddig yn erbyn neb. Cafodd ysgrifenydd hyn o erthygl brofìon mynych o hyn. Wedi methu cyd- weled am rywbeth, ac yntau dipyn yn wyllt ei dym- mer, ai yn ffrae; ond wedi i'r ffrwgwd fyned heibio, deuai y wên yn ol i chwareu ar y wyneb, a byddai mor addfwyn a'r oen. Ni chofiai mwy ac ni chy- feiriai at yr anghydweliad. Dyna ydoedd ei wir natur, er y gallai ymddangos i ereill fel arall; ond yr achos o hyn oedd gwyleidd-dra ei dymmer. Gwylaidd iawn ydoedd hyd nes y byddai wedi ffurfìo rhyw gymmaint o gyfeillgarwch; ac wedi hyny, ni chaed cyfaill mwy dyddan. Adroddai ystori ar ol