Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L. M êtfm tefyrìẁitt. "yng ngwyneb hatjl a llygad goleuni." "a gaie, dttw yn ttchaf." Rhifyn 129. MEDI, 1895. Cyf. XI. CHARLES WESLEY. Dyma oes y canrifau; ac efco anghofiodd nifer luosog o honom gadw coffadwriaeth am y bardd-bregethwr enwog a ysgrifenodd yr emyn anfarwol hòno, '' Iesu, Ceidwad f'enaid drud," ac emynau ereill cyfartal sydd yn anwyl iawn gan Gristionogion. Bu farw Charles Wesley Mawrth 29, 1788, yn bedwar ugain mlwydd oed. Ef allai fod enwog- rwydd llydan ei frawd John wedi cymylu i ryw fesur eiddo yr emynydd galluog. Eto, nid ydyw yn beth analluog i ni benderfynu pa un oedd y mwyaf o'r ddau. Dywedai gelynion Luther i'r diwygiwr wneyd mwy o niwed i'w hachos gyda'i emynau a'i salm ganiadaeth na dim arall o'i eiddo. Ac y mae yn sicr, serch i'r brodyr Wesley gael eu hattal i bre- gethu ym mhwlpudau yr Eglwys Sefydledig, fod llais Charles Wesley, trwy ei emynau, yn parhau i seinio bob Sul ar hyd y fiwyddyn yn y temlau isaf ac uchaf yn ein gwlad. Mae pob eyfundeb Cristionogol trwy y byd yn arferyd rhai o'r saith mil emynau a gyfan- soddwyd gan y bardd. Y mae yr emynau yma yn lled anghyfartal o ran teilyngdod ; ond gwelir rhyw gant o honynt, mwy neu lai, yn y rhan fwyaf o lyfrau emynau, ac nid oes ond nifer fechan o Seison allant oddef ymadael â'r emyn ddilynol a ymdrechasom gyfieithu i'r Omer- aeg:— Iesu, Ceidwad f enaid gwiw, Gad im' ffoi i'th fynwes gu, Tra bo'n treiglo'r dyfroedd oer, A'r ercli wynt yn groch ei ru: Cuddia íi, 'Ngwaredwr mwyn, Ncs el heibio'r 'storom fawr; 0 derbynia f'enaid bach Yn y gyfyng, olaf awr. 17—xi. Nid oes genyf noddfa mwy, Glyna'm henaid ynot Ti; Paid â'm gadael—ofnus wyf, Llona a dyddana fi: Ynot mae fy ngobaith gwan, A fy nerth o honot ddaw; 0 gorchuddia Di fy mhen Gyda chysgod Dy fwyn law. Ai ni chlywi Di fy nghri ? Dderbyni mo fy ngweddi wael ! Suddo a llewygu'r wyf Ar bwys Dy drugaredd hael; Estyn eto'th dyner law, Tra'n mwynhau dy nerth, 0 Dduw, Sefyll dan obeithio'r wyf, Marw'n gyfìym, eto'n fyw. lesu, digon wyt i mi Llenwi'm hangen 'rwyt heb ball; Cwyd y gwan—iachâ y claf, Ac arweinia'r llesg a'r dall: Sanctaidd ydyw'th enw glân, Minnau'n llawn o lygredd cas — Aflan a thwyllodrus oll, Tithau'n llawn o ddwyfol ras. Gras ddigonedd ynot sydd I orchuddio fy nwfn friw, Llifed yr iachusol ffrwd, Golch fi'n lân o fewn, fy Nuw: Ti wyt ffynnon bywyd pur, Gad im' dy fwynhau o hyd; Tardda yn fy nghalon wan, Cwyd fi. i'r tragwyddol fyd. Dywedai Ward Beecher " y buasaî yn well ganddo fod yn awdwr gwreiddiol yr emyn uchod na chael enwogrwydd yr holl freninoedd fu'n teyrnasu ar y ddaiar." Ee ddadgenir yr emyn yma hyd nes y rhodda yr archangel wrth ei fant " ei gorn mingorn mawr." Y mae hanes y chwarëyddes yn lled hysbys, a'r