Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L. til êyîm €mxtytûm. "YNG NGWYÎTEB HATTL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIB, DTJW YN UCHAF." Ehifyn 130. HYDEEF, 1895. Cyf. XI. SEILIAU OEEDINIAETH GAN A. FOÜE. J. BAL- Ffrwyth seibiant Mr. Balfour ydyw ymchwiliad i seiliau cred. A thra y defnyddia gwleidyddwyr eu horiau hamddenol i chwilio a myfyrio y fath bynciau, ni raid gwangaloni am ddyfodol gwleidyddiaeth- Cuddiad cryfder Mr. Gladstone, dirgelwch ei ddylan- wad digymhar ar y wlad, ydoedd, mai dyn crefyddol ydoedd. Ac er nas gwelsom enwi y nodwedd hon yn Mr. Balfour fel elfen yn llwyddiant diweddar ei blaid, diammheu genyf ei bod felly. Mae cael gwr i'w harwain ag sydd ym mhlith meddylwyr ac ysgrif- enwyr blaenaf y dydd, ac a ddefnyddia ei seibiant i amddiffyn Cristionogaeth yn erbyn ymosodiadau anffyddwyr, yn fantais i'r blaid o'r fath bwysicaf, yn enwedig pan yr arweinir y blaid arall gan wŷr o groes anian. I'r wlad mae bod arweinydd Tŷ y Cyffredin, ar lawer ystyr y dyn pwysicaf yn y deyrnas, yn wr crefyddol ac yn amddiffynwr agored cred yn fendith nas gellir ei gorbrisio. Ennillasai Mr. Balfour yn flaenorol radd dda fel ysgrifenydd ar ammheuon crefyddol; ac ychwanega y llyfr hwn at ei fri. Ei amcan ydyw, nid gosod i lawr geryg sylfaen credo Cristionogol, eithr chwilio am yr elfenau priodol yn yr enaid dynol, ar ba rai i osod y sylfeini. "Fy amcan," meddai yn ei ragym- adrodd, "yw argymhell dull arbenig o edrych ar ddyrys-ofynion bodolaeth, pa rai, pa un ai dymunol genym ai peidio, y gorfodir ni i'w gwynebu. Dy- munaf, os gallaf, arwain y darllenydd i fyny i syll- fan, o ba un yr ymddengys y darnau bychain o'r Cyfansawd Diderfyn, o ba rai y gallwn ni gael cip- olwg, yn eu gwir faintioli cynihariaethol." A cheisia wneyd ar gyfer y darllenydd cyffredin—" i'r corff 19—xi. cyffredin o ddarllenwyr a gymmerant ddyddordeb yn y fath bynciau." Y gyfundrefn feddyliol yng ngwrthwyneb i ba un y ceisia arddangos y "seiliau" ydyw " naturoliaeth" {naturalism), prif syniadau pa un ydynt, " Y gallwn gyrhaedd gwybodaeth am ddefnyddiau a sylweddau y bydyssawd (phenomena), a'r deddfau drwy ba rai y cyssylltir hwy, ond dim yn ychwaneg. Gall 'ych- waneg ' fod neu beidio bod ; eithr os bodola nis gall- wn ni fyth ei ganfod : a pha beth bynag y dichon y Byd fod mewn gwirionedd, y Byd i ni, y Byd y mae i ni a fynom ag ef, neu o'r hwn y gallwn gael un- rhyw wybodaeth, yw y Byd a ddadguddir i ni drwy ein synwyrau, ar hwn ffurfìa faes ymchwiliad y Gwyddonau Naturiol. Yma, ac yma yn unig, y gallwn ddarganfod dim a deilynga ei alw yn Wybod- aeth." Mewn geiriau ereill dywed y gyfundrefn hon, " Yr unig foddion a feddwn ni i gyrhaedd gwybodaeth ydyw ein synwyrau—y golwg, y clyw, yr arogliad, a'r teimlad; a'r pethau ganfyddwn drwy y moddion hyn ydynt i ni yr oll sydd yn bod. Gall fod Duw, enaid, a byd arall; eithr ni wyddom, ac nis gallwn ni wybod dim am danynt; ac felly ffolineb fuasai meddwl dim yn eu cylch. Y pethau canfydd- adwy ydynt briodol faes meddwl a myfyrdod dyn." Mor ddeniadol, mor lawn o ddyddordeb yw astud- iaeth y materol; ac mor gydnaws â thuedd y dyn anianol ydyw, fel y mae y syniadau hyn wedi dystaw ymledu a threiddio drwy gylchoedd eang o'r genedl; 'ie, o grefyddwyr y genedl. Natur yw y dduwies a Deddf Natur, ac nid Ewyllys Duw sydd yn llywodr- aethu, nes y gellid bron ddweyd am yr oes hon fel y dywed yr Esgob Butler am ei oes ef, "Maewedi d'od, nis gwn pa fodd, i gael ei gymmeryd yn gan- iataol gan lawer o bersonau, nad yw Cristionogaeth