Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

H A U L. [liì êrfim (CnBrfîîrìíìiin. YNG NGWYNEB HATJL A LLYGAD G0LETJNI. "A GAIE DTJW YN TJCHAF." Rhifyn 131. TACHWEDD, 1895. Cyf. XI. EGLWYS ESGOBOL YSGOTLAND. Daethym yn ddiweddar i gydnabyddiaeth ag offeir- iad o Eglwys Ysgotland—Sais o safle dda yn Lloegr, eithr a aberthodd ei ragolygon gartref ae a ymgys- segrodd i'w Eglwys fabwysiedig. Cawsom lawer ymgom yng nghylch eyflwr, hanes, a dylanwad yr Eglwys Esgobol yng ngwlad Presbyteriaeth. A mawr y dyddordeb a deimlai efe yn helynt yr Eg- lwys Gymreig. " Y gweddill a adawyd," megys dyrnaid o ŷd ym mhen y mynyddoedd, yw yr Eglwys yn Ysgotland. Daethai yr Eglwys, ym marn lluaws o'r bobl, yn gyssylltiedig â'r gormes ddyoddefid o dan Iago yr Ail. Ac ar ddymchweliad ei orsedd ef yn 1688, torodd ystorm o erlidigaeth dros yr Eglwys Esgobol a fu bron a'i hysgubo ymaith yn llwyr, ac oddi wrth effeithiau yr hon nid yw eto oud dechreu gwella. Ar foreu y Nadolig ymgynnullodd tyrfaoedd arfog mewn gwahanol ardaloedd. Casäi y Puritan y Nadolig â'i holl enaid. Yn Lloegr, o dan Cromwell, gwnaethid deddf i geisio difodi yr wyl a gedwir er cof am eni'r Ceidwad. Ac nid ennynai dim ddi- gofaint y Puritan Ysgotaidd gymmaint a'r Nadolig. Ar ddydd Nadolig, gan hyny, cyfarfyddodd y tyrfa- oedd, ac ymdeithiodd pob myntai i'r persondy agosaf ac ysbeiliasant y cellar a'r larder. Difenwyd a dir- mygwyd offeiriad Baal—fel y galwent y gweinidog- ion Esgobol—ae weithiau curid, weithiau trochid ef. Teflid ei ddodrefn allan trwy y ffenestri; troid ei wraig a'i blant allan i'r eira. ¥na dygid ef i'r farchnadfa a rhwymid ef yno fel drwg weithredwr. Ehwygid ei own yn gareiau' am dano : os byddai ganddo Lyfr Gweddi yn ei logell llosgid hwnw ; a gollyngid ef yn rhydd gyda rhybudd na byddai iddo ar boen by wyd weinyddu mwyach yn y plwyf. Yna 21—»; cloai íyffdiwygwyr hyn yr Eglwysydd, a dodent yr allweddau yn eu llogellau. Lle nas gellid cymmeryd y ffordd hon, anfonid llythyr bygythiol at yr offeiriad yn gorchymmyn iddo roddi ei le i fyny cyn dydd penodol dan berygl cael ei droi ymaith drwy drais. O'r diwedd daeth y gyfraith gan gadarnhau a chwblhau gwaith y dyhirod hyn. Ymlidiwyd pob offeiriad o'i blwyf; gwaharddwyd cadw gwasanaeth Eglwysig ; rhoddwyd yr Eglwysydd a'r tai i'r Pres- byteriaid; a gwnaed yn fater cosp i Eglwyswyr gyfarfod i addoli. Erys eto mewn llawer palas yn Ysgotland yr ystafell gudd lle y llechai yr offeiriad. A cheidw traddodiad ar gof luaws o hanesion am ffyddlondeb yr Eglwyswyr i'w Heglwys a'u hegwydd- orion dan yr holl erlid. " Yr Eglwys Esgobol yn Ysgotland," medd Dr. Woodward yn rhagymadrodd adroddiad blynyddol Eglwys Fair, Montrose, " ydoedd gynt Eglwys Sef- ydledig y wlad, ond dadgyssylltwyd a dadwaddolwyd hi, am resymau gwleidyddol yn unig, yn 1689." Erbyn hyn mae'r deddfau gorthrymus wedi eu di- rymu, a'r Eglwys yn dechreu ymddadblygu gyda nerth; y cryfder a gasglodd y gwreiddyn tra yn llechu dros y gauaf hirfaith o adfyd yn dechreu ym- ddangos. Anfonodd fy nghyfaill adroddiad blyn- yddol ei Eglwys ei hunan yn Montrose ac adroddiad blynyddol yr holl Eglwys. Yn y naill a'r llall ceir arwyddion bywyd addawol. A'r hyn a'u gwna o ddyddordeb neillduol i ni yw, eu bod hwy ar raddfa fechan wedi dadrys amryw o'r pynciau ydynt yn awr yn tynu ein sylw ni. Eglwys Fair yw yr unig un yn nhref Montrose a berthyn i'r Eglwys Esgobol. Ceir mewn gwahanol fanau yn Ysgotland leoedd a elwir yn Gapelau Esgobol Seisonig: eithr nid yw y rhai hyny namyn %>rivate speculations, heb fod mewn cyssylltiad â, na