Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H AUL. €i\îm €mîqèìw, "yng ngwyneb haül a llygad goleuni." "a gaik duw yn uchaf." Rhif. 74. CHWEFROR, 1863. Cyf. 7. GWAITH CENADOL I BAWB. " Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau dai- onus!"—Rhdf. x. 15. Yr oedd hen wr yn eistedd yn gysurus wrth y tân, mewn parlawr bychan, un hirnos gauaf, pan oedd y gwynt yn chwerw allan, a'r eira yn disgyn yn drwm ar y ddaiar, a phob peth gyda'u gilydd, yn ei gwneuthur yn noswaith anghysurus i bawb oedd dan orfod bod allan yn llycader y tywydd. Yr oedd dau fachgenyn bychan yn eistedd wrth àraed yr hen wr, yn gwrando arno yn adrodd rhyw hanesion a hen gofion am yr amser oedd wedi myned heibio. Nid oedd gan yr hen wr ond un mab—ei wraig a'r cwbl wedi blaenu, ac wedi ei adael—yntau wedi myned yn oed- ranus a methedig, ac wedi rhoddi ei fas- nachaeth i'w fab, ac yn bresennol; yn cym- meryd ei artref dan ei gronglwyd. Yr oedd William yn fab rhagorol; acyr oedd yn hyfrydwch gan ei galon fod gan- ddo artref i'w dad oedranus, dan lwyth blynyddoedd ei hen ddyddiau, y rhai, ar y goreu, nid ydynt ond dyddiau blin, a blynyddoedd, ag y dywed yr eedranus a'r methedig, " Nid oes i mi ddim dyddanwch ynddynt." Yr oedd gan William dri o blant—yr henaf yn eneth yng nghylch deng mlwydd oed, yr hon a elai yn ddyddiol i'r ysgol, ac a gynnorthwyai ei mam pan fyddai gartref. Pan oedd yr hen William Davies yn eistedd wrth y tân, a'i ddau ŵyr wrth ei draed, megys y crybwyllwyd, clywai ergyd ar ddrws y ty; ac mewn moment, yr oedd yr eneth Anne yno yn ei agor i un Miss Evans, yr hon a ddaethai yno ar neges. Yr oedd Miss Evans yn chwaer i'r offeiriad, ac wedi byw yn nhy ei brawd, er pan y daeth i fod yn ficer y plwyf. Yr oedd croesaw mawr i Miss Evans bob amser, pan alwai i ymweled â'r cymmydog- ion—y cyfoethogion a'r tlodion; canys yr 5—vii. oedd bob amser yn hawddgar a llon, a chalon yn ei mynwes yn llawn cariad a chydymdeimlad. Yr oedd yn ieuanc ac yn llawn bywyd, ac yn ddiwyd; a phob amser, yn gosod ei holl egn'ion ar waith, er mwyn gwneuthur daioni i ereill. Teimlai fod pobl gofal ei brawd, i raddau helaeth, â hawl ganddynt i'w gwasanaeth hithau hefyd, ac y dylai y rhai oeddynt wedi cael eu rhoddi dan ei ofal bugeilaidd ef, fod yn wrthddrychau ei sylw hithau. O dan y teimladau hyn, yr oedd Miss Evans yn barhäus yng nghanol y ddiadell, yn gwein- yddu Fw hangenion, ac yn cydymdeimlo â hwynt yn eu blinderau; ac felly, yn ddiar- wybod iddi hi ei hun, yn ennill eu serch- iadau a'u parch. Mor gynted ag yr aeth Miss Evans i'r parlawr bychan at yr hen wr, rhedodd y ddau faehgenyn, megys am y eyntaf, i ym- ofyn cadair iddi i eistedd wrth y tân. Hithau, yn llon, a eisteddodd yn ymyl ei hen gyfaill. Yn uniongyrchol, daeth Sarah, gwraig William, i'r ystafell, er mwyn cyfarch ei chyfeilles, a chael rhyw gymmaint o ymddyddan â hi, ar ol gwaith a lludded y dydd. " Onid ydych chwi, Miss Evans," ebai'r hen wr, " wedi bod yn hwy na chyffredin cyn dyfod i ymweled â ni? Ond dichon fod yr hin afrywiog bresennol wedi eich cadw gartref." " Nid felly, chwaith, Mr. Davies," atebai hithau; "canys heddyw ydyw'r diwrnod garwaf ydym wedi gael eto y gauaf hwn*" "Eelly y mae, Miss; ac y mae mor arw, fel yr wyf braidd yn synu i chwi, gan ofn, ddyfod allan o'r ty." " Nid ydwyf yn ofnus; ond y gwir yw, i mi fod braidd yn llawn gwaith yn ddi- weddar." "Ni ryfeddwn," ebai Mrs. Davies, gwraig y ty, " nad yw'r Nadolig sydd wrth y drws yn rhoi digon o waith i chwi i'w wneyd."