Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H A U L. yng ngwyneb haul a llygad goleuni. "a gair duw yn uchaf." Rhif. 77. MAL, 1863. Cyf. 7. C O N FFIRM A.S I WN LLANOLWEN. Hanesyn yng nghylch y trydydd Gorchymmyn. Nii> oedd un baehgen^'n yn Llanolwen a roes fwy o ofid a thrallod i'r fìcer nag Elis Jones. Yr oedd ei rieni yn well arnynt, mewn perthynas i bethau'r b}rd, na'r rifer amlaf o drigolion y pentref; ac yr oedd Elis, eu hunig fab, yn fachgenyn o dalentau naturiol dda; ac anfonwyd ef i'r ysgol pan yn dra ieuanc. Yr oedd yn cael ei ffordd ei hun braidd ym mhob peth gartref; ac y mae yn hawdd deall oddi wrth hyn, fod ei wersi yn yr ysgol yn cael eu hesgeuluso, a'i fod yn ben-galed ac anufudd i eirchion ei feistr. Pan gy- rhaeddodd ei ddeuddeg mlwydd oed, gad- awodd yr Ysgol Genedlaethol, ond a bar- haodd i fod 3'n bresennol yn nosbarth y ficer ar y Sul. Parhaodd felly am ryw hyd; ond o blegid i'r ficer ei gerycîdu am ei esgeulsdod, nid jrn unig absennolodd ei hun y Sul canlynol, ac yn lle eistedd ym mhlith y bechgyn yn yr Eglwys, yn ol yr arferiad, ac yn hir wedi i'r gwasanaeth ddechreu, gwelwyd ef yn ymwthio yn lledradaidd i ryw gôr. 0*r amser hwn. efe, gan dybied gwneuthur ei hun yn ddyn, a arferai ystelcian ar hyd y fynwent ar ddydd sanctaidd Ouw, gan edrych yn llwdnaidd ar ei gymdeithion blaenorol, pan fyddent yn fintai hardd yn myned i'r Eg- Iwys. Pan yn bymtheg mlwydd oed, efe a rwymwyd 3rn egwyddorwas gyda haiarn- ydd mewn tref gymmydogaethol, a choll- odd y ficer ei olwg arno. Deuai yn ach- lysurol i bentref Llanolwen, i ymweled â'i rieni; ond bob tro yr ymwelai â'r lle, yr oedd hyny yn cael ei wneuthur yn hysbys, trwy i ryw fachgen neu gilydd gael ei arwain i droseddu un neu ychwaneg o reolau yr Ysgol. Ar un o'r ymweliadau hyn, cyfarfu Elis â bachgenyn yng nghylch dwy flwydd yn ieuengach nag ef ei hun. " I ba le yr ydwyt ti yn myned, Harri? " gofynai efe iddo, gan ymaflyd yn ei fraich. 17.—VII. " Yr ydwj'f yn mj7ned i'r ficerdy," atebai Harri. "Yr wyf mewn bwriad i gael fy nghonflirmio; ac ymae ein dosbarth ni yn cyfarfod am y tro cyntaf heno." " Mewn bwriad i gael dy gonfíìrmio!" ddywedai Elis. " Yr wyf finnau yn bwr- iadu hyny fy hun; ond nid oes dim brys yn ei gylch, canys nid ydyw'r confíirm- asiwn eto am chwech wythnos." "Miwn hyny," atebai Harri; "ond yr ydym i fyned ddwywaith yn yr wythnos at Mr. Williams, y Ficer, i gael ein par- otoi." " Pa ddaioni yw gwneuthur felly?" meddai Elis yn ddiystyrllyd ddigon; mae j'n ddigon i'r esgob eich bod yn gallu adrodd y Catecism; ac yn sicr, nid rhaid i chwi ei ail adrodd ddwsin o weithiau ym mlaen llaw." " Nid yn unig i ddywedyd y Catecism yr ydym yn myned i'r ficerdy," atebai Harri; " canys y mae Mr. Williams yn dywedyd wrthym, nad ydyw hyn ond rhan o'r parotoad sydd yn angenrheidiol i ni i'w wneuthur." "Ffolineb bob tipyn," meddai'r llall. " I ba beth yr ä bachgen bywiog a syn- wyrol fel chwi, ac o'ch oedran hefyd, i wneuthur pen cyssegredig yn nhy'r ficer, ar brydnawn teg a hyfryd fel heddyw, i wrando ar ei bregethau? Ni ddylai ddysgwyl ain danoch; a gellai foddloni ar eich cymhell i fyned ddwy waith i'rEglwys a'r Ysgol dydd Sul, heb fyned hefyd ddwy- waith yr wythnos." " Nid ydyw efe yn gosod gorfod arnom," atebai flarri; "canys ein hewyllys ni yw cael ein confíìrmio." "Nid oes genyf ddim i ddywedyd yn erbyn i chwi gael eich conífirmio," ddy- wedai Elis; " canys y mae yn beth rheol- aidd; ond nid ,oes unrhyw angen am wneuthur cymmaint o ystvvr am dano. Yn awr, Harri, byddwch chwi yn llanc,