Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H A U L. €i\îm €mîîi\ùìin. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIE DUW YN UCHAF." Rhif. 79. GORPHENAF, 1863. Cyp. 7. PREGETH GAN Y PARCH. HUGH M'NEILE, D.D., Yr hon a bregethwyd ganddo yn Sant Paul, Llundain, nos Sul, y 24ydd o Chwefror, 1863. ' Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a'm gwas, yr hwn a ddewisais."—Esaiah xliii. 10. Mae hwn yn dy mawr; mae'r gynnull- eidfa hon yn fawr; yr wyf yn teimlo fod hwn yn gyfleusdra mawr i genadwr yr Arglwydd Iesu Grist; ac yr wyf yn erfyn arnoch i wedd'io, ar fod i Dduw, trwy Grist, roddi i mi nerth a gras i wneuthur defnydd mawr o hono. A oes tragwyddoldeb o gydwybodol- rwydd byw, llym, teimladwy, athreiddgar, o flaen pob un o honom? Os nad oes, ac os y bywyd presennol yw y cwbl oll, bwy täwn ac yfwn; canys y fory marw yr ydym. Mewn geiriau ereill, byddwch yn benderfynol. Mae banner mesurau yn ddinystriol a thwyllodrus. Mae rhai yn ein plith â'u ffydd wedi cael eu siglo i ansicrwydd; mae yn ein plith ereill, er nad wedi eu siglo felly, eto, wedi eu gosod mewn cyflwr anghysurus, trwy fod am- mheuon yn 3'mwthio i mewn—fod rhyw beth yn yr holl dwrdd hwn yng nghylch anffyddiaeth. Duw y trugareddau, maddeu i'r ammheuwyr, ac i ledaenwyr ammheu- aeth; a sicrhâ dy Eglwys yn y gwirionedd a ddadguddiwyd yn dy anwyl Eab lesu— yr holl wirionedd, o'r wawr gyntaf yn yr addewid a roddwyd yng ngardd Eden, hyd y goleuni dysglaer, mawr, ac ysblenydd hanner dydd, a lewyrchodd ar fynydd yr Olewwydd. Gorphwysa'r ffydd Gristionogol ar ffeithiau hanesyddol. Os nad ydyw'r ffeithiau yn wirionedd, nid oes sail i'r ffydd. Os nad ydyw yn wirionedd i Iesu Grist ei gael trwy yr Ysbryd Glân, ei eni o Eair Forwyn, a'i groeshoelio, a'i farw, a'i gladdu, a chyfodi y trydydd dydd, ac iddo, yn yr hyn oll a berthyn i berffeithrwydd natur dyn, esgyn i'r nefoedd; os nad ydyw'r pethau hyn yn wirionedd, nid ydyw Crist- 25—vu. ionogaeth yn wirionedd, ac y mae eich ffydd yn ofer, ac yr ydym ninnau, y rhai a bregethasom i chwi yr Efengyl, yn dyst- ion gau a thwyllodrus i Dduw. Ym mha le, gan hyny, y mae ein tystion am wir- ionedd y pethau hyn? Mae'r ty hwn yn dyst; mae'r gynnulleidfa hon yn dyst; ac felly y mae pob cynnulleidfa yn yr holl Eglwys trwy yr holl fyd. Pawb a ym- gynnullant yng nghyd yn enw ac er addol- iad Iesu Grist; pawb a broffesant eu bod yn credu erthyglau Credo }Tr Apostolion; pawb yd}'nt yn ymwneyd, wythnos ar ol wythnos, i osod ereill dan yr un faniar trwy Fedydd; a llawer a wnânt goffâd o'r gwirioneddau mawrion hyn, er eu c}'sur eu hunain, yn Swper yr Arglwydd. Pa fodd y mae yn bod fel hyn? Pa fodd y mae, fbd cynnifer, yn y dwyrain ac yn y gor- llewin, yn y gogledd ac yn y deheu, yn gwneuthur hyn? Ein tadau a'n dysgas- ant felly, y rhai eu hunain a wnaent yr un modd. Hwy a wnaent hyn; ond pa fodd y daethant i'w wneuthur ? Eu tadau a'u dysgasant, a'u tadau hwythau a'u dysgas- ant hwy, ac felly yn ol, genedlaeth ar ol cenedlaeth, hyd pa bryd? Pa bryd y de- chreuwyd y gorchwyl? Dyma'r pwnc. Gofynwch i chwi eich hunain, pa bryd y gallasai ddechreu ? A ydy w yn gredadwy, i unrhyw genedlaeth o'r hiliogaeth ddynol, gychwyn coffadwriaeth o ffaith na chym- merodd le erioed, ac yn gwybod ar y pryd, na ddarfu iddi erioed gymmeryd lle? A ydyw yn gredadwy y buasai pobl Lloegr, mewn unrhyw gyfnod o'u hoes, yn dechreu cadw coffadwriaeth o'r pummed dydd o Dachwedd, pe na buasai'r ffaith îíanes- yddol o frad y powdwr gwn yn bod? Yr ydym ni yn arddelwi hanfodiad anwadadwy