Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H A U L. €t\ím ẅrftjẃììni YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. ÍCA GAÎB DUW YN ÜCHAF." rhi*. m. AWST, 1863. Cyf. 7. PREGETH GAN Y PARCH. HUGH M'NEILE, D.D., Yr hon a bregethwyd ganddo yn Sant Paul, Llundain, nos Sul, y 24ydd o Chwefror, 1863. •Fy nhystion i ydych, chwi, medd yr Arglwydd, a'm gwas, yr hwn a ddewisais."—Esaiah xliii. 10. (Parhâd o tudalen 198.) (4.) Fy nhyst nesaf yw yr Apostol îago. Yn yr ail bennod o'i Epistol, efe a ysgrifena, "Abraham, ein tad ni, onìd o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan off- rymodd efe Isaac ei fab ar yr allor ?" Dyma'r cyfeiriad a wna yr Apostol at wirionedd yr hanes a glywsoch ei ddarllen yn y Llith cyntaf yr hwyr hwn. " Wedi <ei gyfiawnhau trwy weithredoedd, pan off- rymodd efe ei fab ei hun ar yr allor." Yr oedd Abraham wedi ei gyfiawnhau yng ngolwg Duw fíynyddoedd cyn i'w fab gael «ì eni ; ond efe a gyfiawnhawyd yng ngolwg dynion fel cyfaill Duw; a pha fodd? Trwy waith ag ydoedd yn gamsyn- iadol? Trwy waith ag oedd yn ddychym- myg o'i eiddo ei hun? Trwy waith ag oedd yn weddill o'r eilunaddoliaeth y dyg- wyd efe i fyny ynddi? Nag e; nid oedd y rhai hyn ond gweithredoedd drwg. Ond trwy waith ag ydoedd yn ufudd-dod i Dduw yn erbyn anianduedd calon dyn. Pan orchymmynodd Duw iddo ladd ei fab, nid dyná'r tro cyntaf iddo siarad ag ef. Yr oedd Abraham wedi cael profiad o sîarad â Duw o'r blaen. Yr oedd Duw wedì dywedyd wrtbo ym mhell cyn hyny, y byddai iddo gael y mab hwnw yn ei henaint. Profodd y ffaith wirionedd yr hyn a ddywedwyd, ac nid peth newydd ydoedd i Abraham pan ymwelodd Duw ag ef drachefn. Yr oedd efe yn ailuog i wahaniaethu rhwng gorchymmyn ei Dduw a dychymmyg o'i feddwl ei hun; a phan y gorchymmynwyd iddo ladd ei fab, yr oedd yr hyn oll ag ydoedd yn ei natur yn ei dueddu i anufuddhau. Ond llwyddodd gras. Yr oedd gan yr Hwn a'i rhoes hawl 28,—vn. i'w gymmeryd ymaith tr wy unrhy w offeryn- garwch a ewyllysiai Efe, hyd yn oed trwy law tad. Ewyllys Duw yw sail yr hyn sydd gywir ac anghywir. Mae pob peth yn ei berchenogaeth Ef, ac y mae ganddo hawl i wneuthur fel y gwel yn dda â'r eiddo ei hun. Ewyllys amlwg Duw yw mesur dyledswydd pob creadur. Teimlodd Abraham felly; ac heb golìi ei ymddiríed yn yr addewid mai yn Isaac y gelwid iddo had, efe a ymbarotôdd i ufuddhatt i Dduw, a Hadd ei fab. Ni siglodd o blegid byrdra ei olwg mewn perthynas i'r hyn fyddai yn debygol o gymmeryd lle; ond edrychodd yn uwch; edrychodd ar ffynnonellau di- hysbydd ei Dduw, yr Hwn yr un mor hawdd a ellai adferu bywyd y llanc, a'i gymmeryd ymaith. Dyma lle yr oedd gorchwyl i gyfiawnhau ei honiadau ei fod yn gyfaill Duw. Dyma lle yr oedd gor- chwyl yn yr hwn y darfu i ufudd-dod i'r Creawdwr ddymchwelyd pob anewyllys- garwch o eiddo'r dyn ei hun. "Abraham, ein tad ni "—tad teilwng y ffyddloniaid— " onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor?" " Ond y mae hyn yn cynnwys nad oedd camsynied." O! goehelwch, gochelwch yr arddangosiadau dichellgar sydd â thuedd ynddynt i wanhau eich ymddiried yng ngwirionedd yr amgylchiad, heb gyhoeddi unrhyw wrthwynebiadau penodol iddö, ond yn unig lledawgrymu nad oeddynt yr hyn yr ymddangosant eu bod yn yr hanes, ac felly yn gwanychu ymddiried y galon—îe, ymddiried yr enaid yng Ngair Duw, yr hwn "sydd weii bod yn graig.