Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

R H A UL €§îm €mxîì\ẁìmt YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. Í£A GAIR DUW YN UCHAF." Ehip. 81. MEDI, 1863. Cyp. 7. PRE GE TH. ' Y mae y Tad yn caru y Mab."—Ioan iii. 35. Y mae dadleu mawr rhwng dynion mewn perthynas i'r oruchwyîiaeth o d-an ba un y hu loan Fedyddiwr yn bywac yn gŵeinidog- aethu. Mae rhai yn barnu mai byw o dan yr hen oruchwyliaeth a wnaeth; ond barna ereill eto mai byw o dan y newydd a wnaeth ; ond dywed ereill drachefn ddarfod iddo fyw ar gyffiniau y ddwy, ac felly ei fod yn cys- sylltu yr hen oruchwyliaeth a'r newydd â'u gilydd. Ac y mae yn ymddangos i mi, fod ein Harglwydd Iesu Grist ei hun wedi cad- arnhau'r golygiad olaf hwn i raddau, beth bynag, pan y Uefarodd y geiriau hyn am loan, " Yn wir, meddaf i chwi, ym mhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag loan Fedyddiwr ; er hyny, yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd sydd fwy nag ef." Ac fel hyn, ni a welwn fod Ioan yn un o'r rhai mwyaf o dan yr hen oruchwyliaeth, ond ei fod yn llai na'r lleiaf o dan y newydd. Ond gan nad o dan ba oruchwyliaeth y bu loan Fedyddiwr fyw, y mae yn ddigon amlwg fod cysgodau yr hen oruchwyliaeth, yn ei arnser ef, wedi diflanu i raddau mawr iawn, a bod sylweddau goruchwyliaeth y Testament wedi dechreu cael eu hamlygu ym mhell tu draw i'r hyn a wyddid arn danynt gynt. Fe gafodd Ioan Fedyddiwr y rhagorfraint, nid yn unig i ddangos Iesu Grist i'r bobl megys â'i fys, gan ddywedyd, " Wele Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," ond efe a gafodd hefyd y rhagorfraint o ddwyn amrywiol o dystiolaethau eglur ac anwadadwy am Grist, y rhai ni wyddid ond ychydig, mewn cymhariaeth, arn danynt o'r hlaen. Ac ym mhlith llawer o bethau ereill, fe lefarodd Ioan eiriau'r testyn am Grist, ac yr oeddynt yn eiriau mor wirioneddoi a sylw- eddol am dano, fel y darfu iddo Ef ei hun, ' yr Hwn yw y Gwirionedd a'r Bywyd," roddi ei sel arnynt yn un o'r penodau can- tynol, naill ai trwy ddyfynu geiriau Ioan, 33.—vn. neu ynte trwy ddefnyddio yr un geiriau yn anfwriadol am dano ei hun ag a lefarodd Ioan yn barod (v. 20). Nid oes a wnelwyf ar hyn o bryd ond â'r rhan gyntaf o adnod y testyn, sef, " Y mae y Tad yn caru y Mab." Ac o bob rhan o'r Ysgrythyrau Sanctaidd ag y bûm i erioed yn ceisio ymdrin â hi, y mae hon, pan gofiwyf am hanes darostyngiad, tlodi, a dyoddefaint fy Ngheidwad mawr, yn ymddangos i mi, ar yr olwg gyntaf fell'y, yn fwy ammhëus, ac annichonadwy i'w chyssoni â'r driniaeth arw, yr hon a dderbyniodd Efe oddi wrth Dduw a dyn, na braidd unrhyw ran arall trwy'r holl Feibl. Tir sanctaidd yw geiriau'r testyn, ac er bod yn rhaid i mî " ddiosg fy esgidiau oddi am fy nhraed" cyn sengu arno, eto, mi a anturiaf, trwy gymhorth Duw, i ymweled ag ef. I. Yn nacaol, Y mae dau du i'r ddalen yn perthyn i eiriau'r testyn hwn. Ymae un tu iddi yn edrych yn dywyll ac yn ammhëus iawn ; ond y mae'r llall drachefn yn edrych yn oleu, yn gadarnhaol, a gogoneddus. Ac yn aw •, gadawer i ni edrych ar yr ochr dywyll ac-j'am bëus yn gyntaf; a thra ybyddom yn ceisio darllen a myfyrio ychydig ar hon, bydded i bawb o honoch gadw mewn cof, bod dau berson neillduol yn cael eu crybwyll yn y testyn, sef y Tad a'r Mab, ac mai nid llai yw y Tad hwn na Duw Hollalluog ei hun, ac mai nid llai yw y Mab hwn eto na'n Har- glwydd a'n Hiachawdwr, Iesu Grist. Y mae braidd yn afreidiol i mi grybwyll wrthych, ond eto mi a wnaf hyny er mwyn eglurhau fy hun, sef, bod pob creadur ar y ddaiar, o'r cawrfil mawr yn y coed, i waered hyd at y trychfil gwael, yn caru ei blant neu ei gywion, a hyny gyda'r fath anwyldeh mawr, fel y gwelir hwynt, o'r cryfaf hyd at y gwanaf o honynt, yn barod i golli eu bywydau eu hunain er mwyn ceisio amddiffyn bywydau eu plant, panyr ymosodir arnynt gan un-