Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

R H A U L. (íîffre (íittrfipìẁiii. TNG NGWTNEB HAÜL A LLTGAD GOLEUNI. "A GAIE DUW TN UCHAF." Rhif. 82. HYDREF, 1863. Ctp. 7. YR EGLWYSI BOREUOL. Mae rhai wedi dadîeu, a dichon bod rhai yn parhau i ddadleu, nad oedd gan y prif Gristionogion adeiladau wedi cael eu gwneuthur i'r dyben o ymgynnuîl ynddynt i addoli, am y tair canrif gyntaf. Seilir y dyb hon oddi ar gamsyniadau a wneìr oddi wrth ymadroddion gan Origen, Min- ucius Eelics, Arnobius, a Lactantius, y rhai a ddy wedant nad oedd gan y Cristionogion demlau. Crybwyllir yn Actau yr Apos- tolion yn fynych am yr oruwch j'stafell, yr hon oedd yn gyfagos i fynydd S'ion, lle y gweinyddodd yr Arglwydd y Swper Sanct- aidd, a lle yr oedd yr Apostolion yn ym- gynnulledig pan syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, a lle yr ymddangosodd Cr'ist hefyd ddwy waith i'w ddysgyblion, gwedi €Ì adgyfodiad oddi wrth y meirw.—Ioan xx. Yn yr oruweh ystafell hon yr etholwyd y rhai a elwir y Saith Diacon, ac y cynnal- iwyd Cynghor Cyntaf Ierwsalem. Yr oruwch ystafell hon oedd yr Oihos, neu dy y cynnulliad, am yr hwn y crybwyllir yn Actau ii. 46; "A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn tori bara o dy i dy;" hyny yw, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd wedi eu dychweliad o'r deml; canys y mae amry w o feirniaid yn cyfieithu en oiko, " yn y ty," ac nid " o dy i dy;" sef yn y ty lle yr oedd y gynnulleidfa yn arfer ymgynnull. CrybwyÌìa Eusebius am y therapeutai yn yr Aipht, bod gan y Crist- ionogion eu semneia, neu leoedd wedi eu gosod at addoliad dwyfol er dyddiau Sant Marc. Gwneir crybwylliadau mynych gan Sant Paul, yn ei Èpistolau, at y lleoedd yr ymgynnullai y Cristionogion boreuol ynddynt i addoli; "Anerchwch yr Eglwys ^eíyd sydd yn eu ty hwy;" "Y mae Acwila a Phriscila, gyda'r Eglwys sydd yn eu ty hwynt, yn eich anerch chwi yn yr ArglWy(j(j yn fynych; " "Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymphas, a'r Üglwys sydd yn eu ty hwyntj" "Ac at 37.—vii. Apph'ia, ein hanwylyd, ac at Archippus, ein cydfilwr, ac at yr Eglwys sydd yn dy dŷ di." Mae yn amlwg oddi wrth hynyna bod y personau y crybwyllir am danynt yn yr anerchiadau blaenorol, wedi neillduo rhanau o'u tai at addoliadau dwyfol, a gwasanaeth crefyddol y cynnulleidfaoedd Cristionogol boreuol. Dywed awdwr y liecognitions, dan enw Clemens Romanus, am y Theophilus y tybir i Sant Luc gyf- Iwyno ei Efengyl iddo, ddarfod iddo yn Antiochia droi ei dy yn Eglwys. Dywedir gan yr haneswyr boreuol hefytl am Pudens,, seneddwr a merthyr Rhufeinig, i'w dy gael ei droi yn Eglwys ar ol ei farwolaeth. Gyda golwg ar ganrif cyntaf Cristionog- aeth, dyweda Clemens Romanus, yn ei Epistol at y Corinthiaid, i Dduw ordeinio, yn gystal a chymhwyso lleoedd, amserau a phei'sonau, trwy y rhai y gwasanaethid Ef, fel y byddai i bob peth gael eu gwneu- thur yn grefyddol ac mewn trefn. Yn yr ail ganrif, y mae Ignatius, yn ei Epistol at y Magnesiaid, yn eu cynghori i ymgynnull yng nghyd mewn un lle, yr hwn a elwir ganddo ton naon Theou, sef Teml Dduw; ac yn ei Epistol at y Phila- delphiaid, y mae yndywedyd, bod un allor i bob Eglwys, ac un esgob, a'i henuriaid, a'i ddiaconiaid. Yn yr un cyfnod, Pius, Esgob Rhufain, a ysgrifenodd ddau Epistol byrion at Iustus, Esgob Vienna, yn _ y cyntaf o'r rhai y dyweda am Euprepia, hynafwraig dduwiol, iddi roddi teitl ei thy i'r Eglwys, i gyflawnu gwasanaeth cref- yddol ynddo. Ac yn yr Epistol arall, y mae Pius yn canmol un Paston, yr hwn oeid yn bresbyter, neu henuriad, am iddo adeiladu Titulus, sef Eglwys, cyn ei farw- olaeth. Cyn diwedd yr ail ganrif, y mae Clemens Alecsandrinus yn defnyddio yr enw Eclesia, Eglwys, am le y cynnulliad, yn gystal ag am y gynnulleidfa ei hun; ac nid unwaith na dwy y mae yn gwneyd hyn.