Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L . €i\îm (torfyrMriîî. "TNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAE." Rhif. 88. EBBILL, 1864. Cyf. 8. CANIADAU SION. "Ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctyd, ac megys yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aipht."—Y Pbophẃyd Hosea. Pan ddaeth yr Hollalluog Dduw allan megys o gyssegr ei sancteiddrwydd, i wynebu ar y gwagle mawr ac ofnadwy, er mwyn gosod i lawr seiliau a cholofnau y greadigaeth, Efe a ddaeth at y gorchwyl mawreddog hwn, yn rhyfeddodau ac yn nerthoedd ei gadernid. A phan y mae Efe yn ymddyddan â'r patriai-ch Iob, ac yn ei holi am ei wybodaeth yng nghylch creadigaeth y byd, y mae yn gofyn iddo, "Pa le yr oeddyt ti pan sylfaenais i y ddaiar? Mynega os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi? " Yr oedd y greadigaeth yn orchwyl mawreddog — hauliau, a'u bydoedd yn troi ac yn ysgogi oddi amgylch iddynt — ser afrifed yn chwareu draw yn yr eangderau—trefn yn argraff annilëadwy ar y cwbl oll, a ser y boreu, pan welsant y gwaith, yn cydganu, a holl feibion Duw yn llawenhau. Dyma'r canu cyntaf y mae genym hanes am dano; ac yr oedd y canu hwn yn glod- ydd i'r Arglwydd Hollalluog am waith y greadigaeth, yr hwn a wnaed trwy Gyf- ryngwr, " yr hwn a wnaeth Efe yn Etifedd pob peth, trwy yr Hwn hefyd y gwnaeth Efe y bydoedd. Canys trwyddo Ef y erewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaiar, yn weledig ac yn anwel- edig; paun bynagai thronau, ai arglwydd- iaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo Ef, ac erddo Ef." Yn ol yr hyn a ddywedir yn Llyfr Iob, pan ddaeth y greadigaeth i fodolaeth, pan welwyd ei harddwch a'i gogoniant, a phan ganfuwyd ei chyssondeb a'i threfn, rhoed rhyw ganiadau o glodforedd rhy- feddol i'r Bod mawr tragwyddol, gan ryw gorau dyrchafedig fry yn yr eithafion, ag sydd wedi bod yn deiìwng o gael ei goffäii gan eneu Duw tragwyddol ei hun. Yn y cyfnod cyn y diluw mawr, nid ydym yn darllen am ddynion ar y ddaiar yn clodfori Duw mewn caniadau, ond yn hytrach am gynnydd drygioni dyn ar y ddaiar; canys " Duw a edrychodd ar y ddaiar, ac wele, hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaiar." Am oesau gwedi'r diluw, yr ydym yn cael dyn, yng nghronicl yr hanes ysbrydoledig, yn fud mewn perth- ynas i ddyrchafu ei glodforedd mewn cân i Arglwydd y nefoedd a'r ddaiar,^ hyd y waredigaeth fawr a rhyfeddol a gafodd had Abraham o dy eu caethiwed yng ngwlad yr Aipht. Yr oeddynt wedi bod yn y pair haiarn am yng nghylch pedwar can mlynedd. Yr oedd yn galed, ac yn galed iawn arnynt. Yr oeddynt mewn gwasgfeuon mawrion, ac mewn ingoedd di- gyffelyb yn dwyn eu beichiau. Ond dydd eu gwaredigaeth a ddaeth: Duw Ior eî hun a ddiosgodd fraich ei gadernid; ac â'i wynt nerthol, Efe a holltodd ddyfroedd dyfnion y Môr Coch, ac a arweiniodd ei bobl ar hyd ffordd balmantedig trwy y dyfnder mawr; ac wedi cyrhaeddyd yr ochr draw, "canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r Arglwydd." Dyma'r canu cynnulleidfaol cyntaf y darllenir am dano yn yr Ysgrythyr Lân; ac y mae ei chlod- foredd i'r Arglwydd yn fawr, am y wared- igaeth a wnaeth Efe i'w bobl; ac y mae ei swn yn dattod dyn oddi wrth rwymau y bywyd hwn, ac yn ei ryddhau oddi wrth faich y cnawd, ac yn dyrchafu ei enaid hyd i'r gororau fry. "Canaf i'r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchogwr i'r môr. Ey nerth a'm cân yw yr Arglwydd; ac y mae Efe yn iachawdwriaeth i mi: Efe yw fy Nuw: Efe a ogoneddaf fi: Duw fy nhadau; a mi a'i dyrchafaf Ef. Pwy sydd debyg i ti,