Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L €$m <!toŵ|riẁk "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhip. 89. MAI, 1864. Cyp. 8. DYFFRYN YR YSGRIFEN YN HOREB. Y mae hoìl anialwch creigog Horeb yn edrych o bob man yn eithaf erchyll. Cytuna ei agwedd ef i'r dim ag ystyr ei enw, canys meddwl y gair choreb yw erasdir, neu ie wedi cael ei sychu i fyny yn hollol gan wres. Ar yr edrychfa gyntaf arno, ni chanfyddir dim ond ucheldir llwm, noeth, newinllyd, ac yn gynnwysedig o fynyddoedd o greigiau coch- ion : yma yn dyrchu i fyny i ryw uchder an- ferthol, gan beri dychryn i'r galon ddewraf; a draw yn rholio ymaith tua'r terfyngylch yn fân fynyddoedd dirif fel tònau y môr. Ond yma, dros ei ben a'i glustiau yng nghanol y mynyddoedd hyn, y gorwedd ambell ddyíFryn hardd a pharadwysaidd, yn llawn o balmwydd ucbelfrig, tamarisg plufog, a llawer o lysiau peraidd ereill. Dyfrhëir hwynt gan gornentydd bychain, y rhai, o'u cartref fry yn uchei yn y mynyddoedd, a ddisgynant i waered gyda swn sisialaidd o graig i graig, ac o bwll i bwll, gan dori â'u bwrlwm ddystawrwydd pruddaidd y dyffryn. Ond er eu holl hawddgarwch, ac er eu holl lendid, nid oes yma nemawr o neb i fwynhau yr olygfa, gan eu bod yng nghanol y fath le anhygyrch ; eithr gadewir iddynt wastraífu eu gwenau siriol a'u harogl peraidd ar y mynyddoedd cribog; ac y maent fei y dywed yr enwog fardd Gray,— " Y mae'r blodau teca'u Uiwiau, Lle nas gwelir byth mo'u gwawr, Draw yn taenu per aroglau, Lle na sylwa neb mo'u sawr." O'r gwahanol ddyffrynoedd hyn sydd oddi amgylch Sinai, y mae un yn myned dan yr enw Wady Muhatteb, hyny yw, Dyffryn yr Ysgrifeniadau. Rhoddir iddo yr enw hwn am fod llawer o hen ysgrifeniadau yn gerf- iedig ar y creigiau o wenithfaen, a safant fel mur ar ei ddau tu. Gelìir canfod rhai o honynt hefyd yn y dyffrynoedd ereill, ac yn enwedig yn y gwastadedd sydd o dan mynydd Sinai; ond yma y mae y rhan luosocaf, a'r 17—vm. rhai mwyaf nodedig. Y mae Laborde, un o'r teithwyr mwyaf enwog yng ngwledydd y Dwyrain, yn dywedyd am y dyffryn hwn fel hyn :—"Cychwynasom ym inlaen trwy Wady Mukatteb, yr hyn a feddylia Dyffryn yr Ysgrifen, a gwelsom y creigiau wedi cael eu britho gan argraffiadau am yn agos i dair milltir o ffordd. Canasom yn iach i Fynydd yr Ysgrifen, a marchogasom ym mlaen am awr o amser; ond parhäem o hyd i ganfod y nodau dyeithrol hyn wedi eu cerfio yn y creigiau, ac yn cyrhaedd i'r uchder o bedair llath o'r gwaelod; ac er fod yn ein plith ddynion yn deall Arabaeg, Hebraeg, Gròeg, Syriaeg, Coptaeg, Lladin, Armenaeg, Tyrc- aeg, Seisoneg, Illyraeg, Almaeneg, Ffranc- aeg, a Bohemaeg, er hyny ni allai un o honom wneuthur un iod allan o'r llythyrenau hyn." Gwelwn wrth hyn na ŵyr neb gyda sicr- wydd pwy a'u hysgrifenodd, neu beth ydyw eu cynnwysiad, nac ychwaith ym mha iaith y n\aent. Barna yr hen dadau iddynt gael eu hysgrifenu gan yr Israeliaid, tra yn yr anialwch; a thybia Cosmos, teithiwr enwog yn y chweched ganrif, iddynt eu hysgrifenu fel hyn ar y creigiau mewn ffordd o arferiad er mwyn perffeithio eu hunain yn y gelfyddyd o ysgrifenu, yr hon a newydd dderbyniasant oddi wrth Dduw yn Sinai. Y mae hynaf- iaethwyr yr oes bresennol am wadu hyn, a thystio mai gwaith rhai o'r Aiphtiaid ydyw, ar y sail fod llawer o'r arwyddluniau a welir ym mhlith yr ysgrifeniadau yr un fath ag a arferai yr Aiphtiaid. Gwir yw, yr arferai yr Aiphtiaid gofnodi dygwyddiadau eu teyrnas trwy yr un fath arwyddluniau; ond nid yw hyny yn brawf digonol nad yr Israeliaid a gerfiasant y Uythyrenau hyn yn y creigiau, yn gystal a'r arwyddluniau ; canys gallent eu ffurfio hwynt yn ol cyfundraith yr Aipht- iaid, o dan olygiad Moses, am yr hwn y dywed yr Ysgrythyr yn bendant, ei fod wedi caei ei ddwyn i fyny yn holl ddysgeidiaeth ys