Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RTT A TT T __L JL JL jL. h_v Jl_À €vfm torfijrìẁm. YNG NGWYNEB HAUL Â LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DUW YN UCHAP." Rhif. 90. MEHEFIN, 1864. Cyp. 8. A YDYCH CHWÍ YN DDIOLCHGAR AM EICH SYNWYR? Un boreu hyfryd o haf, pan oedd cerbyd yr haul yn oreuredig yn esgyn i'r cyhyd- edd, a'r aweîon mwynion yn cludo aroglau per y dyffrynoedd, ac yn eu gwasgaru ar hyd llanerchau y wlad; yr oedd gwr bon- eddig yn rhodio yn ymyí gwallgofd}7, pan yn ddisymmwth teimlai law yn cael ei gosod ar ei ysgwydd, a llais yn ei glust yn gofyn iddo, "A ydych chwi yn arfer rhoddi diolch i'ch Creawdwr am eich synwyr? " Efe a droes yn chwimmwth at y llais a swniai yn ei glust, a chanfu mai un o dru- «iniaid y gwallgofdy oedd y gwr a'i han- erchodd mor ddisymmwth. Pa ryfedd i'r gwr boneddig deimlo, a theimlo i'r by w, pan ddeallodd i'r cwestiwn gael ei roddi iddo gan un ag }'doedd wedi colli y fendith werthfawr hon? A pha ryfedd iddo, dan deimladau c^'ffröus, dra- chefn a thrachefn, osod y cwestiwn yn ddwys a sobr iddo ei hun, "A ydwyf íi, mewn gwirionedd, ryw bryd yn diolch am fy synwyr? " Mae genym oll yr achos mwyaf i arafu, ac i sefyll yn y fan hon, ac nid hyny yn <unig, ond gofyn hefyd i ni ein hunain, pa ateb fuasem ni yn roddi i'r gofyniad hwn, pe llefarasid yr ymadrodd wrthym? A ydym ni, pan yn myned i orphwys i'n gorweddleoedd noswaith ar ol noswaith, a phan y byddom yn cyfodi, foreu ar ol boreu, yn y meddiant o'n cof a'n synwyrau, yn ystyried yn ddifrifol, fod Tad y trugar- eddau yn dirion iawn wrthym, pan yn cadw fel byn ein synwyrau i ni? A ydyw yn beth cyffredinol a dieithriad, fod eu synwyrau a'u galluoedd meddylgar yn cael eu cadw fel hyn i ddynion? Mae Ilawer yn ymddwyn ac yn gweithredu megys pe fel hyn y mae yn rhaicì iddi fod, ac nid fel arall: ond och! gall i ni ar ryw noson; gall i ni ar ryw ddiwrnod; 'ie, gall i ni ar fynydyn gael ein dysgu, nad y w ein bendithion mor ddiogel ag y dichon i ni 21—vin. feddwl eu bod. Gall ychydig o wythnosau, dyddiau, oriau, neu fynydau ysgubo ymaith yn llwyr y bendithion gwerthfawrocaf ac anwylaf sydd yn ein meddiant. Ac wrth gymmeryd yr ystyriaethau hyn yn ddifrifoì dan ein sylw, ymddengys ei fod yn ddyled- swydd bwysig iawn arnom ni, i beidio gadael noswaith i fyned heibio, na diwrnod i ddiengyd, heb offrymu fyny i'r orsedd raslawn a bendigedigfry, ein diolchgarwch a'n mawl, am fod y trugareddau a'r ben- dithion hyn yn -cael eu parhau i ni. Ac, nid yn unig diolchgarwch sydd yn ddyledus oddi wrthym; canys y mae prawf arall o ddiolchgarwch i'w ddysgwyl oddi wrthym ni. Nid ydym yn golygu bod unrhyw ddyn yn gwerthfawrogi yr hyn a gyfrenir iddo, os bydd yn ei roddi naill oehr, ac yn *ei adael heb ei ddefnyddio. Os bydd i ni mewn gwirionedd roddi diolch am ein synwyrau, y mae yn rhaid i ni fod yn ofalus i wneuthur y goreu o honynt, a'u defnyddio yn y fath fodd, fel y gailo ereill, yn gystal a ni ein hunain, fod yn well ac yn ddedwyddach o'n bod ni yn eu meddiannu. Gadëwch i ni am fynyd i synied, pa beth yw ein synwyr neu ein rheswm, a pha beth a fuasem, neu a fyddwn, heb- ddynt. Yr ydymbawb ohonom, ond odid, yn ystod ein bywyd, wedi gweled, neu yn adnabod rhai heb fod yn faddîannol ar eu synwyrau. Dichon bod rhai o'r cyfryw yn ein hardaloedd, a welir genym ddiwr- nod ar ol diwrnod. Mae y dyn ansyn- wyrol yn wrthddrych ö dosturi mawr! Gweìwch fel yr eistedd ar y fainc gareg wrth y drws! Yr haf yn ei brydferthwch wedi dyfbd; ond yn ddîsylẅ ganddo efî Y blodau yn amryliw yn gwenu arno; ond yn ddisylw ganddo ef! Yr adar o'r llwyni vn canu iddo; ond yn ddisylw ganddo ef! Mae yr olwg arno, druan ag ef, yn profi ei fod yn ansynwyrol 1 Yn awr, pan yr