Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

R H A U L . Crçfra (íawfi[rŵk YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNî. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhip. 91. GORPHENAF, 1864. Cyp. 8. PENTEWYN YN CAEL EI ACHUB O'R TAN. Dirw y rhyfeddodau yw Daw, yn ei holl weithredoedd nerthol yng nghreadigaeth pob peth, ac yng nghynnaliaeth pob peth, ac yn ei ofal rhagluniaethol am bob peth. Y mae Efe yn rhyfedd yn yr hyn sydd uwch ben yn yr eangderau aiioìrheinadwy, ac yn y dyfnderau diwaelodion sydd oddi tanom, ac yn y ewbl oll sydd yn ein ham- gylchynu. Yr ydym yn byw, yn ymsym- mud, ac yn bod yng nghanol rhyfeddodau; a phan yr edrychom ac y sylwom ar y rhyfeddodau hyn, y mae un rhyfeddod yn esgor ar bob rhyfeddod arall, ac yn ein synu i ddystawrwydd, ond yn unig dy- wedyd gyda lob, " Yr Hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif." Ond er mor fawr yw pethau Duw yn allanol, ae er mor aneirif yw ei ryfeddodau yn allanol, y maent yn cilio allan o'r golwg i'rcysgodau, yn ymyl ei ryfeddodau yng nghadwedig- aeth ei Eglwys, yr hon sydd yn mordwyo tua'i gwlad ar gefn tònau geirwon, a thrwy y tymmestloedd chwerwaf a all uffern, yn holl gynddaredd ei llid, i chwythu arni er ei rhwystro. Gallesid meddwl fod yr Eglwys Iuddewig yn myned i drancedigaeth, pan yn gwy- nebu ar dy ei chaethiwed draw yngngwlad Caldea; a gallesid meddwl bod yr anadliad diweddaf yn chwareu ar ei gwefusau, pan ddyferai yr ymadroddion cwynfanus can- lynol o'i gwefusau : — " Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am S'ion. Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau." Ond ei Phriod oedd yr hwn a'i gwnaeth, ac Arglwydd y Uuoedd yw ei enw Ef, a gofalodd am dani yn nhir ei chaethiwed, a daeth yn ol â llais cân a moliant yn ei law Ef, a rhoddwyd hi drachefn yn ei dinas a'i gwlad ei hun, i etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanneddol. Mae yr Eglwys, gwedi ei hadferiad yn ol i'w dinas a'i gwlad, yn 25—vin. wyw ac yn llesg iawn i ymgymmeryd â'r gwaith o adgyweirio yr adwyau a wnaed yn ei muriau. Ac mewn gweledigaeth, yr hon a roddwyd i'r Prophwyd Secharia, y mae yr Eglwys yn cael ei phersonoli ym mherson losuah, mab Iosedec yr archoffeir- iad, gwrthwynebwyr yr hwn a safent yn ei erbyn; ond cyhoeddid ef yn bentewya wedi ei achub o'r tân. Yr Eglwys yn neillduol ydoedd Iosuah yn y weledigaeth, ac y mae yr Eglwys trwy yr oesau yn y tân, ond yn cael ei hachub gan alluog law Duw o'r tân. Gwelodd Moses, ar fynydd Horeb, y berth yng nghanol y tân; ond er yng nghanol y tân, yr oedd yn berth heb ei difa. Bu yr Eglwjs am yng nghylch pedwar can mlynedd yn y tân yng ngwlad yr Aipht; ond am fod y cyfammod yn gylch am dani, ni losgwyd hi, ond a achubwyd fel pen- tewyn o hono. Ac yn y weledigaeth am Iosuah yr archoffeiriad, y tân oedd caeth- iwed Babilon; ond er bod yn ei ganol am ddeng mlynedd a thrigain, ao er bod plant y gaethglud yn ofni mai yn ulw yr aent yn y caethiwed, eto llais yr udgorn mawr a dorodd ddorau eu carcharau, ac a ddryll- iodd eu cadwynau, ac a'u dygodd i'r hen etifeddiaeth ddymunol mewn llawenydd a gorfoledd mawr. Achubwyd hi fel pen- tewyn o'r tân. Mae dyn, yn ei gyflwr natur, yn ben- tewyn, ac felly mewn perygl o gael ei ddinystrio yn dragywydd. Anhawdd iawn y w cael dyn i sefyU yn ystyriol uwch ben ei gyflwr, ac anhawdd iawn ydyw cael ganddo i gredu fod ei gyflwr trwy bechod cynddrwg ag y mae mewn gwirionedd. Ond y gwir yw, y mae dyn, îe, pob dyn, yn bechadur; "O blegid pawb a bechas- ant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw." Dan yr enw pechaduriaid y crybwyllir am ddynion yn yr Ysgrythyr Lân, ac fel pechaduriaid y gelwir hwy gan yr Efengyì