Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

220 YR HAUL. ddigon i'w ddyweyd. Dywedodd ei fod wedi bod mewn rhyw nifer o fanau heb law lle yr oedd yn bresennol: yn Geneva, ac amryw fanau ar y Cyfandir: yn Llun- dain, ac mewn manau ereill, a cher bron dynion ereill, ac wedi bod yn anerch cystal dynion ag oedd yn y man a'r lle ar y pryd, ac na alwyd arno erioed o'r blaen i fihafio. A thynodd ei rasp yn lled arw dros y Tutor Morris. Ond yr oedd yn rhaid i'r myfyr- wyr wneuthur apology: ond dy wedodd y Tutor arall, sef Roberts, " I shall not accept of it." Yng ngwyneb hyn, cyfod- odd un ar ei draed, a dy wedodd, " In that case, Mr. Roberts, we are to understand that you tender your resignation." " No," ebai'r Tutor Roberts, " I do not intend to tender my resignation;" ac aeth i gwiblan, a'r rhan amlaf yn chwerthin yn eu dyrnau. Aeth y Dr. Evan Davies, Abertawy, i gyf- ansoddi apology dros y myfyrwyr; ac nid oedd neb yn fwy cymhwys at y gwaith: ac heb braidd gyffwrdd â gwreiddyn y pwnc, derbyniwyd hi. Sylwyd bod y gair resignation yn swnio yng nghlustiau y Tutor Roberts, fel swn durlif yn ei gwaith. Ifor. Mawr y chwennychaswn weled yr apology. Sierlyn. Yr wyf yn dirgel gredu y caf fi olwg arni cyn hir. Rhyw flynyddoedd yn ol, darfu i un o aelodau'r Senedd ddyweyd rhywbeth yn Nhy y Cyffredin, y barnwyd fod yn rhaid iddo wneuthur apology am yr hyn a ddywedodd. Bu yn orfyddig iawn ganddo godi; ond rhaid oedd codi, a phan gyfododd, yr oedd yr holl aelodau yn gwrando am eu bywyd; a thyma yr apology ganlynol yn taro ar eu clustiau:—"I said it—it is true—and I am sorry for it." Ifor. A dderbyniwyd yr apology ? Sierlyn. Do; ac ni ryfeddwn i ddim, nad rhywbeth cyffelyb oedd yr apology a saer- nîwyd i fyfyrwyr Aberhonddu, i'w gwneu- thur i'r tutoriaid. Ifor. A ydyw'r fusnes ar ben? Sierlyn. Dechreu y mae. Y mae com- mittee mawr mis Medi, ym mater y tutor- iaid, yn llosgi ffyn y myfyrwyr, ac yn cloi eu cwcyllau, yng nghyd â rhyw betheuach ereill, lawer iawn, mi warantaf erbyn hyny. Ifor. Mae yn debyg mai brasbwytho y rhwyg a wnaed, i gael rhwyg fwy mewn amser dyfodol. Pwy bynag fydd byw, fe welir y cornwyd hwn yn tori yn llidus eto. Inulîjgiufl îj Wm% PARTHSYLLYDD Y DR. EMLYN JONES. Daêth y rhifyn cyntaf o Barthsyllydd Dr. Emlyn Jones i law, ac y mae yn rhoi pob boddlonrwydd i ni. Dylai'r gwaith hwn gael cefnogiad cyffredinol, canys llyfr i holl Gymru, ac i bob Cymro ydyw; ac y mae ei gyfansoddiad wedi peri llafur mawr. Gallem ni feddwl fod digon o agerdd yn y Parthsyllydd hwn i weithio ei ffordd ym mlaen,hebun math o bwffo cynnorthwyol; canys y mae edrych yn fras dros ei dudal- enau, ar unwaith yn dangos ei werth. Ni eliir bod yn rhy ofalus gyda llyfr o natur yr un hwn sydd dan sylw. Edrycher yn fanylach ar y proof sheets; canys pe y gwnaethid hyn, ni ddywedasid bod 14 milltir o Aberdyfi i Dowyn. (ÍDHgl i| Cprnm. GWEHELYTH JOHN JOHNES, YS- WAIN, DOLAU COTHI, SWYDD CAERFYRDDIN. John Johnes, Ysw., Dolau Cothi, Swydd Caerfyrddin, Dadleuwr o'r Gyfraith, a Barn- wr yn y Llysoedd Sirol am íiynyddoedd, a aned yn y flwyddyn 1800, a briododd yn 1822, ag Elizabeth, unig ferch y Parchedig John Edwardes, o Gîleston Manor, Swydd Forganwg, a chanddo ddwy ferch, sef Char- lotte-Anna-Maria, ac Elizabeth. Dilynodd ei dad yn 1815. Mae'r teulu hwn yn hynafol iawn yn Sir- oedd Caerfyrddin a Cheredigion, gwedi hanu o Rhys ab Gronw ab Einon, yr hwn a briod- odd Margaret, neu Mary, merch a chyd- etifeddes Gruffydd ab Cydrych, Arglwydd Gwynfe, o ferch a chydetifeddes Howel, Ar- glwydd Caerlleon. Ei fab, Ehjdr ah Rkys, a briododd Gwladys, merch Phylip ab Bach ab Gwaithfoed o Es- gairfach, yn Sir Forganwg, ond yn ol hanes- ion ereill, â inerch Cadwgan ab Iorwerth ab Llywarch. a chafodd fab, Syr Elydr Ddu, neu Leonard Ddu, Marchog y Beddrod, yr hwn a briododd Cecil, merch Sitsyllt ab Llywelyn ab Mor- eiddig Warwyn, Arglwydd Cantreselyf, ac ym mhlith ereill cafodd fab, Phylip ab Elydr, yr hwn a briododd Gwladys, merch Dafydd Fras ab Einon Goch ab Gruffydd ab Einon Fychan, yr hwn, ym mhlith ereill a gafodd fab, Nicholas ab Phylip, yr hwn a briododd Jemmett, merch Gruffydd ab Llywelyn, ac yr oedd yn dad i Gruffydd ab Nicholas, o Newton, yn Sir Gaerfyrddin, yr hwn a briododd yn gyntaf â Mably, merch Meredydd ab Donn, o Gydweli; ac yn ail, â Margaret, merch Syr John Perrot, o Sir Benfro ; ac yn drydydd, â Jane, merch a chydetifeddes Jenkin ab Rees. Lladdwyd Gruffydd yn Wakefleld, pan yn ymladd ym mhlaid ty Caerefrog, ac a gafodd lawer o blant o'i dair gwraig. Y mab henaf, Thomas ab Gruffydd, o Newton, a briod- odd yn gyntaf ag Élizabeth, merch ac eti- feddes Syr John Griffith, o Abermarlais, yn Sir Gaerfyrddin ; ac yn ail, Elizabeth, merch