Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 19. IONAWR, 1837. Cyf. II. COFIANT Y PARCH. HENRY MARTYN, B. D. Ym mhlith y gwahanol ser dis- glaer a oleuasant yn ffurfafen Eg- lwys Loegr, y mae yn anhawdd cael yr un yn fwy Uewyrchus na'r dyn duwiol hwn, cofiant byr o ba un a roddir yn bresennol ger bron darllenyddion yr Haul. Bydd ei goffadwriaeth yn felus gan ddynion- garwyr hyd derfyn amser, oblegid gwnaeth aberth o hono ei hun er mwyn dangos llwybr teyrnas nef- oedd i resynolion parthau pellennig y ddaear; ac o'r diwedd suddodd dan y baich a gymmerodd ar ei ys- gwyddau. Ganed Mr. Martyn yn Truro, yng Nghernyw, Chwefror 18, yn y flwyddyn 1781, ac yr oedd yn dry- dydd mab i Mr. John Martyn, gwr cymmeradwy, ac mewn amgylch- iadau tra chysurus. Pan rhwng saith ac wyth mlwydd oed, anfon- wyd ef i'r Ysgol Rammadegol yn Truro, yr hon ydoedd dan ofal Dr. Cardew ; ac yn yr Ysgol hon cyn- nyddodd yn anghyffredin yn ei wy- bodaeth yn yr ieithoedd dysgedig. Yn Hydref y flwyddyn 1795, pan ydoedd ynghylch pedair blwydd ar ddeg oed, anfonwyd ef i Rydychen er bod yn ymgeisydd am ysgol- heigiaeth wag yng Ngholeg Corpus Christi, ond bu yn aflwyddiannus. Dychwelodd yn ei ol i'r ysgol, lle yrarosoddhyd yrhafyn 1797, ac yna aetti i Gaergrawnt, i Goleg St. Ioan, lle y cynnyddodd yn fawr drachefn mewn dysgeidiaeth. Yr oedd ymddygiod Mr. Martyn yn gyffreäinol yn dra addas; yr oedd cydymaith crefyddol iawn ganddo yn y Brif Ysgol, a chwaer grefydd- ol iawn ganddo yn Cornwal. Pan yng Nghaergrawnt, bu ei dad farw, a chymmerodd hynny at ei galon i gryn raddau, a bu yr amgylchiad tiwn yn foddion i asio ei feddwl gyda phethau dwyfol, a phender- fynodd ymroddi yn hollol i wasan- aeth ei Arglwydd a'i Dduw. Yr oedd yn hoff iawn o weinidogaeth y Parchedig Mr. Simeon, yr hon afu yn fendithiol ac yn adeiladol iawn ìddo ; ond y mae y gwr duwiol hwn yntau newydd orphwyso oddiwrth ei lafur, ac yn mwj nhau dedwydd- wch y nef. Wedi holiad cyhoedd, cafodd JNlr. Martyn ei raddio. Ym mis Mawrth, yn y flwyddyn 1802, dewiswtyd ef yn Gyfaill o Goleg St. Ioan ; ac wedi ymweled â'i chwaer yng Nghernyw, dychwelodd yn ei ol ym mis Hydref, yn yr un flwy- ddyn. Wrth ymddidäan â Mr. Simeon, trodd ei feddyliau yn neill- duol at fod yn Genhadwr, er preg- ethu goludoedd y Pryniawdwr mawr i druenusion y ddaear, a phender- fynodd ymroddi i'r gorchwyl pwys- ig hwn. Dydd Sabboth, Hydref 22, 1803, urddwyd ef i swydd Diacon gan