Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 23. MAI, 1837. Cyf. II. BUCHDRAETH Y GWIR BARCHEDIG ESGOB BURGESS. Mawr y rhwygiadau a wnaed gan angeu erioed yng nghymdeithas y teulu dynol; ac oblegid y difrod- iadau a wneir ganddo y mae rhyw rai dan archollion yn barhaus, ac mewn galar-wisgoedd yn feunydd- iol, oblegid yr ergydion trymion a roddir ganddo iddynt y'n eu gwa- hanol berthynasau. Weithiau wy- neba yn arfog ar balas y pen coron- og, ac wedi gosod ei saeth farwol ar linyn ei fwa, efe a'i gollwng yn ddiwyrni at ei galon, nes ei ddym- chwelyd oddiar ei orsedd, a'i gyfleu gyda phreswylwyr y bedd ym mhriddellau oerion y ddaear. Fel hyn, ym mhob oes ac ym mhob gwlad, y mae efe yn marchogaeth yn llwyddiannus drwy daleithiau y greadigaeth, ac yn buddugoliaethu mor effeithiol ar drigolion y byd, fel nad oes neb hyd yma wedi gallu ei orchfygu, nac wedi medru diengyd rhag ergydion ei bladur, ond dau, y rhai a drosglwyddwyd i ogoniant heb brofi marwolaeth. Yn fynych y rhoir teyrnas liosog ei thrigolion mewn galar-wisgoedd, yn gyffredin clywir ocheneidiau cymmydogaeth- au, yn feunyddiol y gwrandewir griddfannau teuluoedd, ac yn aml canfyddir yr Eglwys mewn dagrau, oblegid llwyddiant peiriannau ang- eu. Yng nghorph yr ychydig flyn- yddoedd sydd wedi myned heibio, y mae Eglwys Loegr yn neillduol i wedi gorfod teimlo ergydion cleddyf miniog brenhin dychryniadau; tor- rodd gedrwydd uchel canghenog yn ei choedwig,symmudodd drawst- iau cedyrn o'i hadeilad, a diffoddodd lugyrn goleu iawn yn ei chymmun- deb. Nid yn unig yn erbyn ei haelodau cyffredin yr ymwria gelyn teulu Adda, ond y mae wedi dis- tewi nifer liosog o'r gwylwyr oedd ar eì muriau, ac wedi ergydio yn effeithiol at nifer liosog o'i swydd- ogion pennaf. O fewn i'r ychydig flynyddoedd diweddaf, amryw o Esgobion yr Eglwys a alwyd oddi- wrth eu gwaith at eu gwobr, ym mhlith y rhai y gellir crybwyll am y Dr. Van Mildert, Esgob Dur- ham, ac yn neiìlduol y Dr. Burgess, Esgob Salisbury, gwrthddrych y Cofiant presennol. Dywedir yn fynych am Eglwys Loegr, bod ei dyrchafiadau yn gyf- yngedig i'r mawrion yn unig; ond 'ffeithiau a brofant i'r gwrthwyneb, oblegid y mae yng nghronicl ei hanes Archesgobion ac Esgobion, y rhai, oblegid eu dysgeidiaeth, eu doniau, a'u duwioldeb, a ddyrchaf- wyd o blith y cyffredinolion i fod yn swyddogion pennaf iddi. Nid o waed brenhinol na thywysogaidd yr hanodd y diweddar Dr, Burgess, ac nid mewn palas pendefig y dyg- wyd ef i fynu ; ond ei dad ydoedd fasnachydd cyfrifol yn Llundain.