Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 24. MEHEFIN, 1837. Cyf. II. LLWYR-YMATTALIAD. Y mae y wlad mewn cynhwrf mawr yn bresennol, o ben bwygil- ydd iddi, ynghylch Cymdeithasau Cymhedroldeb, a Llwyr-ymattaliaid, neu yr hyn yn gyffredin a elwir Tee- totaliaeth. Rhai a ddygant y zel fwyaf dros y Gymdeithas hon, gwnant eu goreu i'w sefydlu ar hyd ac ar led y deyrnas, ac ni adawant unrhyw egnion ar ol er gwasgaru ei hegwyddorion ym mhlith pob dos- parthiadau o'r bobl; ond eraill dra- chefn a'i diarhebant, gan ei dynodi allan fel un o'r sefydliadau mwyaf dinystriol i gysuron dynolion y byd, a glywyd son erioed am dani o ddyddiau Adda hyd yn awr. Ac wrth glywed dadleuon y gwahanol bleidiau, gellid meddwl bod y pwngc yn dra anhawdd i'w benderfynu; ei fod yn gorwedd dan lenui goblyg- edig Logic i'r fath raddau, fel nad oes oleuni eglur i'w ddisgwyl i lew- yrchu arno; a'i fod yn bwngc an- orphen, ond ei fod yn faes i'r oesau dyfodadwy i wneuthur eu doniau dadleuol yn honuaid arno. Ond y gwir ydyw, nad oes dim yn Feta- physicaidd yn y pwngc hwn, ac nad oes unrhyw dywyllwch yn gorwedd ar y ddadl hon; ac ond i ddyn un- •waith gyhoeddi rhyfel yn erbyn ei flys, a sefyll megis ar fryn o'r naill ochr, y mae pob peth yn amlwg, .pob peth yn oleu, ac nid oes achos i'r rheithwyr fod bum' munud cyn cyhoeddi eu dedfryd. Ac i'r diben i gynnorthwyo y rhai ni chymmer- ant y drafferth i ddadleu y matter ynddynt eu hunain, rhoddir y go- fyniadau a'r attebion canlynol ger brou:— Gofyniad 1. A ydyw yfed diod- ydd meddwol erioed wedi dyrchafu dyn yn ei gymmeriad ? I hyn attebir yn naccaol, nad yw yr arferiad hon erioed wedi rhoddi bri ac anrhydedd ar ddyn, ond ym mhob oes ac yra mhob gwlad wedi gosod yr anfri a'r dianrhydedd mwyaf arno. Ai anrbydedd ydoedd i Noah, ei weled wedi noethi ei hun yn ei feddwdod yng nghanol ei ba- bell? Ac a ydoedd y llosgach y bu Lot yn euog o hono â'i ferched yn ei feddwdod, yn adlewyrchu an- rhydedd ar ei goffadwriaeth ? A ydyw yn anrhydedd i ddyn esgeul- uso ei orchwyl, ac eistedd wrth dân tafarndy o'r bore hyd y nos, pan y dylasai fod gyda'i alwredigaeth mewn lle arall ? A ydyw ei Iygaid pew- teraidd, ei wallt dyryslyd, ei weflau chwyddedig, a'r glafoerion ffiaidd a ddiferant o'i enau, yn gosod an- rhydedd a bri ar ei gymmeriad ? A ydyw ei ddwli a'i faldardd, ei dafod bloesg, a'i dwrf raawr, yn ei ddyr- chafu yn llechres dynoliaeth? A ydyw ei regu a'i dyngu, ei ymladd,