Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 26. AWST, 1837. Cyf. II. BUCHDRAETH WILLIAM IV. Ni clilywyd drwy holl oesoedd y byd, am unrhyw deyrn sydd wedi ac yn parhau i deymasu mewn cym- maint rhwysg ag angeu, yr hwn yn briodol iawn a elwir yn ' frenhin y dychryniadau/ Trwy holl wledydd y ddaear, ac ym mhob oes a chen- hedlaeth *>'r byd, y mae efe wedi brwydro yn effeithiol a llwyddian- nus yn erbyn y teulu dynol, ac yn parhau i ymorfoleddu yn y buddug- oliaethau a ennilla efe arnynt. Er ys dwy flynedd y mae ergydion ei fwyall gadarn wedi cymmyno i lawr niferi lliosog o drawstiau uchel yng nghoedwig teyrnas Prydain Fawr; a chan nad dichonadwy ei ddigoni o gnawd dynol, yr ydym yn colli rhai yn feunyddiol o flodau ac addurn- iadau pennaf ein llywodraeth. Yng nghorph ychydig fisoedd, cludwyd amryw o'n pendefigion i'r fro ddis- taw ; rhifwyd amryw o'n hesgobion gyda marwolion; ac at y llechres, y mae enw William IV. wedi ei gof- restru gyda marwolion y beddrod. Y mae gweinidogaeth a gorchwyl- ìon angeu, bob amser ac ym mhob amgylchiad, yn ofidus ac yn alarus; oblegid pan fyddo aelod o deulu yn trengu, y mae yr holl aelodau yn teimlo ; ond pan fyddo pen coronog yn cael ei ddymchwelyd o'i orsedd, a'i gludo i dŷ ei hir artref, y mae holl ddeiliaid ufudd a ffyddlon y 2E llywodraeth yn teimlo yr ergyd, ac yn derbyn loesion i'w calonnau. Etto, er bod angeu fel hyn yn an- wrthwynebol, ac yn gwneuthur yr adwyau mwyaf mewn teuluoedd, mewn ardaloedd, ac mewn teyrnas- oedd, y mae yn rhaid i ni ystyried mai Ior y nefoedd sydd yn teyrnasu hyd yn nod yn llywodraeth brenhin dychryniadau ei hun, ac nad all hwn, er ei holl elyniaèth tuag at deulu Adda, osod ei saeth ar linyn ei fwa yn groes i ewyllys yr orsedd fawr. Pa ham y grwgnach dyn byw ? Yr Arglwydd sydd yn teyrn- asu; ei ewyllys sydd yn cael ei chyflawnu; ac er bod ei ffyrdd yn auchwiliadwy, ac yn anolrheinadwy i ni—yn ddyrus ac yn geimion iawn i'n golygiadau ni yn yr anialwch, etto cyfiawn ydynt i gyd, ac uniawn ydyw yr oll o honynt. Ac er mai colled ddirfawr i Brydain ydoedd i'w theyrn gael ei osod yn lìytfeth-# eiriau angeu yn y cyfwng hwn o enbydrwydd gwladol; etto mae loi a'i frenhiniaeth yngadarn ymmhlith brenhiniaethau dynion, ac y mae Prydain wedi bod yn neillduol yn ei law a than ei ymgeledd; a phwy a ŵyr na attal efe y gwynt garw yn nydd y dwyreinwynt mawr; na wna efe, yn ei garedigrwydd â ni, ger- yddu y dymhestl, a gorchymmyn i haul a hinon haf gael eu hadferu