Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Hhif. 30. RHAGFYR, 1837. Cyf. IT. BUCHDRAETH Y PARCH. HENRY HAMMOND, D. D. Ychydig o ddarllenwyr hanesion y Duwînyddion Seisonig, sydd yn anwybodus o enw y Dr. Hammond ; oblegid y mae ei dduwioldeb a'i ddysgeidiaeth wedi ei ddyrchafu i orsaf uchel yn yr Eglwys, ac wedi gwneuthur i'w enw fod yn anrhyd- eddus drwy yr holl oesau. Yr oedd efe yn fab i'r Dr. John Hammond, meddyg i'r Tywysog Henry; ac o du ei fam wcdi hanu oddiwrth yr enwog Dr. Alexander Noweìl, Deon St. Paul, Llundain. Anfon- wyd ef i ysgoí Eaton, ac yn dra ieuengaidd rhoes arwyddion neill- duol o'r mawredd yr esgynnai iddo drwy ei ddysgeidiaeth; ac yr oedd o ymddygiadau hynaws a charedig anghyffredin. Wedi cyrhaeddyd oedran cyfaddas, anfonwyd ef i brif-ysgol Rhydychen, a chafodd ddyrchafiadau yng Ngholeg Eglwys Crist, oblegid rhagoroldeb ei ddysg- eidiaeth. Wedi ei urddo, darfu i Iarll Leicester, wedi ei glywed yn pregethu i'r ílys yn y flwyddyn 1633, ei gyflwyno i Rectoriaeth Pènshurst, íle y gweinidogaethodd gyda ffyddlondeb anarferol. Yr oedd yn nodedig am ymweled â'r cleifion, terfynu ymrafaelion, am ei lettygarwch, ei haelioni, ynghyd âg amryw rinweddau eraill. Yn 1638, gwnaethpwyd ef yn Ddoctor mewn Duwinyddiaeth, ac aeth drwy yr 2 W ymholiad er syndod mawr i'r holl wrandawyr. Ýn 1643, gwnaeth- pwyd ef yn Archddiacou Chichester, yn anwybodus iddo. Yn y ílwydd- yn hon, enwyd ef yn un o Dduwin- yddion y Gymmanfa; ond ni eis- teddodd yn eu plith, ac ym mhen ychydia: galwyd y pennodiad yn ol. Yr oedd yr amseroedd yn awr yn myned yn derfysglyd, a'r cwmmwl dudew yn crogi uwcli ben yr Eglwys Sefydledig. Yn nechreuad y tra- llodion, yspeiliwyd ef o'i lyfrau ; oncl hwy a brynwyd iddo gan gyf- aill. Gwysiwyd ef ger bron y Gyf- eisteddfod Wladol, ]]e y cafodd ei drin yn greulon a thost gan ei elyn- ion. Ymguddiodd rhag ei elynion yn 1643, a gwnaethpwyd yr ym- chwiliad manylaf am dano, a chyn- nygiwyd hanner can' punt o wobr am ei ddal. Ffodd yn gyutaf at ei hen athraw, Dr. Buckwer, ac oddi yno at ei gyfaill,Dr. 01iver, i Goleg Magdalen, yn Rhydychen. Yr oedd y llys y pryd hwnnw ynRhyd- ychen, a dygodd teilyngdod Dr. Hammond ef i sylw gan y pendef- igion a ymlynent wrth Siarl, yn uniongyrchol. Wedi hyn pennod- wyd ef, gyda Duwinyddion eraill, i gynnorthwyo Dirprwywyr y Brenhin yng Ngliyttundeb Uxbridge, lle na chafodd ar y cyntaf ond Dr. Stuart a Mr. Henderson ganiattad i ddad-