Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 38. AWST, 1838. Cyf. III. Y WLAD, Y WLAD. Abraham, aros o fewn terfynau dy wlad; na fydded i neb dy weled yn troi dy gefn ar yr hen lannerch- au, y canfyddwyd di yn ddifyr yn- ddynt yn dy fabandod ; cofia yr amser gynt; mcddylia am dy ddydd- iau boreuol; ac er pob peth, paid myned yn grwydryn mewn byd sydd yn llawn o brofedigaethau. Abra- ham, y mae Ur yn anwyl i ti, y mae Caldea yn agos at dy galon, y mae dy gyfeillion yn lliosog yn y fro, ac ym mhriddellau dyífrynoedd bras yr hen wlad y gorphwysa gweddillion dy hynafiaid ; am hynny, Abraham, aros yn dy wlad, a thrig yn dy fro. Nid ymresyromodd Abraham â chig a gwaed ; ond, pan alwodd Ior o'r uchelion, efe a wrandawodd; pan orchymmynodd Ior, efe yn union- gyrchol a ufuddhaodd ; ac un bore, gyda bod y wawr yn ymsaethu dros gaer y dwyrain," aeth Abram, fel y llafarasai yr Arglwydd wrtho. Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a'u holl olud a gasglasent hwy, a'r eneidiau a yn- nillasent yn fíaran, ac a aeth'ant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethanti wlad Canaan." Daeth Abraham allan mewn fiydd o Ur y Caldeaid, edrychodd dros y bryniau pellennig, taflodd ei olygon dros gaerau amser, a gosododd ei linyn niesur ar y wlad baradwysaìdd a 2E fydd yn etifeddiaeth oesol i holl etholedig blant yr Arglwydd; "oble- gid ceisiodd ddinas ac iddi sylfeini, Saer ac Adeiladydd yr hon yw Duw." Yr oedd Caldea cystal gwlad a Chanaan, ei therfynau mor ehang, ei dyífrynnoedd mor brydferth, ei thir mor fras, ei dinasoedd mor hoyw, a'i ífrydiau mor risialaidd ag eiddo Canaan ; ond gwelodd Abra- ham gynhwysiad ysprydol yr add- ewid, ac ar ei phwys ymdeithiodd ym mlaen i ymofyn gwlad yn y tir- oedd anfarwol, a chafodd hi. Y mae gwlad mewn addewid gan yr uchel Dduw* Pan ddarllenom hanesion yr hen oesau, a phan ed- rychom ar hanesion yr oesoedd diw- eddaraf hyn, y mae y gwirionedd alaethus hwnnw yn cael ei wirio am yr hiliogaeth ddynol, mai tuedd bennaf teulu Adda ydyw, ymgeisio â gwagedd, ac ymlid ar ol cysgodau Ac mewn canlyniad i'r duedd niw- eidiol hon, y mae oes ar ol oes wedi myned yn grwydredîg, cenedl ar ol cenedl ei wedi chyfrgoli, a dyn ar ol dyn wedi ymddieithrio oddiwrth fuchedd Duw, drwy gymmeryd eu twyllo i redeg ar ol hud-lewynod, fel pan dybient eu bod yn ymaflyd mewn sylwedd, ni fyddai ganddynt ond cymhylau o dywyllwch du i ymbalf- alu ynddynt yn dragywyddol. Tru- eni meddwl bod cynnifer myrddiwn