Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 46. EBRILL, 1839. Cyf. IV. YR EGLWYS A'R YMNEILLDUWYR. Mawr ydyw yr ysgrifennu a'r dadleu sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, rhwng pleidwyr yr Ègiwys Sefydledig a phleidwyr yr Ymneill- duwyr; ac yn y rhyfel hwn y niae arfau yr Ymneillduwyr yn hollol gnawdol, oblegid y maent wedi gadael tir dadl yn llwyr yn awr, ac wedi cymmeryd eu gorsaf ar dir difriaeth. Nid oes neb difenwau gwaeth na'u gilydd nad ydynt wedi cael eu cruglwytho ar Weinidogion yr Eglwys gan yr Ymneillduwyr; ac er bod y difenwyr wedi cael eu dynodi yn yr Ysgrythyr Làn fel rhai anghymhwys i'r nefoedd, etto yn y cyfryw rai yr ymffrostia Ym- neillduwyr yr oes hon. Naill ai yr oedd Ymneillduaeth yn ddirywiedig iawn flynyddau yn ol, neu y mae yn ddirywiedig iawn yn y blynyddau hyn; ac os myned ym mlaen mewn purdeb yn awr y mae y gyfundraeth hon, feí yr ymffrostia ei horaclau, rhaid y bydd hwn yn burdeb tra rhyfedd pan gyrhaeddo ei Ne plus ultra! Y mae yr ymosodiadau yn ffyrnig ac yn faleisns iawn yn erbyn yr Eglwys a'i Gweinidogion, ac nid oes dim mor gymraejadwy a der- byniol gan yr Ymneillduwyr, a gwledda ar warthruddiadau tafledig ar y Gweinidogion dan sylw. Ac fel prawf amlwg a diymwad o gyn- ddaredd a digllonedd yr Ymneill- duwyr yn erbyn yr Eglwys a'i Gweinidogion, nid rhaid ond cry- bwyll mai yn erbyn ei Gweinidogion goreu, rawyaf diwyd a gweithgar, y y mae eu bwäau yn anueledig. Gwaradwyddir hwynt yn eu cym- meriadau dirgelaidd a chyhoeddus, nid oes unrhyw rwystrau na theflir ar eu ffyrdd, nid oes unrhyw ffyrdd, nid oes unrhyw ymadroddion yn rhy isel i'w defnyddio er eu dirmygu, nid oes unrhyw chwedlau na chel- wyddau yn rhy ddistadl i'w taenu am danynt, a braidd y mae unrhy w gyfeillach o Ymneillduwyr yn myued heibio, na bydd eu cleddyfau wedi trywanu un neu ychwaneg o Offeir- iaid. Y mae yn wirionedd anwad- I adwy, mai difriwyr a difenwyr Off- j eiriaid a ddyrchefir i'r cadeiriau ymneillduedig uchaf; a'r cryttiaid hynny a anfonant gelwyddau ar Off- eiriaid i'r Cyhoeddiad hwn neu arall, a folir ac a ddyrchefir gan y Lords a?r Presbyters ! Pa beth ydyw yr achos o'r wbwb fawr sydd yn dyr- chafu o wersyll yr Ymneillduwyr yn y dyddiau presennol ? Pa beth ydyw yr achos o'r llefain a'r gwaeddi mawr a wneir mewu festrîau gan ; bregethwyr? Pa beth ydyw yr I achos o'r difrio a'r enllibio mawr ar ! yr Eglwys o'r pwlpudau a'r argraph- wasg ? Pa beth ydyw yr achos nad oes bregeth braidd yn cael ei thra-