Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•■•' •. ■'< ■■ s- . ..;, • YR HAUL. Rhif. 53. TACHWEDD, 1839. Cyf. IV. BRYCHAN BRYCHEÍNIOG, &c. Cymmaint ag a ellir ei gasglu oddiwrth hen ysgrifau am lywodraeth Brycheiniog, ag a ellir ymddiried iddynt, yn amser diweddaf traws- argíwyddiaeth y Rhufeiniaid, sydd fel y canlyn. Y tywysog cyntaf y cyfeiria yr awdurdodau hyn atto, ydyw Gwral- deg, yr hwn a deyrnasodd fel y tybir ynghylch y flwyddyn 230. Priododd Morfydd, ei ferch, âg un Teithall ap Annwn Ddu, yr hwn, yn hawl ei wraig, a ganlynodd ei dad- yng-nghyfraith yn y llywodraeth, o ddeutu y flwyddyn 250. Canlyn- wyd Teithall gan ei fab Teidheirn, ac ynddo y darfu y tywysogion o'r llwyth hwn. Un Teidwallt, wedi ei gynnorthwyo gan ryw farbariaid gogleddol, a draws-feddiannodd lywodraeth Brycheiniog, ynghylch y flwyddyn 342, ac a fu yn gyff i dywysogion newyddion, y rhai a ddaliasant awennau y llywodraeth yn eu dwylaw am flynyddoedd lawer. Ei ganlynwr ef yn y llyw- odraeth ydoedd Tewdrig, neu Tu- dur. Ac y mae yn lled debygol mai o dan deyrnasiad y tywysog hwn, ynghylch y flwyddyn 380, y gwaghaodd Maximus Brydain o'r milwyr Rhufeinig, gan eu cymmeryd hwynt i Gaul, a chyda hwynt flodau yr icuengctid Prydeinaidd, er ei gynnorthwyo i fod yn ymerawdwr 2R Rhufaiu. Ni fu i Tewdrig, neu Tudur, ond un ferch, o'r enw Mar- chell, yr hon ydoedd etifeddes Garth Madrin. Anfonwyd hi i'r Iwerddon gan ei thad, oblegid rhyw bla ang- heuol ydoedd yn y wlad y pryd llwnnw ; ac yn yr Iwerddon y priod- odd âg Aulach, mab Cormach Mac Carbery, neu Coronawg; ac o'r briodas hon y deilliodd Brychan, oddiwrth yr hwn y cafodd Brych- einiog ei henw presennol. Wedi ei phriodas, dychwelodd Marchell a'i gwr i'w gwlad ened- igol, ac yno yr arosasant hyd derfyn eu hoes. Ond y mae yn ambeus a gafodd Aulach y Uywodraeth yn ei ddwylaw. Oddiwrth rai hen ys- grifau, cesglir ar sail dda i Brychan ddilyn ei dadcu yn y llywodraeth ; oud nid heb wrthwynebiad mawr o.ddiwrth y tywysogion genedigol, a hynny oblegid ei fod o briodas estronol. Tybir i Brychan deyr- nasu o'r flwyddỳn 400 i'r flwyddyn, 450. Ychydig iawn sydd yn wy- bodus am Brychan yn ei gymmeriad bfenhinol; ond y mae yn sefyll mewn gorsaf uchel ym mhlith rhai teilwng Cyraru, a hynny oblegid nifer ac enwogrwydd ei blant, a'r cyssylltiad sydd rhyngddynt à ílan- noedd plwyfol y Dywysogaeth. Crybwyllir am deuín Brychan feì un o dri thculu sanctaidd Prydam, a