Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL. Rhif. 54. RHAGFYR, 1839. Cyf. IV. BRWYDR GILBOA. Wrth ddarllen hanesion y cen- hedloedd, yn eu hrwydrau trychin- ebus â'u gilydd, yr ydym fynychaf mewn tosturi at y fyddin enciliedig, oblegid y dinystr a wneid arni, a'r creulonderau a ddangosid tuag atti, trwy ergydion didrugaredd cleddyf- au awchus diweiniedig. Ond gyda golwg ar Israel Duw, pan yr ydym yn darllen yn y Gyfrol Sanctaidd eu hod yn orchfygedig ar y maes, yn ffoi rhag eu gelynion, yn syrthio yn gelaneddau dan fin y cleddyfau, a'u gelynion yn bloeddio Aha yn wyneb eu difrod, y mae rhyw deimladau dieithriol yn ymaflyd ynom, fel yr ydym yn tristâu ac yn wylo yn eu hwylofain hwynt. Nid oes dim yn annaturiol yn y teimlad hwn o'r eiddom tuag at genedl Israel ; oble- gid hi a neillduwyd yn foreu i fod yn genedl etholedig gan Dduw, iddi yr ymddiriedodd Duw ei bethau sancteiddiolaf, ac o honi yr hanodd y Gwaredwr mawr, yr hwn a agor- odd byrth gogoniant, ac a berffeith- iwyd yn Dywysog iechydwriaeth teulu Adda trwy ddioddefiadau. Yr ydym yn llawenhau, pan ddarllenom am fanierì Israel yn ymgyhwfanu mewn buddugoliaeth; dychlamma ein calonnau mewn llawenydd, pan ddarllenom fod eu byddinoedd yn dryllio cryfder eu gelynion; ac yr ydym yn ymddyrchafu yn ein medtt- 2W yliau, yn wyneb ymehangiad clod a mawrhydi hiliogaeth Jacob; ond yn nydd eu hadfyd yr ydym yn anghy- surus, yn adeg eu cyfyngder yr ydym yn syrthio yn ein meddyliau, a phan yn orchfygedig gan eu gel- ynion, ein teimladau yn eu hachos a welir yn llun ffrydiau o ddagrau yn ymdreiglo dros ein gruddiau. Ond o bob adfyd a ddigwyddodd i Is- rael, y mae rhyw bethau yn dwyn perthynas â brwydr Gilboa ag sydd yn myned yn nes i'r galon na dim arall, ac y mae yn gwbl annichon- adwy i unrhyw ddyn o deimlad ddarllen yr hanesyddiaeth sanctaidd am dani, heb deimlo loesion yn ei galon, a chyssegru adgofiad y cyf- nod pruddaidd hwn âg ochenaid bruddaidd o*r galon, ynghyd â deigryn grisialaidd o'r llygad. Nid ydyw yr hanesydd ysprydoledig yn myned oddi amgylch ogyich, i gry- bwyll am enwau arglwyddi a chad- fridogion Philistia, ynghyd âg ys- gogiadau y byddinoedd yn eu cynniweirfeydd i'r frwydr; ond fel un dan faich trwm,ac mewn gwewyr mawr, am ddilwytho ei hun, trwy brysuro i hyspysu adfyd Israel ar yr unwaith. " A'r Philistiaid oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwyr Israel a ffoisant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa." Ymaflodd yr