Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 56. IONAWR, 1840. Cyf. V. TEITHIAU YR ISBAELIAID. Gan fod pethau mor neillduol yn , dwyn perthynas â theithiau plant Israel, yng nghorph y deugain mlyn- < edd y buont yn yr anialwch, wedi eu dyfodiad o'r Aipht hyd eu mynediad i Ganaan, nid anfuddiol fyddai eu I dilyn ; oblegid, er mor wyrgam yn | ein golwg ni yr oedd cu llwybrau, j etto dywedir iddynt gael eu harwain j ar hyd ffordd uniawn. i fyned i ddinas gyfanneddol. Yn Exodus 15. 22. dywedir i Moses " ddwyn Israel oddiwrth y Môr Coch; ac aethant allan i anialwch Sur, a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch." Ac yn Numeri 33. 8. iddynt gychwyn o Piahiroth, ac aethant trwy ganol y môr i'r anial- wch, a cherddasant daith tri diwr- nod yn anialwch Etham, a gwersyll- asant ym Marah. Wrth gydmaru yr adnodau hyn â'u gilydd, y mae yn amlwg mai yr un anialwch ydoedd Sur ac Etham, a chynhwysai Sur yr holl barth gorllewinol o Arabia Garregog. Od oes gwahaniaeth rhwng Sur ac Etham, y mae yn gynnwysedig yn y gwahaniaeth sydd rhwng y cwbl a rhan o hono. Fel yr ymddengys mai Sur ydoedd enw yr holl barth hwnnw o Arabia Gar- regog doedd agosaf i'r Aipht, ac anialwch Sur ydoedd hwnnw a ber- thynai i'r parth hwn ; felly y mae yn debygol, yn gymmaint ag y dy- wedir i'r Israeliaid fyned drwy y Mòr Coch i anialwch Sur ac Etham, iddynt fyned trwyddo tua'i derfyn gogleddol, oblegid mai yno yr oedd yr anialwch dau sylw. Ẅedi myned dri diwrnod yn yr anialwch, daeth yr Israeliaid i fan lle yr oedd dwfr; ond yr oedd hwnnw mor chwerw, fel na allent ar y cyntaf ei yfed; ond wedi i Moses weddio, dangos- odd yr Arglwydd iddo bren, yr hwn, wedi iddo ei fwrw i'r dyfroedd, y dyfroedd a bereiddiasant. Nid an- nhebyg nad hwn ydoedd y lle y crybwylla y teithiwr Theueuot am dano, pan ddyweda iddo ar yr ail ddiwrnod o'i daith o Suez ddyfod i fan lle yr oedd dyfroedd, a elwid ganddyut Ain-el-Mouse, hynny yw, Ffynhonnau Moses; neu ef allai mai at ffynhonnau Elim y daeth Theuenot. O Marah, symmudodd y llwythau i Eliin; "ac yno yr oedd deuddeg ffynhon, a deg palmwydden a thri ugain; a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd." Dyweda Theuenot,bod y deuddeg ffynhonyn cael eu dangos i deithwyr, yn neu yn gyfagos i ardd berthynol i Fyn- achod Tor, yr hwn sydd le bychan, ond yn borthladd cyfleus wrth y Mör Coch. O Elira, symmudodd yr Israeliaid i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Siuai. Cych- wynasant o aaialwch Sin, yn ol