Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 56. CHWEFROR, 1840. Cyi. V. YR AMSEROEDD ENBYD. Dywedwyd, dan ysprydoliaeth yr Hollalluog Dduw, y deuai amser- oedd enbyd yn y dyddiau diweddaf; ac er, ef allai, y cyfeirid hyn yn neillduol ar y pryd at ddymchwel- iad yr Iuddewon gan y Rhufeiniaid, etto gellir dywedyd ei bod yn am- seroedd enbyd yn ein dyddiau ni, a hynny oblegid bod dynion mor barod i redeg i bob eithafion o ddinystr. Gallesid meddwl am deyrnas Prydain yn gyffredinol, ac am Dywysogaeth Cymru yn neill- duol, bod egwyddorion efengyl heddwch ein Harglwydd Iesu Grist wedi cael y fath oruchafiaeth a'r fath lywodraeth ar ddynion, fel yr ystyriasid ef yn rhyfyg o'r mwyaf i neb ddywedyd, yspaid o flynydd- oedd yn ol, y buasem ni mewn un- rhyw berygl gyda golwg ar ein rhyddid gwladol a chrefyddol. Nid yn hir wedi i'r Diwygiad Protestan- aidd gael ei sefydlu yn y deyrnas hon, y bu y Cymry heb yr Ysgryth- yr Lân yn eu hiaith eu hunain ; ac fel yr oedd y blynyddoedd yn cyl- chynu eu gilydd er y pryd hynny, esgorai yí argraphwasg ar Fiblau Cymraeg, fel y maent yn awr, yu ol ein nifer, yn llioaoccach yn ein plith, nag y maent ym mhíith un- rhyw genedl arall dan haul. Os ydoedd rhyw beth yn gyfeiliornus a dinystriol yng Ngwasanaeth yr Eglwys Sefydledig, os ydoedd rhyw bethau yn dramgwyddus yn ei hathrawiaethau, ac os ydoedd rhyw beth yn fyr yn ei disgyblaeth, dyg- wyd Ymneillduaeth i'r Dywysog- aeth, yr hon a ymwasgarodd ym mhell ac agos, fel mai ymffrost yr Ymneillduwyr ydyw, mai ganddynt hwy y mae Uywodraeth grefyddol Cymru. Trwy hwyliau a dylan- wadau pregethwriaethol Rowlands ac eraill, ffurfiwyd Corph y Meth- odistiaid ; yr hwn, er nad ydoedd ar y cyntaf ond megis gronyn o had mwstard, etto a aeth yn bren mawr, ac y mae yn awr yn Gyfundeb par- chus a lliosog iawn. Nid oes ond ychydig flynyddoedd er pan breg- ethwyd Wesleyaeth gyntaf yu y Dywysogaeth, gan bregethwyr Cym- reig; ond y mae y winwydden hon yn bresennol wedi estyn ei chang- hennau drwy y wlad: ac yn neill- duol gyda golwg ar ei phregethwyr, y maeut yn uchaf yn y llechres sectawl. Dywedir bod yr Ysgol Sabothol mor gref a llewyrchus yug Nghymru ag yn un wlad dan y nef; ac yn wyneb cyd-darawiad pob peth, y raae wedi myned yn ddi- hareb i ddywedyd am "Gymru uchel eu breintiau." Yn wyneb y pethau hyn, y mae yn gwbl naturiol i ofyn, A ydyw y Cymry yn dwyn y ffrwyth crefyddol hwnnw a brawf