Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 61. GORPHENHAF, 1840. Cyf. V. CREDO YR APOSTOLION.—(Parhad o ta dal. 169J Mewn byr eiriau, y mae gan gredinwyr, yn esgyniad a gorsedd- iad Crist, ddiddanwch annliraeth- adwy trwy eu rhan yng Nghrist, wrth ystyried ei serch parhaus tuag attynt, ei eiriolaeth effeithiol drostynt, a'r gobaith sicr y mae hyn yn roddi iddynt o'u dedwyddwch a'u gogoniant dyfodol gydag ef. Yn gyntaf, yn ei holl ogoniant nid yw yn eu haughofio hwynt. Ni ddododd heibio ei ymysgaroedd gyda ei gyflwr gvvan ar y ddaear, ond a'u dygodd gydag ef i'w orsedd. Y mae ei fawrhydi a'i gariad yn cyd-sefyll yn dda, a phob un o honynt yn eu graddau uchaf. Fel na ddarfu i holl ddyfroedd ei ddi- oddefaint ddiífoddi ei gariad, na'i adacl ar ei ol yn gladdedig yn y byd, ond a gyfododd gydag ef, gan ei fod yn gryfach nag angeu ; felly nis gollyngodd i syrthio ar y ddae- ar pan esgynnodd i'r uchelder, ond efe a esgynnodd gydag ef, ac y mae yn ei gadw o hyd yn ei ogoniant. A'n cnawd, yr hwn a wisgodd ar y ddaear, a gymmerodd efe i'r nef- oedd, fel gwystl annattodadwy rhyngddo a'r sawl a brynodd ; ac y mae yn danfon oddi yno, fel gwystl o i gariad, ei Yspryd i'w calonnau ; *el y mae y rhai hyn yn adgofiadau o'u gilydd. A all efe anghofio ei eiddo ar y ddaear, pan y mae eu 2A cnawd wedi ei uno mor agos âg ef ei hun ? Chwi a welwch nad ydyw; y mae yn cydymdeimlo â hwynt yn eu dioddefiadau. " Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid i V Ac a allant hwy ei anghofio ef, Yspryd pa un sydd yn trigo ynddynt, ac yn tystiolaethu mewn modd bywiog am ei gariad anfeidrol, ac yn dwyn yr holl bethau hynny i'w cof, (fel y dywed efe ei hun y gwnelai ei Ys- pryd,) a thrwy hynny yn rhoddi prawf amlwg i ni o'i swydd fel Di- ddanydd, wrth ddangos i ni ei gariad ef, yr hwn yw fFynhonnell ein holl gysuron. A phan y byddom yn danfon i fynu ein deisyfiadau tua'r nef, yr ydym yn gwybod am gyfaill o'n blaen yno ; cyfaill cywir a ífyddlon iawn, yr hwn ni phalla ddywedyd drosom yr hyn a fyddwn ni yn ddywedyd, a lìawer mwy, " gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drosom ni." Heb. 7. 25. Dyma sail hyder y credadyn wrth yr orsedd; "íe, o herwydd hynny y mae gorsedd y Tad yn orsedd gras i ni, am fod gorsedd ein Cyfryngwr, Iesu Grist, yn agos iddi: y mae efe yn eistedd ar ei ddeheulaw, amgen nis gallasai fod yn ddim i ni ond gorsedd cyfiawnder ; ac felly, gyda | golwg ar ein heuogrwydd, ynorsedd | o ddychryn a braw, oddiwrth ba un I y ffoisem, yn lle agoshau atti.