Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 63. MEDI, 1840. Cyf. V. GOLYGFEYDD CRISTIONOGAETH. Rhif I.— Yr Arweiniad i mewn. Gyda golwg ar grefydd, y mae amryw bethau yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd mewn cyssylltiad â hi, ag ydynt dra theilwng o sylw, am eu bod yn dwyn perthynas neilldúol â golygfeydd Cristionogaeth mewn amserau ac oesau dyfodol, hyd oni lyngcir goruchwyliaeth amser gan oruchwyliaeth tragywyddoldeb. 1. Y dosparth hwnnw o'r byd, a ddewiswyd gan oruwch Lywiawdwr y bydoedd yn orsaf bennaf ei weithrediadau. Er bod y Shecina er ys oesau wedi ei symmud o Asia, ac yn gartrefu yn bennaf yn Ewrop, etto yno y cyflawnwyd y gwyrthiau a'r rhyfeddodau a fyddant yn syn- dod byth i fodau rhesymmol. Yno y crewyd dyn, arglwydd y greadig- aeth ; yno yr oedd ei drigfan gyn- tefig, ac oddi yno y poblogwyd y ddaear. Yn y dosparth hwn o'r byd y ganed ein Hiachawdwr ben- digedig, yno y treuliodd ei oes, yno y bu farw dros ein pechodau ni, yno yr adgyfododd oddiwrth y raeirw, ac oddi yno y rhedodd ffynhonnell Cristionogaeth trwy yr holl ddaear. Nid yn unig y mae Asia wedi bod yn ddosparth neillduol o sylw y Creawdwr; ond yn ol rhediad yr Ysgrythýrau, y mae i fod etto yn orsaf ag y cyflawiiir rhyfeddodau 21 Duw ynddi. Er profi hyn, ni raid ond darllen Ysgrythyrau y Pro- phwydi, a lefarasant megis ag y cynhyrfwyd hwy gan yr Yspryd Glân. 2. Gwlad Canaan, o holl wledydd y dwyrain, a ddetholwyd gan Dduw i fod yn etifeddiaeth i'w bobl ethol- edig Israel. Llefarir am y wlad hon, ac am ei phrif-ddinas, Caer- salem, mewn iaith ddyrchafedig iawn yn yr Ysgrythyrau. Ei mynydd- oedd a'i bryniau a gyssegrwyd gan bresennoldeb prophwydi Duw, ei broydd a gyssegrwyd gan bebyll y patrieirch boreuol, a braidd y mae llannerch o'i mewn na chrybwyllir yn rhai o beraidd ganiadau Sîon. Gelwid hi yn wlad dda odiaeth ; a Chaersalem, y brif-ddinas, yn deg- wch bro, ac yn llawenydd yr holl ddaear. Ond y mae y wlad hon a'i dinasoedd, er ys oesau, wedi myned yn sathrfa i estroniaid, ac yn ochen- eidio dan iau y gormeswr. Etto, y mae adferiad Palestina yn un o'r athrawiaethau cynnwysedig yn y prophwydoliaethau ; at onî chaniat- teir hyn, y mae amryw o honynt yn dwyllodrus, ac yn ein harẃain yn uniongyrchol i gyfeiliornad. Mewn llouder yr edrychai Prophwydi Duw ar ddydd ei hadnewyddiad, ac mewn llesmeiriau per y rhagddywedent am eì gogoniant yn yr amserau