Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 67à IONAWR, 1841. Cyf. VI. Y FLWYDDYN NEWYDD. " A dywedodd vr hwn oedd yn eis- tedd ar yrorseddfaingc, Wele,yr wyf yn gwneutlmr pob peth yn newydd." Y mae cariad naturiol yng- nghalon dyn at wrthddrychau newyddion. Mor fawr a chryf yw y serch hwn, fel y dewisir yn fynych sefjllfaoedd gwaelach, yn hytrach na hir aros yn y cyflwr yr ydys ynddo yn bresen- nol. Y mae y tueddiad yn ddiau wedi ei blannu ynnom gan ein Tad nefol, i ddibenion mawr a gogon- eddus. Y'mae holl natur yn llawn o bethau amrywiol ac adnewyddol. Ar ol diífrwythder gauaf y daw ir- der gwanwyn, yr hwn a ddilynir gan haulwen haf, i gael ei goroni gan ífrwythau hydref. Afraid yw dwyn ger bron y cyfnewidiad parhaus o ddydd i nos, ac o oleuni i dywyll- wch. Y tymhor presennol a adgofìa y sylwadau hyn; a phe myfyrid arnynt fel y dylid, hwy a eglurent y matter sydd gennym mewn llaw. Y dydd cyntaf o'r flwyddyn new- ydd ! Y mae rhyw beth hynod o hyfryd yn yr ystyriaeth. Anghof- iwn am funud nad yw yn unig ond megis carreg filltir ar ein taith tua'r byd na dderfydd byth; anghofiwn ei fod yn nodi terfyniad amser, yn yr hwn y profasom lawer o drei- alon, Uawer o dristwch, a llawer o faglau; a pharod ydym i obeithio iddynt gae] eu claddu ym meddrod y flwyddyn a aeth Iieibio, ac y cawn, wrth ail ddechreu ar ein taith, fwy o gysur, mwy o esmwyth- der, a mwy o heddwch. Nid peth dychymmygol. o drefn- iad, dyn, ydyw y rhaniad hwn o amser i ddyddiau a blynyddoedd ; eithr o ewyllys Duw y mae. Efe a wnaeth " y goleuad mwyaf i lywodr- aethu y dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu ynos." Hyn a ddengys ar unwaith y pery y cyfnewidiadau hyn tra parhao y ddaear. Ac nid ellir ammeu nad yw y cyfnewidiad sydd yn myned ym mlaen yn bar- haus ynnom ein hunain, ac ym mhob peth o'n hamgylch, wedi ei arfaethu i'r diben o gadw yn ein cof wirionedd pwysig ein testun, " Yr hwu sydd yn eistedd ar yr orsedd- faingc sydd yn dywedyd, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd." PeríFaith ynddo ei huií oedd y byd yr ydym ni yn byw yn- ddo, pan ddaeth allan o law ei Greawdwr, yn gorlifo o brydferth- wch a dedwyddwch uwchlaw deall dyn. Mor brydferth, a sanctaidd, a dedwydd oedd yr holl bethau a anadlent ar ei wyneb. Pa faint o amser y darfu iddynt aros felly, nis gwyddom. Yn ddigon hir i Satan eu distrywio. Oddiar y funud ang- heuol honno y gosodwyd addewid Duw o flaen llygaid ei Eglwys.