Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 69. MAWRTH, 1841. Cyf. VI. ODYDDIAETH.—(Parhad o tu dal. 41.) Y mae egwyddorion Odyddiaeth yn seiliedig ar y prif athrawiaethau a ddysgwyd gan Geidwad dyn,gyda golwg ar ddyledswyddau yr hil ddynol at eu gilydd. Nid sefydlu egwyddorion newydd a wnaed gan Àwdwr Cristionogaeth, ond dysgu, symlhau, ac egluro yr hen egwydd- orion, yn eu hystyr a'u hyspryd gwreiddiol. Yr oedd gwyrni eyíF- redinol wedi cynameryd lle oddi- wrth yr hen egwyddorion, ac ni chaent weithredu gan dylwythau a chenhedloedd y ddaearond o fewn cylch. Yr oeddynt wedi myned i adnabod eu gilydd yn ol y cnawd ; yn ol llwyth, yn ol gwlad, yn ol tafodiaith, ac yn ol defodau. Ni adwaenai Iuddew ond Iuddew, ni adwaenai Rhufeiniad ond Rhufein- iad, ac ni adwaenai Groegwr ond Groegwr. Mae egwyddorion cyfyng o'r natur hyn yn dlodaidd ac yn llwydaidd iawn. Pa beth ; A ydyw y Cymry i adnabod neb ond Cym- ry ? A ydyw methu siariad y Gym- raeg yn ddigon o reswm i gadw dyn allan o gylch brawdoliaeth ? Ai cefnderwyr a chyferdderwyr i ni ydyw teuluoedd y ddaear ? Ai plant brodjr, chwiorydd, ac ewythr- od Adda ydynt ? Os felly, y mae yn iawn eu cadw allan o'r cylch ; amgen y mae ganddynt yr un hawl ì gyfeillgarwch, cariad, a gwirion- edd ag sydd gennym ninnau. Os Cyfundeb, Cyfundeb a'i borth yn agcred i'r holl deulu, ac nid i gym- main ag a godir rhwng bys a bawd o gelwrn yr hiliogaeth ddynol. Yr oedd yr Iuddewon wedi gwyro yn rhyfedd oddiwrth yr hen eg- wyddorion, wedi eu cyfyngu iddynt eu hunain, ac yn adnabod eu gilydd yn hollol fel Iuddewon ; ac ni ys- tyrient neb yn gymmydogion, na'u bod dan rwymau cyfeillgarwch i neb, ond i'r genedl Abrahamaidd. Ond torrwyd canolfur y gwahan- iaeth hwn. a dangoswyd bod yr holl deulu dynol yn yr un berthynas â'u Crewr, ac yn sefyll hefyd yn yr un berthynas â'u gilydd. Ein Har- wyddair ni a ddysgwyd mewn eg- lurdeb mawr gan Geidwad dyn, sef " Cyfeillgarwch, Cariad, a Gwirion- edd," ac mai holl denlu Adda yd- oedd ei wrthddrychau. Y mae dammeg y Samaritan trugarog yn egluro hyn yn neillduol. Ystyriai yr Iuddewon y Samariaid allan o gylch cymdeithas, ac yr oedd gan- ddynt wasanaeth at eu rhegu a'u melldithio unwaith os nid yn ych- waneg bob blwyddyn. Rhyw ddyn ar ei daith o Jerusalem i Jericho, a syrthiodd ym mhlith lladron, bu agos iddo a chael ei ladd, a'r ys- peilwyr a'i gadawsant ym mron marw ar yinyl y ffordd. Daeth yr