Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL Rhif. 79. IONAWR, 1842. Cyf. VII. HEDDWCH SION. " Dymünwch heddwch Jerusa- lem: llwydded y rhai a'th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni." Psalm 122. 6—8. " Mae Eglwys Dduw Drwy'r ddae'r a'r nef yn un, Angylion byw A'u cydsain yn gyttun ; Teilwng yw'r Oen, Medd seintiau yn y nef, Teilwng j^w'r Oen, Yw'n llafar ninnau a'n llef." Wrth weled y cymmanfaoedd blynyddol yma ac acw ar hyd y wlad, y cyrddau undeb eglwysig a gynnelir yn ein hardaloedd, y cyrdd- au diwygiadol yr ymffrostir cym- maint ynddynt, y tystiolaethau yn y Cyhoeddiadau Misol o fod yr Ar- glwydd yn gwenu ar y cyfryw, ac mai da i'r gwyddfodolion fod yn- ddynt, gellid meddwl ar brydiau, mewn barn cariad, fod dynion yn syml ac yn onest gyda chrefydd, ac nad ydynt yn beiddio gwneuthur gwawd o bethau mor gyssegredig ; ond gan nad pa faint o ddaioni sydd yng nghrefyddolion yr oes, y mae eu drygau yn waeddfawr, a'n hys- gelerderau yn ymddyrchafu yn go- lofnau mawrion tua'r nefoedd ; o herwydd ni bu un oes ar grefydd erioed, pryd y dangoswyd mwy o anghrefydd gan y rhai a'i proffesent na'r oes hon ; oblegid ysgafn gan ein crefyddolion ni ydyw dilyn llwybrau yr hen rwygwyr a'r hen derfysgwyr gynt, am eu bod yn. waeth na neb a fu o'u blacn, ac y mae yn anhawdd credu y daw neb ar eu hol a gyrhaeddant nod pell- ach mewn drygioni. Y mae tym- mhorau gan dwymynon a haint y nodau, ac mewn rhai cymmydog- aethau y teyrnasant; ond am ddryg- ioni ac annuwioldeh crefyddolion ein hoes ni, y mae yn gyffredinol, oddieithr ychydig enwau yn eu plith yma a thraw eneidiau cyfiawn y rhaî a boenir, fel eiddo Lot yn Sodom, oblegid yr amryfusedd mawr ag sydd wedi ymlid crefydd o dir Sect- ariaeth ! Y mae pob gweinidogaeth yn an- effeithiol, er dwyn ein Sectariaid i'w lle ; oblegid y mae gweinidog- aeth rymmus yr Yspryd, yr hon a broffesent ei bod yn eu plith mor effeithiol yn ddiweddar, wedi methu eu rhadloni, o herwydd y maent yn powdro at eu gilydd yn awr yn waeth nag y gwnaethant erioed. Un darn ydyw yr Eglwys a bwrcas- odd Düw â'i briod waed; ond y