Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. ]?HIF. 87. MEDI, 1842. Cyf. VII. PREGETHU OEFEIRIADOL, AC ATTEB YR OFFEIRIAD. Barn gyffredin yr Ymneillduwyr ydyw, nad ydyw pregethau Offeir- iaid yr Eglwys yn werth eu gwran- do, a'u bod yn gwbl dlodaidd. gyda golwg ar fatterion. Ac y maent wedi myned gam ym mhellach na hyn yn eu tyb atn waelder yr Offeir- iaid, sef eu bod yn aualluog i gyfan- soddi pregethau; ac er cael pre- gethau parod, eu bod yn analluog i bregethu y cyfryw. Y mae corph yr Offeiriaid yn cyfansoddi eu pre- gethau eu hunain, ac mor alluog i'w cyfansoddi a neb pwy bynnag ; ac er profi hyn, ni raid ond darllen y pregethau a argraphant, y rhai ym mhob ystyriaeth ydynt yn anrhyd- edd i'r offeiriadaeth ; ac y mae yn awr yng Nghymru, heb son am Loegr a'r Iwerddon, gystal pre- gethwyr ym mhlith yr Offeiriaid a neb a gyssegrasant bwlpudau er- ioed. Dywedir nad oes ditn bywyd ym mhregethu yr Offeiriaid; bod eu gweiuidogaeth yu oerllyd, dîflas, diadeiladaeth, a digyffroad ; ond y mae hyn yn ymddibynnu yn hollol ar archwaeth a dygiad i fynu y gwrandawyr. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng pregethu yr Offeiriaid a phregethu yr Ymneillduwyr, fel y mae y rhai a fyddont yn arferol â gwrando ar ý naill yn anghym- meradwyo y llall. Pan ddigwyddo Ymneillduwr ddyfod ar ddamwain 21 i'r Eglwys, gweìed yr Offeiriad a'i bregeth o'i flaen ar y pwlpud, a'i glywed yn ei darllen yn bwyllog a difrifol, yn Ue ei theimlo, ystyria ei bod yn hollol ddiwerth. Pan elo Eglwyswr ar ddamwain i dý cwrdd, a chlywed pregeth ddifyfyr ; y pre- gethwr yn dechreu bloeddio ac ys- grechain, yn adrodd yr un geiriau drosodd a throsodd, ym mron colli ei anadl, yn llafur a chwys mawr, ac yn cymmysgu pethau am bennau eu gilydd, ymadawa, gan ystyried y bregeth y cruglwyth o'r dwli mwyaf a glywodd crioed. Cyn y gellir rhoddi barn gywir ar y naill bregethu mwy na'r llalî, angenrhaid ydyw yn flaenaf ymofya pa beth ydyw pregethu. Pregethu yr efengyl ydyw cyhoeddi gwirion- eddau yr efengyl i ddynion, neu ddysgu dynion mewn gwybodaeth ddwyfol berthynol i'w gwir gysuron yn y fuchedd hon, ac i^w heddwch tragywyddol yn y fuchedd sydd i ddyfod. Gellir raeddwl bod y go- lygiad liwn yn gywir ar bregethu; oblegid y mae yn amlwg, os na bydd y gwrandawyr yn derbyn dysg oddiwrth y bregeth, bod y bregeth yn gwbl ofer i'r gwrandawyr. Go- fynna pregeth am gael ei myfyrio yn dda, yn fanwl, a thrwyddi olì; oblegid os bydd y bregeth heb gaeí ci myfyrio yn dda, bydd yn sicr o