Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 89. TACHWEDD, 1842. Cyf. VII. Y GYFUNDRAETH WIRFODDOL, &c. Er bod y gyfundraeth wirfoddol yn cael ei dyrchafu yn uchel yn y dyddiau presennol, etto y mae ei pnleidwyr gwresoccaf yn achwyn yn dost arni; ac nid heb achos, oblegid y raae yn dra thlodaidd. Ond rhag i'r Ymneillduwyr haeru ei bod yn cael ei drwgiiwio gan Eglwyswyr, rhoddir ger bron eu dywediadau hwy eu hunain am dani, allan o'u llyfrau, eu traethodau,a'u cyhoedd- iadau nwy eu hunain. A sylwed y darllenydd, bod yr ymadroddion canlynol wedi eu hysgrifennu dan gyhydedd Lloegr, a bod y gyfun- draeth yn llawer Uesgach yn ei gwaith gyda ni yng Nghyruru. " Er bod rhai cynulleidfaoedd yn cynnal eu gweinidogion yn weddol dda, etto, gyda eu gilydd, nid ydj'nt yn cael dros drugain punt a deg yn y flwyddyn. Neu, meddylier eu bod yn cael pedwar ugain punt, a ydyw hyn yn ddigon i gadw teulu ? Nid oes dim deg ar hugain o weinidog- um yr Ymneillduwyr a allant osod ceiniog o'r tu cefn. Mwy na'u han- ner nî allant fyw ar eu cyflogau, ac o angenrheidrwydd y maent yn gor- fod rhedeg mewn dyled. Y roae amgylchiadau llawer o weinidogion yn wir alarus. Rhai cynnulleidfa- oedd ydynt gywilyddus o fawaidd ; y nifer lìosoccaf o weinidogion ni ftllaut fyw, Meddylia rhai bod my- ned i'r capel yn ddigon o anrhydedd i'r gweinidog. Rhai, o wir gybydd- dod, ni chyfrannant ond y peth ileiaf. Meddylia rhai bod ychydig i'r gweinidog yn well na llawer. Y : mae y blaenoriaid a'r diaconiaid yn j ddisylw o'r gweinidog. Y gweinid- ogion ydynt yn gorfod cadw ysgol, neu fasnachu dan law. Rhaid i fwy na'u hauner redeg i ddyled." Dyna fel y dywedir gan yr Ymneillduwyr eu hunain am y gyfundraeth wír- foddol yn ei gweithrediad yn Lloe^r, ond y mae yn llawer mwy truenus na hyn yng Nghymru. Yng ngwei- thiau Gwent a Morganwg y gweith- reda y gyfundraeth hon oreu ; ond ar hyd y siroedd y mae yn druenus iawn. Yn y gweithiau gwneir cas^l- iadau i'rgweinidog bob mis, o bump, i chwech, a saith punt y mis ; a rhai yn cael rhwng pob peth o bedwar ugain i gan' punt y flwyddyn. Ond ar hyd y wlad, er bod y cynneilleid- faoedd yn lliosog, etto cwtta iawn iawn ydyw y casgliadau; ystyrir deugain punt y flwyddyu yn gyiflog ragorol i weinidog; ond yn gyffre- din, er bod y gweinidogion yn blu- ralists, a chanddynt ddwy, tair, a phedair o gorlannau o dan eu gofal etto, yn gyffredin, ni wnant rhyng- ddynt dros ugain punt y flwyddyn o gyflog i'r gweinidog ! Yng Ngbym- ru_, y mae gweiuidogion yr Ymneill-