Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. 1?HIF. 90. RHAGFYR, 1842. Cyf. VII. AR Y DIBYN. Edrychwn i ba le bynnag yr ed- rj^chom am ymwared, disgwyliwn am achubiaeth o ba le bynuag y tueddir ni gan ein dychymmygion i ddisgwyl am hynny, a gosodwn ein hyder am arbediad ar bob rhyw wrthddrychau dan haul, yr ydym ni ar y dibyn mawr ofnadwy, na wydd- om pa funud y cawn ein taflu dros- to i wlad yn yr hon yr eglurir i ni ddirgelion anfarwoldeb, ac y gwneir ni yn hyspys o fuchedd y byd a ddaw! Ond pe ocldiwrth swn a dwndwr dynion, pe oddiwrth eu gwangc anorfod am bethau y bywyd hwn, a phe oddiwrth eu blys diwala am brofi o bob rhyw halogedigaeth, y mae i ni farnu eu perthynasau â hyd arall/ a'u rhwymedigaethau at eu Creawdwr, gallem benderfynu niai y byd hwn yn unig sydd iddynt, ac nad ydynt dan rwymau i neb namyn iddynt eu hunain yn unig. Eithr nid ydyw dymuniadau dynion yughylch gwirioneddau, na'u hym- ddygiadau ychwaith atwirioneddau, mewn un modd yn dinystrio gwir- ioneddau; o ganlyniad, bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gel- wyddog a wada wirioneddau y Duwdod, mewn meddyliau, mewn geiriau, ac mewn gweithredoedd. * naae natur yn brawychu, y meddwl yn llesghau, y teinúad yn dolurio, y galon yn gwanhau, a'r fynwes yn drallodedig yn y drem ar farw; o herwydd y mae yn amgylchiad dif- rif-ddwys ynddo ei hun, ac yn un o'r pethau mwyaf dychrynllyd i ddynion mewn cnawd, ac anhawddaf i ddynion mewn cnawd gymmodi eu meddyliau âg ef. Y mae tymhestl fawr aflywodraethus angeu, ac an- orchfygolrwydd ei natur yn erbyn pabellau dynol ag ydynt a'u seiliau yn y prìdd, a'u defnyddiau yn ddar- fodedig, yn dra brawychus, oblegid y mae mantellau duon tywyllwch nos fawr yn eì dilyn; peiriant y bywyd dynol yn cael ei ddyrysu, ac yn y pen draw celain oer yn cael ei gadael, a'r wreichionen fywiol am byth wedi dihengyd! Yr ydym ni wedi gweled dynion yn y gwasgfeu- onolaf; gwelsom lygaid o degwch a thíriondeb y wawr yn hylldremmu ar wagder, ac yn torrwynnu dan y ddyrnod olaf; gwelsom ruddiau o wrid y blodau mwyaf paradwysaidd yn gwelwi, ae yn wlychedig gan chwys oer, pan ydoedd y piser yn caeJ ei dorri oddiwrth y fFynhon ; gwelsom y cyffro gwannaidd diw- eddaf yn y fron, pan ydoedd yr edau yn cael ei thorri; a gwelsom yr anadliad diweddaf yn chwareu ar y wefus, ac megis yn dangos ei hanewyllysgarwch i ymadael; a throisom draw oddiwrth yr olygfa frawychus, o wir wendid natur!