Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL Rhif. 92. CHWEFROR, 1843. Cyf. VIII. EGLWYSI ANYMDDIBYNOL A BEDYDD BABANOD. Gellid mcddwl, wrth dwrf mawr yr Anymddibynwyr, bod llwybr eu llywodraetb a'u trefn eglwysig mor ysgrythyrol a rheolaidd, fel nad oes ynddo na gwyrni na tbrawsedd ; ond bod y cwbl oll perthynol i'r hyn a alwant y Gyfundraeth Eglwysig <rynnullëidfaol,a'u llinell yng ngha- nol llwybr barn, ei bod yn berífaith yn ei holl rannau, ac heb yr anghys- sonder lleiaf ynddi. Y maent yn llafaru yn uchel drwy y wlad a'r gwledydd ara berffeithrwydd cyn- llun eu teml, am odidogrwydd yr oruwch-adeiladaeth, am gadernid y murian, ac am yr hyn oll ag sydd yn perthynu iddi; ond wedi y cwbl, y mae yr adwyau sydd ym muriau eu liadeíladaeth o'r fath faintioli, fel nad oes braidd ddlm i'w weled ond y rhai hyn. Pan edrychir ì mewn i'r Gyfundraeth Eglwysig Anym- ddibynol, y mae mewn rhyfel tragy- wyddol â hi ei hun, ac y mae yn gwrthddywedyd ei hun, yn y cwbl, fel na ellir yn dragywydd assio ei gwahanol ddefnyddiau ynghyd, na'u dwyn yn oes oesoedd i gwlwm. Pe edrychid ar holl drefniadau cre- fyddol y gwledydd, a phe ymchwil- id i holl gynlluniau eglwysig y byd, ni cheid dim rcor annhrefnus, ac mor filwrus yn ei erbyn ei hun, ag ydyw y trefniant eglwysig cynull- eidfaol; oblegid gledd yng nghledd y mae, ac felly y parha ei rannau, hyd oni ddelo yr Anymddibynwyr i syuio yn gywirach, ac i ffurfio eu liunain yn ol cyfundraeth fwy cys- son. Y gwir ydyw hyn, y mae trefn eglwysig yr Anyînddibynwyr yn er- gydio yn farwol at Fedydd Baban- od, a Bedydd Babanod yn ergydio yr un mor farwol at y trefniant eg- ìwysig Anymddibynol! Y mae eu trefniant yn curo Bedydd Babanod, a Bedydd Babanod yn cnro y trefn- iaot; y trefniant yn myned dan sail Bedydd Babanod, a Bedydd Bab- anod yn myned dan sail y trefniant; y trefniant yn gwaeddi yn groch, Ymaith a Bedydd Babanod, a Bed- ydd Babanod yn gwaeddi yr un mor groch, Ymaith a'r trefniant! Dyma y fath beth ydyw y trefniant eg- lwysig Anymddibynol! Penbleth q anghyssonderau, yn brwlian trwy eu gilydd yn hollol ddidrefn, ydyw Anymddibyniaetb! Ÿ trefniant anymddibynol, neu fel y mae yn awr yn cael ei alw yn fwy cyffredinol, y trefniant cynnuli- eidfa^l, ydyw hwnnw, ag sydd ya honni mai gwirfoddoliaid ncu ew- yllysgaryddion wedi ymgyfammodi â'u gilydd, heb fod dan rwymau ufudd-dod i neb pwy bynnag, a chanddynt gyflawn awdurdod i lyw- odraethu eu hunain yn ol y Bibl, ydyw Eglwys y Testaraent Newydd.