Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 93. MAWRTH, 1843. Cyf. VIII. Y TADAU APOSTOLAIDD. Gofid amryw o honom ydyw, na buasai Apostolion ein Harglwydd Iesu Grist wedi ysgrifennu mwy ar Gristionogaeth, heb ystyried mai eu prif orchwyl hwynt ydoedd cyhoeddi ffydd fawr yr efengyl ym mhlith yr holl genhedloedd, a*u dwyn oddi- wrth ddelw-addoliaeth at addoliad y gwir a'r bywiol Dduw, megis y mae wedi ei ddatguddio yn ei Fab Iesu. Yng nghyflwr cyntefig \r Eglwys, nid cymmaint oedd yr ang- enrheidrwydd am ddynion i ymddi- ffyn purdeb a gwirionedd y Ffydd Gristionogol drwy ysgrifeniadau; oblegid cyhoeddi y gwirioneddau, dioddef drostynt, a charu eu gilydd, ydoedd prif fatter y Cristionogion boreuol ; o ganlyniad, nid oes wedi ei drosglwyddo i ni ond ychydig gyfansoddiadau y gellir yn briodol ddywedyd eu bod wedi eu hysgrif- ennu gan Gristionogion ag oeddynt yn gydoeswyr â'r Apostolion. Ÿs- tyrir y llyfr adnabyddus wrth yr enw Pastor of Hermas, yr hynaf o holl lyfrau y Tadau ; a'r dyb gyff- redin ydyw, mai ei awdwr ydoedd yr Hermas hwnnw a grybwylla Sant Paul, yn nherfyniad ei Epistol at y Bhufeiniaid. Ond er bod y dyb yn gyffredinol mai hwn ydyw yr hynaf, etto nid ydyw yn oesau diweddarach Cristionogaeth wedi cuel y parch hwnnw a roddid iddo yn yr oesau cynharaf. Mewn rhai Eglwysi, der- bynid Bugail Hermas fel cyfrau o'r Ysgrythyrau Canonaidd, ac y mae Irenaeus ac Origen yn crybwyll arn dano yu y cyfryw gymmeriad, fel pe buasai wedi ei ysgrifennu drwy gyfarwyddyd dwyfol; ond rhoed y meddwl hwn heibio am dano yn yr ymchwiliadau boreuol a wnaed tuag at benderfynu Canon y Testament Newydd ; ac y mae gwrthodiad llyfrau fel hyn,a dderbynid unwaith fel rhai o ddwyfol ysprydoliaeth, yn brawf o'r gofal mawr a gymmerwyd i sefydlu Canon y Testament New- ydd. Y rhan fwyaf o Fugail Her- mas sydd gynnwysedig o adrodd- iadau gweledigaethau, ac felly yn rhy gyffelybiaethol i fod o leshad cyffredinol, oblegid ei fod mor an- nealladwy. Gan fod Bugail Her- mas mor gymmylog ac mor anneall- adwy, y mae ym mhell iawn yn ol gyda golwg ar ei ddefnyddioldeb i Epistol Clemens Romanus, yr hwn a ellir ystyried mor hen a Bugaìl Her- mas. Ỳ Clemens hwn a grybwyllir gan St. Paul yn ei Epistol at y Phi- I lippiaid, ac a bennodwyd yn Esgob Rhufain yn y flwyddyn 93. Fr achlysur o ysgrifennu yr Epistol hwn, fel y tybir oddiwrth Irenaeus, ydoedd, er mwyn adferu heddwch i Eglwys Corinth, trwy gryfhau eu ffydd, a galw eu meddyUau yn ol at