Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 95. MAI, 1843. Cyf. VIII. Y NIWED O GREULONDEB AT GREADURIAID MUDION. Y RHAGDRAETH. Nid oes brawf sicrach o gynnydd gwareiddiad dynolryw, nag mewn ffurfiad Cymdeithasau er diwyllio y meddwl, meithrin rhinwedd, ac an- nog dyngarwch a thosturi ; a diau fod sefydliadau o'r fath, ym mhob oes, gwedi dwyn yr effeithiau mwyaf dymunol ar eu haelodau. Dylai fod yn hyfrydwch mawr i bob Cyraro, i weled ei genedl fel yn rhoddi breis- ion gamrau at y perwyl hwn, yn yr oes hon, drwy ffurfiad Cymdeithas- au ac EÌ6teddfodau, gan gynnyg gwobrwyau, er annog dynion i ym- egnio at wybodaeth. Etto dadleuir llawer ynghylch addasrwydd a thei- lyngdod rhai o'r pethau a roddir fel testunau er ymdrin â hwynt; ac os ydym i ddeall mai cynnyddu gwar- eiddiad a llydanu gwybodaeth yw yr amcan, ef allai nas gellir yn gwbl gollfarnu yr adolygiadau, cyn belleçl ag eu ceffir fel yn awyddu am wellhad. Diau y dylai cenedl y Cymry, yn anad neb braidd, am- canu at bethau a phyngciau ag a fyddont yn tueddbennu at feithrin a chodi pob peth ag a fyddo yn dyner a thrugarog, ac i arddangos dyn fel is-lywydd y cwbl, yn llanw ei le fel dyn, gan ymddiffyn yr hwn na fedr ymddiffyn ei hun ; gan y dangosir awydd mawr ì warthruddo ein hyn- afiaid, a blaenoriaid y bobl, gan eu dangos fel y creulonaf o holl gen- hedloedd byd, drwy fod yn aberth- wyr bodau dynol. Haera, ef allai, yr oesoedd dyfodol yr un pethau am yr oes hon, oni bydd profion an- wadadwy i'r gwrthwyneb; a hyn nis gellir ei sefydlu yn well,meddaf, na thrwy fod ar gael ysgrifeniadau, ar destunau cyffelyb i'r testun rhag- orol hwn, y rhai a fyddant yn rhwym o arwain y darlîenydd diragfarn bob amser i'r ymresymiad hwn:— " Os gofalent felly am anifail y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y fory a fwrir i'r clawdd ; Pa faint mwy y gofalent am ddynion na fyddant feirw byth ?" Y TRAETHAWD. Aneirif ryfeddodau anían ydynt foroedd, ag y bydd yn rhaid i bob oes o'r byd, wedi eu holl blymio, waeddi allan ar yr oesau dyfodawl, Estynnwch etto y llinyn: etto mae dyfnder! Dydd at ddydd a ddad- guddia ryw beth o newydd yn y gread ddifywyd ; bydoedd newydd, yn yr ehangfaith wagìe, a ymddang- osant i'r ser-syllydd megis wedi eu newydd greu ; ynysoedd a ddargan- fyddir gan yralwybryddion y cefnfor, megis ncwydd neidio i fodoliaeth; a'r tau-ddaearyddwr, yntau, a da-