Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

198 JACOB. sicrach ydyw na'r creigiau, a mwy diysgog ydyw na cholofnau y ddae- ar ; oblegid y mae yn fyw, ac yn hlaguro mewn gogoniant a phryd- ferthwch yn y rhai sydd wedi marw. Abel ydoedd y cyntaf a aeth i lawr i ddyffryn cysgod angeu, a thonnau yr Iorddonen ; ond er ei guddio yn y gweryd, a'i roddi i orphwys ym mhriddellau oerion y glynn, y mae yn fyw heddyw yn ei ffydd, a'i lafar yn groyw yn ei weithredoedd. Noe a rifwyd gyda y marwolion, ac a roddwyd i gadw yn llannerch meib- ion marwolaeth ; ond yn ei ffydd a'i ufudd-dod, y mae yn fyw heddyw, ac ym mhlith nifer y cwmmwl tyst- ion ag sydd yn ffurfafen anfarwol- deb, yn derbyn eu disgleirdeb oddi- wrth Haul mawr y nef; ac y mae swn ei ganiadau o ymwared, pan ydoedd yr arch yn nofio drwy y diluw digofus, heb beidio yr awr hon. Abraham, er wedi malurio yn llwch yn ogof maes Macpelah, ger Caer-Arba, er ys oesau lawer ; etto, drwy ddadblygiad cyfammod y pry- nedigaeth y mae mor fyw ag y bu erioed; y mae yn amlwg i'w weled ar ben Moriali, a'i gyllell wedi ei dyrchafu er torfynyglu ei fab yn ol gorchymmyn y nef; y mae yn amlwg i'w weled yn edrych drwy yr yspienddrych o fryn Mam- re, ar ddydd Crist, ac yn llawen- ychu; ac fe'i canfyddir yn awr ar ben y rhes, fel tad y ffyddloniaid, yn gadfridog mawr ar deulu y ffydd ; yn ddyn Duw, yn rhodio ar hyd wastadodd y wlad, ac yn enghraifft neillduol o ymroddiad ílwyr i drefn y Goruchaf, gan uad beth a fyddai y canlyniadau. Isaac hefyd sydd yn fyw o byd ; oblegid y mae ei enw yn gyssegredig, ac yn gwneu- thur i fynu y trioedd o wyr sanct- aidd, y mae Elohim yn Dduw iddynt drwy yr holl oesau, ac y bydd eu heuwau yn swnio yn beraidd ym mhob gwlad, ym mhob iaith, ac ym mhlith holl dylwythau y bobl y dar- Uenir Llyfr Duw yn eu plith hyd derfyn amser. Jacob nid anghofír byth; oblegid ei dduwioldeb bo- reuol a ymagorodd fel y wawr, ei ofidiau a'i hamgylchent gan ddy- lenwi fel tonnau y môr mawr, ac y mae ei holl daith drwy y glynn, o'r groth hyd fro distawrwydd, yn faes cynnyrchiol i'r meddwl myfyrgar; ac o bob tu i'w lwybrau, y mae ar- graphiadau amlwg o oruwch-lyw- odraeth y Brenhin mawr, yn trefnu y cwbl er dwyn yr amcanion tragy- wyddol oddi amgylch. Cafodd Jacob ei gynnefino â go- fidiau yn ei ddyddiau ieuengaidd. Y mae yn deilwng o sylw, fod pob personau a fwriedid i atteb rhyw ddibenion neillduol gan y Goruchaf Lywydd, wedi cael eu dwyn drwy beiriau o ofidiau lawer. Ni all neb weithredu gydag effeithioldeb, nac ymddwyn yu gall dan lawer o am- gylchiadau, heb brofiad ; ac ni cheir profiad heb dywydd garw, ac er- gydion i'r teimladau, y rhai yn rhy- fedd a gymhwysant ddynion i lanw eu Ueoedd gyda phriodoldeb mewn cymdeithas. Pan ystyriom ddyn yn ei holl berthynasau, y mae profiad yn ei wneuthur yn fendith yn ei holl gyssylltiadau â'r fuchedd hon. Y mae llywodraethwr profiadol yn fen- dith i'r wlad, meistr profiadol yn fendith i'r rhai a'i gwasauaethant, rhieni profiadol yn fendith i'w plant, a gweinidogion profiadol yn feudith i'w cynnulleidfaoedd. Gwir bod tywydd tymhestlog, pan fo'r awyr yn gÿnhyrfus, yr awelon yn chwyrn- droelli, a'r gwyntoedd yn rhuo, yn flin iawn i'r teithiwr wrth ymdynnu ym ralaen ar ei Iwybrau; ond drwy hynny y mae yn cael ei weithio i amynedd, ac i fod yn blygedig i ewyllys Duw ei Grawdwr. Pa fath aelod mewn cymdeithas ydyw dyn heb brofi trallodion, heb gyfarfod â gorthrymderau, ac heb ei glwyfo yn ei deimladau ? Trueni mawr gweled yr ieuangc dan bwys ei feiohiau, yn rhodio yn alarus gau drymder ei feddwl, ac yn cwynfan yn dost dan