Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

210 TRACTARIAETH, ftc. Be wnawn ì y mae'n gwrthddrych yn gorwedd yn dawel, Yng ngefyn yr angeu yn rhwym wedi'i gloi, Yr annedd ni chyffry hyd ddolef yr angel, Heb nerth na medrusder i symmud na throi. Gan nerthoedd tynniadawl yr huan pelydrawg, Y cyfyd pob tyfìant o'n duear yn wych, Y uoedwig a'r maesydd yn wyrddlas a deiliawg, Yn faethawl eu sylwedd, yn ddillyn eu drych; Ond er yr holl wychder ar wyneb y maesydd, Arfaethau tymhorawl yn darllen in' hedd, Mae John William Thomas yn aros yn Uonydd, Ni cbyfyd er unpeth daearol o'i fedd. Nid oes gennym weithion, wrth gofio'i rymmusder, Ond gadael ei enw'n gwynfannus fel hyn; Mae gwreiddyn pob mynwes dosturiol mewn pry- Er dydd ei farwolaeth yn aros yn synn ; [der. Gobeithio'i fod yntau mewn dwyfol dangnefedd, Yn medi'r cynhauaf a dyfodd mewn braiut, Bhoi'i Anthem i'r Prynwr, y testyn diddiwedd, Yng nghaer y diddanwch, trigfannau'r holl sainL O I wanned yw'r einioes, nid gwiw rhoddi hyder Ar fywyd y doethwr yn hyttach na'r ffol, Mae ansawdddynoldebyn llawn o ddiffrwythder, Ac anffaeledigrwydd yn aros ar ol j— Ercolli mewn ystyr un mawr o'n blaenoriaid, Cyfoded Duw iui un enwog o'i had, A bydded yn Geidwad i"r Weddw a'r Amddifaid, I'w dal yu eu trallod, yn Noddwr a Thad. Mae llawer o lafur y rhinwr trengedig, Ar Iaith a Seryddiaeth fuasai leshad, A hwn yn anorphen,—otid ple mae'r dysgedig, A fedr ei gyflawni ì—mae hyn yn sarhad 5 O 1 Dduw dod amynedd i ddyoddef y golled, A thewi fel Aaron, rhag bod yn rhy ffol, Nid byth yn dragywydd y trigwn mewn lludded, Yr amser sy'n dyfod yr awn ar ei ol, Y ddyled ddiweddaf a ddylem gyflawni, Yw cerfiaw maen Mynor tryliwiawg a gwych, A dwylaw medrusawl, i'w drefnus gofnodi, Uw'ch ben ei weddillion sy'n nyfnder y rhycb, A llun y Planedau a'r deuddeg Arwyddion, Yr Huan lleuerawl, a'r wenloer ynghyd, Ac wedi'i gylchyn'i â llysiau persawrion, Yn arwyddo'i enw'n arogli'u y byd. ElDDIL ISELW-DREM. TRACTARIAETH, &c. Mrd. Gol.—Rhyfeddol ydynt weilhred- oedd nerthol Duw erioed tuag at ei Eglwys, y ddyweddi, gwraig yr Oen, yn wyneb y cymmylau a ymdaenant drosti yn yr aniaî- wch, ynghyd a holl rwystrau alhramgwydd- iadau lliosog gwlad y cystudd mawr. Y mae yr Eglwys wedi ei chynnal yn rhyfedd ar bwysei addewidion ac yn ei weniadau; "Oblegid yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawanydd: efe a lonydda yn ei gariad: efe a ymddigrifa ynnotdan ganu." Gwir i niwl a thywyllwch Pabyildiaeth ymledu drosti am lawer oes, ac heb onid ambell seren yn disgleirio yn awr ac yn y man yn ei ffurfafen ; ond yn ei amser da ei hun, ymwelodd Duw yn lliosog- rwydd ei dosturiaethau a'r Eglwys Bryd- einig; ac yn nydd ei hymryddhad o'i chaethiwed Rhul'einig, torrodd ei goleuni allan fel y wawr, clywyd swn ei gwainidog- ion yn cyhneddi athrawiaethau pur a di- lwgr yr Apostolion a'r Tadau cyntefig, a hi 'a wnaed yn fendith i'r holl wledydd. Er mai yn yr Eglwys y dechreuodd y Diwyg- iad yn Lioegr, ac er mai o'i phwlpudau hi y cyhoeddwjd atiirawiaethau y groes yma yng ngwres y nef, a chydag angherddoldeb cedyrn y goleuni, y mae rhyw nifer o ffagl- wyr crefyddol a diegwyddor wedi ymgy- nghreirio yn annuwiol ynghyd, i gyfodi y rhagfarnau mwyaf yn y werin yn erbyn yr Eglwys hon, trwy gyhoeddi yn groch a di- gywilydd uwch bennau tyrfaoedd terfysglyd ac anwybodus, bod y nifer liosoccaf o Wei- nidogion yr Eglwys yr awr hon yn Bab- aidd! Pe byddai felly ; pe byddai y nifer liosoccaf o Weinidogion ac aelodau Eglwys Loegr yn Babaidd, a fyddai hyn, i ddynion ag sydd yn cymmeryd arnynt eu bod yn caru Duw mewn purdeb, a braidd yn fwy zelog na neb dros achubiaeth eneidiau dynion, yn achos o ymffrost ac o lawenydd, ac yn sail y fath orfoledd ag sydd wedi cael ei ddangos yn ddiweddar gan Ymneillduaid, oblegid cynnydd Pabyddiaeth yn yr Eglwys, fel y dywedant ? Os ydyw y pelh fel ag y mae y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr wedi cyhoeddi ei fod, gallesid meddwl mai cwyn- fan a wnaethent ger bron Duw, a thywallt eu heneidiau mewn eirchion ger bron yr orsedd fawr, am i'r Arglwydd ei hun o an- neddle ei sancteiddrwydd gyfryngu yn achos yr Eglwjs, a dwyn ymwared etlo i fynydd Sîon, a hynny trwy greu ar bob trigfa o hono,ac ar ei gymmanfaoedd, gwmmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos, fel y byddai amddiffyn ar yr holl ogoniant. Cryhwyllent, a chrybwylla hefyd, y Method- isliaid a'r Ymneillduwyr, am gynnjdd Pab- yddiaeth yn yr Eglwys, nid gydag unrhyw deimlad Crislionogol, duwiol, ac efangyl- aidd, ond mewn ffordd o rali a spri fawr, megis pe na byddai bod dynion yn cael eu dal yn rhwydau Pabyddiaeth o werth un ys- tyriaeth, o werth un deigryn, nac o werth dyrchafu un ochenaid tua'r nef> er mwyu