Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

212 ANNERCHIAD TEGID, &c. plaid, yn cenhedlu ymbleidiad, ac yn cyfodi enwau. Y mae hyn yn niwed o'r mwyaf; y mae yn gnawdol, gan nad pa mor uniawn- gred y byddo y pleidiau ; ac y mae hyn yn alar dyblyg yng ngorsaf gwybodaeth dduw- inyddol, o'r hon y gellid yn hytrach edrych am undeb, a bod dynion yno o leiaf yn siarad ac yn meddwl yr un peth. Niwed arall, a hwnnw yn un pwysig iawn hefyd, sydd yn cyfodi oddiwrth y flaith, bod gradd fawr o bwys raewn ymddangosiad yn cael ei gyssylltu â matterion o seremoni,— ynigrymiadau, plygiadau, cyfarchiadau, tro- adau, eisteddiadau, a sefylliadau,sef' mint, anis, a chwmmin' addoliad. Amryw o'r rhai hyn o awdurdod amheus; rhai o hon- ynt heb un awdurdod yn y byd. Amryw wedi eu rhoddi heibio yn gyfreithlon, a'u diddymmu drwy gydsyniad Llywodraeth- wyr yr Eglwys. Wrih gyflwyno gwyliadwriaeth fel hyn i sylw fy mrodyr ieuengaidd, mi a ddywedaf wrthynt, bod eu henuriaid a minnau heb yr ofnau Ileiaf. Gyda y Bibl yn ein dwylaw, a gadewch i mi ychwanegu, yn nwytaw ein pobl,xì\à oesdim i ofni yn ei herwydd mewn Pabyddiaeth. Y mae ei hathrawiaethau neillduol mor wrthwynebol i Air Duw ; mor eglur wrthwynebol iddo, fel mewn cyfartal- wch i fel y mae y Gair hwn yn adnabyddus, ac yn cael ei dderbyn yn y symlrwydd o hono, yn ol y cyfryw gyfartalrwydd y gwan- nycha Pdbyddiaeth. 'Syrthiodd, syrthiodd Babylon, y ddinas fawr honno!' ei chan- hwyllbren a symmudir ymaith yn brysur, a'i goleuni hi sydd yn myned allan. Gall, y mae yn wir, fod yma ac acw ryw egnion am fywyd. Gellir cyfodi teml sismaticaidd yma, (oblegid ni raid i mi ddywedyd wrth- ychchwi,bod y Pabyddion yn y wlad hon yn gwbl sismaticaidd,) neu geill pwlpud gael ei adeiladu acw. Geill fod rhai gwrei- chion yn y duwch, rhyw oleu am funud, rhyw lewyrchiadau am ychydg o weddillion y fflam yn cael eu cynnal gan ei ammhuredd ei hun. Ond Ilygredigaethau yr Eglwys Babaidd ni allant barhau yn hir ; y mae ei goleuni hi yn myned allan ; leyrnas Dduw a gymmerir oddi wrthi, ac a roddir i genedl yn dwyn mwy o ffrwyth. Fy Mharchedig Frodyr, bydded ein gofal ni i lynu wrth athrawiaethau y Bibl, fe) ag i unoâ'n Diwygwyr parchedig i ymwrthod â Chyfeiliornad Pabaidd, a chynnal Gwirion- edd Protestanaidd—fel ag i bregethu ffydd Crist—fel ag i fywmewnduwioldeb beunydrf- iol—fel ag i gyflawnu ein swydd uchel a sanct- aidd, fel y byddo i ni fel cenedl fod yn gyflawn o"r ffrwythau hynny y bwriadwyd yr efengyl i'w dwyn—yna ein canhwyllbren a adewir i ni, a'n goleuni a lewyrcha ; ac am Eglwys Loegr y dywedir,' Duw sydd yn ei chanol hi, am hynny nid ysgoga; Duw a'i cyn- northwya hi yn foreu iawn.' " Yn y wedd tìaenorol y mae Canghellwr Llandaf wedi amlygu ei hun gyda golwg ar gamrau diweddar y Tractariaid ; ac y mae yn achos o lawenydd mawr bod Eglwyswr mor uchel ei gymmeriad, mor ddysgedig, ac o fywyd mor ddiargyhoedd, wedi cy- hoeddi ei hun fel y gwnaeth dros Ffydd Brotestanaidd Eglwys Loegr; ond dios y buasai yn well gan y Methodistiaid a'r Ym- neillduwyr ei fod ef ac eraill wedi rhedeg i'r unrhyw ormod rhysedd a'r Tractariaid! Ilandaf. Lleorwg. ANNERCHIAD TEGID, A'I GYFIEITH- IAD O GAN LUTHER. [Megis ag y crybwylla ein Gohebydd ' Lleurwg,' y mae yn rhyfedd fod y Me- tliodisiiaid a'r Ymneillduwyr yn gwynfydu yn ymledaniad gwenwyn Traclariaid Rhyd- ychen, a'u bod yn fwy hoft o gyhoeddi y cyfryw i'w pobl, na'r OITeiriaid hynny ag ydynt yn nifer fawr ar y maes yn dal dir- Relwch yFf)dd,megis y mae yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Wele yn canlyn Ffydd y doniol a'r enwog Tegid; ond Pusey a Newman ydyw yr enwau niwyaf hyfryd gan Methodistiaid a'r Ymneillduwyr i'w swnio ar hyn o bryd.—Y Gol ] AT olygwyr yr haul. Foneddigion,—Mynych y mae yn dyfod i'm cof glywed y diweddar hybarch Mr. Christmas Evans yn adrawdd mewn llais taranaidd soniarus yr Etiglyn canlynawl, o waith.ebai efe, yr Archdiacon Prys, ac ni fedr neb ond y rhai a'i cly wsant yn taranu allan Englyn, neu ddarn o Gywydd, ar bregeth, ddirnad y modd grymus a deffröus y dywedodd yn fy nghlywedigaeth :— Er Diawl oer hawl sydd yn rheoli—drwg, Er dreigiau a bryntni; Ni all dim ni»ed imi, Ac a Duw mawr cyda mi. Gofynais i Mr. Evans a wyddai efe at ba bcth, neu at bwy,yr oedd yr Eoglyn yn cyl'-