Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ANNERCHIAD TEGID, &c. 213 eirìaw. G wn, ebai efe,mai yn erbyn Eglwys Rbufain y cyfansoddwyd—y drwg, llywydd yr hwn yw y diawl. Yr achos a'm cymhellodd i anfon i chwi yr ychydigyn banes uchod ydyw, oblegid i n»i yn ddiweddar gyfarfod ft Phennillion o waith y Dr. Martin Luther yn erbyn yr un drwg, ac, mal yr Archdiacon, yn dangos ynddynt fod ei hyder, megys yntau, yn Now. Y cyffelyb feddylddrych sydd yng ngwaith y ddau; ac wrth ystyried hyny, a gweled hefyd fod y drwg yr achwynir yn ei erbyn gan y ddeuddyn enwawg uchod heb ei lwyr ddifa allan o'r byd, bu i mi Gymreigiaw Pennillion Luther o'r Allmanaeg, er mwyn dangaws i'm cenedl y dichon y bydd eto gyffelyb achwyn a chwynaw, galaru a go- fidiaw, oblegid yr unrhyw ddrwg yn Lloegr a Cbymru, os goddeflr i Pusey a Newman, a'u dysgyblion, wenwynaw athrawiaethau iachus yr Eglwys Sefydledig. Y mae yn ofldus meddwl fod dynion i'w cael, îe, yn Ngbymru hefyd, yn y dyddiau hyn, dynion ag ydynt Weinidogion yn y Fam Eglwys, yn arddelwi ac yn magwriaethu y Drwg. Mi a adwaen rai o ho^ynt, rhai y sydd a'u cegau yn rhwth agored yn gwancus lyncu dywediadau amympwyau Pusey a Newman, ac am i'w plwyfolion gael yr unrhyw wancus chwant a hwynthwy eu hunain i ym- borthi, mal y maent hwy yn cywilyddus ym- borthi cydrhwng muriau Eglwys Lloegr, ar fwydydd afiachus—ysporion budraidd Eg- lwys Rhufain. Y maent yn llygadrythu ar Rufain, ac yn porthi eu heneidiau ftg ath- rawiaethau mwyaf gau yr Eglwys fwyaf Iygredig o holl Eglwysi Cred. Blwyfolion Protestanaidd Cymru, pa byd y goddefir hyn? Gochelwch rhag surdoes y cyfryw lygadrythwyr Rhufeinig; a throwch ym- aith oddi wrthynt rhag rhoddi clustymwran- dawiad iddynt, a dywedwch,— "1 lawr yr aed Papistiaid, Puseyaid a Newraaniaid; Na fydded iddynt gaffael rhan Ynmysg y Protestaniaid. Os oes neb yn gallu tewi wrth ganfod fod athrawiaethau Puseyaidd-Newmanaidd, sef yw y rhai hynüy, Pabyddaidd, yn cynnyddu yn y wlad, ni allaf fi deici; a gobeithiaf na fydd i mi, pwy bynnag a dawo, weled y dydd y gallaf fl ddywedyd,— « Mi fedraf fianau—Dewi." aro (Gwel PemUUion y Tewi, y* yr Haul »Chwefror,ta.dal»5T,) ... ... 2C O! Olygwyr yr Haul, a ellwch chwi dewi ì Buoch ffyddlawn amddiffynwyr yr Eglwys Sefydledig hyd yn hyn, dangoswch i'r wlad mai ei hamddiffynwyr fyddwch eto; a chwi a ennillwch ewyllys da ei holl Weinidogion uniawn-gred trwy yr hoíl wlad. Nid ydyw Pabyddiaeth wedi newid dim, oddi eithr yn ei anallu yn bresennawl i ladd a liosgi; ond gadawer iddo orlifaw j wlad, ymddengys yn ei rym, mal yn amser y Mari waedlyd. Y mae rhyw arfer wedi ymlitbraw i mewn ers tro yn awr o alw Pabyddiaeth wrth enw tyner, megys pe dywedid Twmi yn He Tho- tnas, ac nid yw Twmi ond plentyn bach di- niwed; am Thomas, gwr yw hwnw; a rhaid gwiliaw rhag digiaw Thomas. Nid yw y Pusey-Newmaniaid eto wedi cyrhaedd cryf- der ac oedran gwr; ond y maent yn tyfu i fyny,achyn hir rhaid ichwibeidioa'ugalw yn Dwmi, ond Thomas. Y mae Twmi, beth bynnag, eisys yn dechreu dangaws ffyrnig- rwydd ei natur, a hynny yn ddirgelaidd, ymysg y rhai.y gall ymffyrnigaw yn eu her- byn yn ddigerydd. Ac y mae efe, ár rai gweithiau, yn bygythiaw atí yn dwrdiaw ya safnrythig ; ac yn y dirgel hefyd yn taraw rhai plantos o dan eu hais yn ddystaw. O 1 blwyfolion Protestanaidd Cyraru, Pa beth a ddaw o honoch chwi pan gynnyddo Twmi i oedran gwr, pan fydd yr enw Twmi gwedi ei newid i Thomas ? Pa' beth meddwch chwi ? Onid yw Twmi, a'i frodyr, yn lled debyg i Rebeccah aH Phlant? Y mae Re- beccah yn gweithiaw yn y nos, gan arloesi y prif-ffyrdd o bob rhwystr cyfreithlawn, er mwyn i'r fforddolioii gael tramwyaw heb dalu toll; ac y mae Twmi yntau, dan law, yn arloesi y ffordd i Babyddtaeth ddyfod i mewn i Eglwys Lloegr. Gobeithiaf oa fydd Twmi yn ddig wrthyf am ddywedyd fy meddwl mor noeth; ac os bydd, "Nw Dojr- bi." Ond eto rhaid yw ofni rhag Twmi os èl yn Thomas." Clöaf fy llythyr bellacb, i roddi Ue ì Gan- iad Luther, ond dywedÿd wrth y darlienydd fod Cyhoeddiadau Misawl a Chwarterawl, ac hefýd Bapurau Newyddion, yn Lloegr, yn pleidiaw achos'Pusey á NeWmäB, àcl'ÿà: ceisiaw gan y wlad gredu mai plentyn nais iawn yw Twmi. Gobeithiaf, gan hynny, y bydd i'r Haul a'r Protestant, ac eraill Gyhoeddiadau Cymreig, o hyn allan ddang- aws mwy o aidd, er cymmaint a ddangosas-