Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

214 GALWAD I WEINIDOG YM MHENTREF-TY-GWYN. ant eisys, o blaid yr Eglwys Sefydledig, a'i rhybyddio beunydd i ochelyd Twmi, a'i dadau bedydd yn Nghymru. Ydwyf, &c. Netern [Nanhyrer,] swydd 7 Penbro, Mai Í2, 1843. § (Sín' fdk §8urg itt un&r ©otf, ẅ' gufc SBefcr un& 2Böffm; @r ỳilft un* fret au§ öííer ®ott, £>íc un* \qt ỳat Mroffen, ^&c. Cân y Dr. Martin Luther. Y CYFIEITHIAD. ElN noddfa gadarn yw ein Duw, Ac Ef yw'n hamddiffynfa; Ac Ef a'n gweryd ni bob cam, O'r drwg sydd am ein difa. Y gelyn hen, y sarff mewn bâr, In' sydd yn darpar galar ; Ei nerlh sy fawr, a'i ystrjw heb Ei ail ar wyneb daear. Pe'n llawn y byd o'i ddeiliaid drwg, Llawn gwŷn a gwg i'n cynllwyn ; Nid ofnem hwynt, ein gwaith a lwydd, Mae'r Arglwydd yn ein hamŵyn. Ped ef ei hun, eu lly wydd ffrom, Annelai attom saethau, Niwed ni chaem, gorchfygem ef A Gair Duw nef, ein cleddau. Trwy'n nerth, neu'n gallu ni, a'n grym, Nilwyddem ddim i'w erbyn: Mae un a ymladd dros y gwan, Pwy yw ? Pwy yw a'n diffyn ? Ei enw ydyw Crist, ein Pen, Ein Cadben, ac ein Harglwydd : Y maes a gaiff, a'i nodded Ef Yw'n tarian gref rhag atìwydd. Gair Duw a saif, hwy welant hyn, Er maint yw eu cynddaredd ; Mae gennym hwn, a'i gysur cryf Yw'n tangnyf a'n gorfoledd. Pe caent ein cyrff, a'n gwragedd glân, Ein plant, a'n tiroedd hefyd; Ni fyddent gwell, cawn eto fy w Yn nheyrnas Duw mewn gwynfyd. GALWAD I WEINIDOG YM MHEN- TREF-TY-GWYN. At Olygwyr yr Haul. Er bod yr IIaüi. yn eithaf annerbyniol gennym ni yr Anymddibynwyr, ac y mae rhai o honom yn gwybod yr achos ei fod felly, sef ei fod yn dywedyd gormod o wir am danom ; etto y mae yn dda i ni ei fod ar brydiau. Yr ydych wedi addaw y cawn ni fel eraill, ag a fyddo yn cael cam, neu yn tybied eu bod yn cael cam, ymddiffyn ein hunain yn yr Haül. Yr ydym ni. ym Mhentref-tŷ-gwyn, er ys llawer dydd heb weinidog; ond ar recommendation Mr. Evan Jones, Crugybar, a Mr. Rees Jones, Ffaldybrenhin, y mae un Mr. William Jones, o sir Aberteifi, wedi cael Galwad i'n bu- geilio gan y nifer liosoccaf o'r frawdoliaeth. Independiaeth, onide, ywbod pobaelodallais ganddo yn newisiad gweinidog; a bod rhyddid gan bob aelod i roddi ei lais dros, neu yn erbyn, yn ol ei gydwybod; ac mai dyledswydd pob Anymddibynwr yw rhoddi ei lais dros, neu yn erbyn, yn ol ei farn ? Gyda ni, ym matter dewisiad y gweinidog,— 1. Cafodd W. Jones ei recommendio gan Evan Jones a Rhys Jones, a daeth i bre- gelhu i ni; ac fe'i hoffwyd ef gan rai, ac ni hoffwyd ef gan eraill. 2. Galwyd cwrdd i ystyried pa un a roid Galwad iddo neu bedio, ac yr oedd William Jones yn y cwrdd hwnnw ; yr hyn ui ddylasai fod, oddieilhr i ni gael voto wrth y ballot; oblegid yr oedd llawer o honom yn ymglywed yn anewyll- ysgar i wrthwynebu William Jones yn ei glyw, o barch i'w deimladau. 3. Cadwyd cwrdd drachefn i seinio yr Alwad, ac yr oedd William Jones yn bresennol y tro hwn hefyd; a'r Alwad a seiniwyd gan amry w, ac amryw ni seiniasant hi. Dywedir ein bod ni yma yn dri chant; nid oes dim agos dau cant wedi seinio yr Alwad ; ac y mae degau o'r rbai ydynt wedi ei seinio, wedi gwneu- thur hynny i ryngu bodd eraill, ac nid eu hunain. Y mae yma ugeiniau na cheisiwyd ganddynt i seinio yr Alwad; ond y mae yr Alwad wedi ei rhoddi i William Jones, ac y mae i gael ei ordeinio yn Weinidog i'r Eg- Iwys Gynnulleidfaol ac Anymddibynnol ym Mhentref-tŷ-gwyn a Chefnarthen ! Yn awr y mae William Jones yn dyfod yn weinidog i ni, 1. Ar sail recommendation Evan Jones a Rhys Jones. 2. Ar y sail na cháfwyd pleidlais rydd yn ei achos. 3. Ar y sail bod yr ychydig yn llywodraethu'r llawer. 4. Ar y sail nad ydym yn cael pleidleisio wrth y ballot; a chan nad fainto angen sydd am y ballot i bleidleisio i'r Parliament, y mae mwy o'i eisiau i bleidleisio i'n gweinidogaeth ni. Daeth dyn ieuangc o ysgol Rhydybont heibio i'n cymmydogaeth ni, a hoffwyd ef