Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

216 LLYTHYR I. AT Y PARCII. D. CHAflLES. Sierlyn, Y maent yn achos o syndod ipewn gwirionedd! Cyhoeddi yn noeth- lymmyn o'r pwlpndau, bod y Pabyddion yn barod i gymmeryd meddiant o dai cyrddau yr Ymneillduwyr! Eraill yn cyhoeddi bod y Pabyddion ar dynnu y tai cyrddau i lawr, nes eyrru y bobí yn benwan! Myned a'r petisiwn ar hyd y tui, îe, ar brýdnaẁn Sab- both, a cheisio gan gryttiaid i seinio yn erbyn y Papistiaid! Ym Myddfai, aeth gweinidog yr Independiaid i dŷ, a'r peti- siwn ganddo; rhoddwyd enwau yr holl blant yuddo; îe, enw plentyn o wythnos i naw diwrnod oed! Dyma fel yr oedd y pe- tisiyno yn myned ym mlaen; ac y mae am- xyw o'r rhai a'u seiniaaant wedi bod yn gofyn i mi ynghylch pa beth yr oeddynt, nad oeddynt hwy yn deall! Dyma i ti eithaf gwirionedd. Ifor. Y mae yr Ymneillduwyr mewn cyn- ddaredd, o herwydd bod yr Ysgrif yn rhoddi dysgeidiaeth plant y Gweithfeydd yn nwy- law Eglwyswyr. Ni ddywedaf yn awr am hyn ond a ganlyn; sef bod y wlad, ein gwlad ni, yn gwaethygu yn gyflym. Yng nghymmydogaeth Blaenycoed, ger Cynwyl, lle y mae yr Indepeudiaid yn ei chlirio oddi yno i Drelech; a phwy ddiwrnod, yng nghymmydogaeth Blaenycoed, y cyf'ododd o ddau i drichanto bobl i wrthsefyll gwein- yddiad y gyfraith ! Y mae rhai pregethwyr y Methodistiaid wedi bod yn bygwth Becca ar rai Gatemec! Y maeeisiau rhyw ddysg- eidiaeth yn dost ar y wlad! O dan eich dysgeidiaeth chwi y mae anniweirdeb a godineb wedi llenwi y wlad; ac os nad ydyw eich cyrddau yn dysgu neu yn meithrin hyn, pa beth sydd? oblegid y roae bastarddiaeth yn dilyn eich cynnydd hyd yma! Idwal. Y mae ihyw beth yn yr Eglwys; y mae yr Offeiriaid yn methu cydweled. Ifor. Fel y mae yn alarus adrodd, y mae dadleuon yn yr Eglwys, oblegid Tractau Dr. Pusey ac eraill, yn Rhydychen ; ac y mae un neu ddau o Ofteiriaid wedi myned drosodd i Rufain. Mi feddyliwn na aü byn fod yn wir achos o ymttrost i neb; ond y naae yn debyg ei fod yn sail i'ch llawenydd presennol chwi! Ond oblegid bod rhai o'r Oflèiriaid yn gwyro yn ormodol at athraw- îaethau Rhufain, a rhai wedi myned drosodd i Rufain, a ydyw hynny yn rhoddi sail i chwi ddywedyd bod yr holl Ofteiriaid yn Buseyaidd neu Babaidd ? Y mae amryw o weinidogion yr Independiaid a'r Wesleyaid wedi myned drosodd i Rufain; ond nid y w hynny yn un sail i dadogi Pabyddiaeth i'r Independiaid a'r Wesleyaid. Os ydych chwi yn meddwl bod y gelyn o ddifrif yn ymosod ar gaerau yr Eglwys, y mae yn bryd i chwi ddihuno; oblegid y mae gwaith gennych i'w wneulhur heblaw ymorfoleddu yn y peth% a gwaeddi. Pabyddiaeth, Pabyddiaeth yn yr Eglwys—Hwra! Os yr Eglwys a ga ergyd, ti elli di fy nghredu, ldwal, yr ydych chwi yn sicr o gael teimlo. Idwaí. Pa ham y mae yr Offeiriaid yn myned ym mhennau eu gilydd ? Ifor. Pa ham y bu yr Independiaid ym mhennau eu gilydd fel liewod cyn hyn, yn y Dysgedydd a'r Diwygiwr? A pha ham y mae y Bedyddwyr yn dechreu ymladd, cnoi, a thratìyngcu eu gilydd yr awr hon ? Segur- dod ydyw yr achos bid sicr, a dini arall. Llewelyn. Yr ydym ni, y Corph, yn fwy cysson a rheolaidd na hynny. Sierlyn. Yr wyt ti, Llewelyn, yn siarad am dy Gorph, fel pe byddai yn y nefoedd, ac nid ar y ddaear. Y mae gyda chwithau chwarae plant weithiau. Mewn Sasiwn, neu ryw Gwrdd ydoedd yn y Bontfaen, nid ym mhell o Aberhonddu, darfu i Thomas Eüas, os nad wyf yn camsynied, neu ryw weinidog perthynol i'r Methodistiaid, ddi- arddel Mr. B. Havard, mab Mr. William Havard, nad ydoedd byth i gael gweinyddu ym mhlith y Corph. Wel, unig drosedd Mr. B. Havard ydoedd cymmeryd at gyn- nulleidfa o Independiaid, fel gweinidog i'r cyfryw, yn sir Gaerloyw. Wel, daeth Mr. B. Havard i roddi tro am ei bobl i gymmyd- ogaeth Pontfaen, ac aeth i dŷ cwrdd y Me- thodistiaid, a phwy oedd yn gweinyddu yno ar y pryd ond y gweiuidog a'i diarddelodd; pregethodd Mr. B. Havard gyda hwnnw, ac a'i cynnorthwyodd i weinyddu y Sacra- ment! Dyma drefn a chyssondeb y Me- thodistiaid ! Llywelyn. Ond gad i hynna fod. yr ydym ni yn gwbl rydd oddiwrlh Babyddiaeth. Sierlyn. Y mae Methodistiaeth yn llawn j Pabyddiaeth; ac y mae mwy o berygl o j lawer i'r Cymry oddiwrth Buseyaeth y Me- thodistiaid, nag sydd oddiwrlh Buseyaeth Rhydychen! Yr Eglwys ydyw pob peth gan y Pabyddion, y Corph ydyw pob peth gan y Methodistiaid; ac megis ag y mae y Pabyddion yn credu yn yr Eglwys, felly y mae y Methodisliaid yn credu yn y Corph ! Y oiae Councils yn anifaeledig yng ngolwg y Pabyddion, a rhoddant ufudd-dod dall i ddeddfau eu Councils; y mae y Sasiwnau yn anffaeledig yng ngolwg y Methodistiaid, a rhoddant ufudd-dod dall i ddeddfau eu Sasiwnau ! Y mae crefydd y Pabyddion yn gynnwysedig, lawer iawn o honi.mewn ys- tumiau corphorol; ac y mae crefydd y Me- thodistiaid, lawer iawn o honi, yn gynnwys- edig mewn ystumiau corphorol! Creda y Pabyddion yr Ofièiriaid ym mhob dim; a chreda y Methodistiaid eu pregethwyr ym mhob dim! Y mae cyffesiadau dirgelaidd yn bwngcmawr yn y grefydd Babaidd; ac y mae cyftesiadau dirgelaidd yn bwngc mawr yn y grefydd Fethodistaidd ! Y mae y Pabyddion yn ystyried pawb yn heretic- iaid ond hwy eu hunain ; ac y mae y Me- thodistiaid yn ystyried pawb yn hereticiaid ond hwy eu hunain! Mi a ychwanegaf etto, er dy adeiladaeth di, Llewelyn, ar y matter hwn : rhaid i mi yn awr fyned i ba- rottol gyferbyn a golchi y defaid. LLYTHYR I. At y Parch. David Charles, A. C, Athraw Athrofa y Methodistiaid yn Nhrefecca. Barchedlg Syr,--Y mae sefydliad yr Athrofa bresennol yn Nhrefecça, yn gyfnod