Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JACOB. 199 deimladau archolledig; ond y mae profedigaethau yn ei gymhwyso yn rhyfedd at fod yn ddyn ddefnyddiol mewn cymdeithas, yn gystal ag at ei gadw yn ei orsaf briodol ac o fewn ei gylch, rhag iddo ymchwyddo a syrlhio i ddamnedigaeth diafol. Bu yn adfydus iawn ar Moses pan ffodd am ei fywyd o'r Aipbt, heb wybod pa funud y buasai y dialwr yn ei ddal ac yn ei dorfynyglu ; ond nid oes wybod pa gymmaint daioni a wnaeth hynny iddo rhagllaw, gyda golwg ar y gweinyddiad o'r swydd orachel a ymddiriedwyd iddo gan Dduw y nefoedd. Gellir dywedyd am Ddafydd, i donnau gofidiau ei amgylchynu, i raiadrau o orthrym- derau syrthio arno, ac i fynyddoedd o galedi wasgu yn drwm arno ; yrolid- id ef o ogof i ogof, o anialwch i an- ialwch, o fynydd i fynydd, o un oror i'r wlad i oror arall i'r wlad, a sych- edid am ei waed ; ond gwnaeth hyn ddaioni annhraethol iddo, oblegid cyn ei gystuddio yr oedd yn cyfeil- iorni, ond gwedi hynny ymroddai at gadw ei draed o fewn terfynau geir- iau glân yr Arglwydd Dduw Gor- uchaf. Yn llechres gwyr y gofidiau, y mae Jacob a'i enw yn amlwg ìawn; oblegid bu yng ngwaelodion y cym- mydd, wrth odreon y mynyddoedd niwlog draw, yn cael ei guro yn nhrigfa y dreigiau, ac allan mewn tymhestloedd lawer iawn, fel na allwn, wrth ddarllen ei hanes, lai na synnu na buasai wedi suddo dan y llifeiriaint; yr hyn yn ddiau a ddi- gwyddasai iddo, ond fel y cynnal- iwyd ef dan ei dywydd gan addewid rymmus Duw Abraham. Dywedodd Esau yn ei galon," Neshau y mae dyddiau galar fy nhad; ac yna lladdaf Jacob fy mrawd ; a pha beth yn fwy archolliadol i deimlad ieu- engaidd na hyn ? Dyma ergyd ad- rcf, ac ergyd oddiwrth frawd hefyd! Gwyddid mai nid gwr i gellwair âg ef ydoedd Esau, ac aeth yn gyn- nhwrf mcwn canlyniad yn y. teuíu ; ac nid ocdd modd gochel yr ergyd, heb anfon Jacob ymaith i wlad bell! Yr oedd wedi cael ei ddwyn i fynu yn foethus a boneddigaidd, a phob tirionwch wedi cael ei ddangos iddo o'r groth ; ond yn awr, wele ef yn gorfod ffoi ymaith oblegid ei frawd, gan wynebu ar daith bell, heb ntb i ofalu am dano ond goruwch-raglun- iaeth Duw ei hun. " A Jacob a aeth allan o Beer-sebah, ac a aeth tua Haran." Yr oedd hwn yn fore trwm ac wylofus; Jacob ieuangc ar ei draed gyda bod pelydr cyntaf y wawr yn ymsaethu i'r babell; Be- becca ei fam, pan glywai ei drwst, yn cyfodi o'i gorweddle, a'r dagraa gloywon yn pistyllo o'i llygaid, gan ddiferu dros ei gruddiau i lawr; Isaac yn ymysgwyd ar ei hol, er mwyn canu yn iach i'w anwylaf fab; y parottoadau yn cael eu gwneuthur gyda phob prysurdeb, a'r adeg wedi dyfod i ben i Jacob gychwyn i'w daith. Trueni gweled yr hen Isaac yn sefyll fel delw, a'i deimladau yn ddrylliau wrth feddwl am ymadael â'i fab! Ond wele yr hen wr yn dyrchafu ei ddwylaw ; a chyda bod pen Jacob yn eu derbyn, megis yn oruwch-naturiol wele y patriarch sanctaidd yn cyflwyno ei fab i war- cheidwadaeth y nef, yn y geiriau hynodion canlynol:—" A Duw Holl- aíluog a'th fendithio, ac a'th ffrwyth- lono, ac a'th liosogo, fel y byddech yn gynnnlleidfa pobloedd; ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i'th had gyda thi, i etifeddu o honot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham." Pwy a all ddar- lnnio raynwes mam fel Rebecca? Mab ei hanwyldeb mawr ydoedd Jacnb ! . Yr oedd wedi rhoddi sugn iddo! Yr oedd wedi gwylio yn ddyfal ar ei gamrau ! Yr oedd bob amser yn nesaf at ei chalon ! Yr oedd gyda hi yn barhaus ys y ba- bell! Yr oedd yn ufadd bob amser i'w fam ! Anwylfab ei fam ydoedd ! Ond dyma wawr y bore i Jacob ym- adael. wedi torri! Dacw Ja'cob wedi ymwisgo, ä daçw Isaac wedi