Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JAGOB. 201 wedd aìlan dan dduwch y nos, ac yn cysgu, y diddanodd Duw Abraham ef yn ei freuddwyd ; ac felly, er bod ei gorph-ar y glaswellt, a phwys ei ben ar y garreg, cafodd ei enaid wledda ar ddanteithion y wlad well. " Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r uefoedd: ac wele angylion üuw yn dringo, ac yn dis- gyn ar hyd-ddi." Yr oedd y drefn yn dywyll iawn i Jacob, pan ar ei daith o Beer-sebah; methai weled ffyrdd yr Ior, am eu bod allan o oíwg yn y dyfroedd dyfnion ; ond yn ei hun y noson honno, gwelai fod tramwyfa o'r nef i'r ddaear, ac o'r ddaear i'r nef; a gwnaed yn amlwg iddo, 08 ydoedd Beer-sebah ym mhell, fod y ddinas anwyl gerllaw; ac os ydoedd pabell ei dad Isaac mewn ardal bell, bod Duw yr add- ewid yn gallu gwneuthur pabell lle y mynno efe, a rhoddi ei bresennol- deb ynddi; oblegid pan ddeffrodd o*i gwsg, dywedodd," Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i. Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma onid tŷ Dduw, a dyma borth y nefoedd:" ac o hynny hyd derfyn ei oes, yr oedd cofio am Dduw Bethel yn gwasgaru yr holl gymmylau duon a ymgasglent oddi amgylch iddo. O ! mor dywyll yd- oedd y nos arno, wedi ymadael o hono â Laban, pan ddynesai at der- fynau Canaan, yn wyneb bod Esau ei frawd yn dyfod i'w erbyn gyda phedwar cant o wyr arfog. Yr oedd wedí cyfarfod â rhyw lu rhyfedd yn Mahanaim, s deallodd mai gos- gorddion yr orsedd fawr yn y nef oedd y n t, a bod pob un o honynt yn alluog, ar orchymmyn y Teyrn tra- gywyddol, î ehwythu bydoedd o'u gorsafion; ond yr oedd yn ofnus iawn oblegid Esau. Anfonodd ei eiddo oll dros yr afon ; a phan ad- awyd ef ei hunan, ymdrechodd gwr âg ef, a pharhaodd yr ymdrech hyd dywyuiad y wawr, pan orchfygodd gyda Duw fel tywysog, ac yr oedd yn feddiannol ar y fenditb fawr pan yn myned drwy y dyfroedd yn y bore; a phan gyfarfyddodd âg Esau, yn lle bod yn llew ffyrnigwyllt, yr oedd mor war a'r oen ! Yn ei holl deithiau, yn ei holl drallodion, yû ei holl gyfyngderau, ac yn ei holl wasgfeuon, rhoddid iddo o felus- derau y wlad fry, drwy fod Duw yn egluro ei hun yn bleidiwr iddo. Pao, gychwynodd o Beer-sebah tua Ba- ran, nid oedd ganddo nac aur, nac arian, na diadelloedd, ond yn unig ffonn yn ei law; eithr yng ngwlad meibion y dwyrain cynnyddodd yn fawr iawn ; a phan ddaeth yn ol, yr oedd ei braidd brithion yn gor- chuddio y mynyddoedd, ac yn fin- teioedd lliosog iawn ar y dyffryn- diroedd. Pan dywyllodd arno yn achos Joseph, pan ymwasgarodd y niwl du dros ei feddwl ynghylch helynt ei fab, a phan y digalonnodd yn wyneb colli un o Israel; cyfod- odd yr haul yn uwch arno wedi hynny, rhodiodd yn galonnog drwy heolydd pebyll ei feibion, a gwenai yn serchus wrth weled ei wyrioa yn chwareu—cafodd y newydd fod Jo- seph etto yn fyw; aeth i wared iîr Aipht yn ei gerbyd, cafodd yr an- rhydedd o'i gyflwyno i sylw teyrn gwlad Ham; ac yn nesaf i'r deyrn- gadair gwelai Joseph ei fab, a chlyw- odd y bobl yn gwaeddi Abrec, pan fyddai yn myned yn ci gerbyd drwy heolydd Memphis ! Dyma wr wedi rhodio yn llaw Duw, wedi bod dan warcheidwadaeth neillduol Duw, ac wedi pwyso drwy ei ddydd ar gyf- ammod Duw. Dyma fe ! Wele ef yn awr wedi ei heneiddio, wele ef yn awr a choron ei benllwydni arno, wele ef yn awr ,yn ymyl yr Ior- ddonen, gan adael ar ei ol hiliogaeth liosog, o fewn enfys y cy fammod a gadarnhaodd Duw ag Abrahara, ac a'i had yn dragywydd 1 Llewyrch- odd y goleuni yn rhy fedd arno yn hwyr ei oes, nî bu erioed mor gy- surus arno ag yn.Gosen, ac ni ddaeth ì'w feddwl pan ar ei daith o