Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

202 ANGHREDINIAETH. Beor-sebah i Mesopotamia, a phan dan boethder yr haul a than lwyd- rew y nos yn y dwyrain, y cawsai hwyr mor ddymunol, a'r wybren mor glir pan fachludasai haul ei fywyd; ond ac efe yn wr cyfiawn, disgleiriodd ei haul fwy-fwy, a chy- hoeddodd yn groch, " Digon yw ; y mae Joseph fy mab etto yn fyw." . Diwedd Jacob fu dangnefeddus. Dechreuodd llawer eu teithiau yng ngwenau y wawr, natur o bob tu yn y llonder mwyaf, a phob peth oddi amgylch yn awgrymmu hwyr anwyl tua therfyn yr oes. Llawer o swn a dwndwr sydd gan ddynolion yng ' nghylch byw yma, megis pe byddai byw yma yn dragywyddol yn ei barhad. Prynir tiroedd, adeiledir palasau, amlbeir goluds a chyn- nyddir mewn da bydol ; ac erbyn y byddo y dyn'ond ym mron agor ei lygaid ar y fuchedd bresennol, daw gwŷs o'r orsedd fawr, ar flaen saeth teyrn y brawychion, i'w alw i'r Ior- ddonen, lle y bydd pyrth tragy- wyddoldeb yn ymagor i'w dderbyn. Gan nad pa fath ddiwrnod ydym wedi gael, ac i'w gael yma, y mae yn cael ei drenlio gyda phrysurdeb; yr oriau a ânt heibio, yr haul a fach- luda arnom, a nos marwolaeth a'n goblyga yn ei mentyll, a'n lleoedd yma nid adwaenant mo honom i dragywyddoldeb. Nid ydyw o gym- maiut pwys pa un ai hen neu ieu- angc y byddo dyn yn marw, pa un ai yn gyfoethog neu yn dlawd, a pha un ai gwreng neu fonheddig; ond pa fodd y mae rhyngddo a'r nefoedd, ac a ydyw ei fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Gelwir arnom i ystyried y períFaith, ac edrych ar yr uniawn, oblegid mai tangnefedd ydyw diwedd y dyn hwnnw. Y mae seren oleu yng nghanol glynn tywyll marwolaeth yn llewyrchu ar ei lwybrau, can- fydda fedd ein Harglwydd yn wag yng ngwlad marwoldeb, a'r llieiniau wedi eu plygu ; rhoir cân yn ei enau yn ymyì y dwfr, dienga drwy yrafon yn llaw Gorchfygwr angeu mawr, a bloeddia yr orfodaeth dragywyddol wedi cyrhaeddyd y lann draw. Rhy- fedd ydyw goleuni y bywyd a'r an- llygredigaeth a eglurwyd drwy yr efengyl; oblegid bellach, yn ei ber- thynas â theulu Duw, nid ydyw y glynn yn frawychus ac yn dywyll, o herwydd rhwygwyd ei fantellau duon, a gwelir y tiroedd a'r bryniau draw drwyddo. Yr oedd Jacob yn dywysen addfed i'r crymman, ao yn barod i gyfarfod â'r gelyn diweddaf, oblegid yr oedd mewn heddwch â Duw. " A dyddiau Israel a nesas- ant i farw ; a pha fodd yr oedd yr hen batriarch yn ymglywed yn wy- neb swn pistylloedd yr afon ddofn donnog yn cryf hau yn ei glustiau ? Yr oedd ei fynwes yn gwbl dawel ; galwodd am Joseph ei fab atto, rhoes orchymmyn am ei gladdu yn ogof maes Macpelah, cusanodd a chofleidiodd Ephraim a Manasseh, bendithiodd hwynt â bendith yr Hoîlalluog Dduw, rhoes ei fendith i'w holl feibion, yragrymmodd ar ben ei orweddle, addolodd a'i bwys ar ben ei íFon, tynnodd ei draed i'r gwely, a bu yr hen wr duwiol farw! " Caned a welodd wawr Yn codi o*r t'wyllwch du, Caned a brofodd flas Grawnsypiau'r Ganaan fry;" Y mae angeu heb ei golyn, y mae y bedd heb ei ddychrynfeydd, y mae allweddau Hades wrth wregys Mab y dyn, y mae y bywyd anfarwol yn nes nag erioed, ac nid ydyw marw ond dechreu byw ; ac yn wyneb hyu, nid rhyfedd i St. Paul ddy- wedyd, " Y raae arnaf chwant i'm dattod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw." Brutus. ANGHREDINIAETH. Bolltau tynnion Anghrediniaelh Sydd yn cloi fy nghalon wiw, Ac yn dallu fy serchiadau, Brychau yn fy llygaid yw;