Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

204 PREGEtH. yr ymwelodd Baban Bethlehem. Yr oedd teyrnas yn cyfodi yti erbyn teyrnas, a chen- edl yn erbyn cenedl, rhyfeloedd a son am ryfeloedd yn gweryru trwy yr holl wledydd, megis pe buasai yr holl bobloedd wedi cyd- uno i waeddi um Dywysog i'w heddychu, ie, y cyfryw Dywysog ag a wna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear, a ddryllia y bwa, a dyrr ywaewffon, ac a lysg y cer- bydau a than. Psalm 46. 9. 2. Ysgydwad i ddisgwyliadau. Codwyd awydd ara y Messiah. Yr oedd gan yr Iuddewon brophwydi, y rhai oeddynt yn nodi allan y Messiah megis a bys. Y Mes- siah oedd titl eu holl lyfrau; efe oedd swm a sylwedd eu holl ddysgeidiaeth; efe oedd Had addawedig Adda, Isaa'c Abraham, Shi- loh Jacob, Prophwyd Moses, Bugail Ezec- iel, Emmanuel Esay, Angel Malachi, &c Yr oedd holl arferion a seremoniau yr Iuddewon yn crybwyll am y Messiah. Efe oedd aberth Abel, colommen Noab, ysgol Jacob, pasg Moses, gwialen Aaron, craig lsrael, teml Solomon, &c. Yr oedd yr holl bethau hyn yn dangos Crist iddynt, ac wedi eu rhagbarottoi, fel cynnifer o gadachau, i wisgo Baban Bethlehem a hwynt. Hefyd, yr oedd hyd yu nod y Paganiaid yn disgwyl ara y Messiah. Hwyrach mai prophwydol- iaeth Balaam am Seren Jacob, a barodd i'r doethion ddyfod o'r dwyrain, wrth dywysiad seren, i chwilio am Fab Duw yn Bethlehem. Yr oedd Ilyfrau prophwydesau (Sybils) Rhufain yn mynegi yn eglur fod Crist ar ymddangos; ac o ganlyniad, yr oedd dis- gwyliad mawr drwy holl gyrrau y wladwr- iaeth ehang honno am dano; ie, yr oedd y cenhedloedd wedi cael eu hysgwyd i ddis- gwyl am Grist. 3. Ysgydwad i gyfnewidiadau. Pan y daeth Crist i'r byd, gwnaed llawer iawn o gyfnewidiadau yn arferiadau a sefydliadau dynion; megis ag y gwna rhyw orchfygwr mawr gyfnewid dull a threfn cyfreithiau ac arferiadau y wlad a orchfygo, i ddull a threfn ei wlad ei hun. Felly y gwnaeth y Messiah. Cynlluniodd ei ddeddfau, er toddi holl arferiadau yr oesoedd ym rhould ei efengyl; ac oblegid hyn, gelwir amser y Messiah yn fyd newydd—"Yr hen bethau a aethant heibio, wele, gwnaethpwyd pob péth yn newydd" Gwir na wnaeth Crist gyfnewidiadau mewn Ilywodraethau gwlad- ol, er bod Herod yn ofni lle nad oedd ofn ; ni ddaelh i ddinystrio llywodraeth wladol, ond i'w chadarnhau. Nid y ffaglwr Barab- bas, ond Crist yw sylfaenydd yr efengyl; ac y mae Crist yn gorchymmyn ufudd-dod cydwybodol i bob llywodraeth acawdurdod, beth bynnag fyddo eu dull a'u trefn olyw- odraethu; ond etto, rhaid i Baganiaeth roi lle i Gristionogaeth, rhaid ìt eilunod blygu ger bron Baniar y Groes, rhaid i au-gref- yddau Groeg a Rhufain gilio i anghof o flaen Baban Mair, rbaid i'r Philosophydd- ion doethaf roddi lle i Gristionogion, a rhaid i Dagon syrthio o flaen arch Duw. Nid yn unig yn arferiadau dynion y gwna y Messiah gyfnewidiad, eithr hefyd yn eu tymherau. Cyn dyfodiad Crist i'r byd, yr oedd y bobl yn debyg i'r dyn dieflig, ym mhlith y beddau, ynamrahwyllog, ac yn an- waraidd; ond yn awr gwelir hwynt yn eistedd wrth draed yr Iesu, yn heddychol, yn addfwyn, ac yn hawdd eu trin. " Y blaidd a drig gyda'r oen, y llewpard a or- wedd gyda'r mynn ; y llo hefyd, a cheneu y llew, a'r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a'u harwain. Y fuwch hefyd a'r arth a borant ynghyd, eu llydnod a gyd-orweddant; y llew, fel yr ych, a bawr wellt." Esay 11. 6, 7. Cleddyfau a gurir yn sychau, offerynnau creulondeb a droir yn dymherau trugaredd. Diammeu fod ysgwyd mawr yn angen- rheidiol, cyn effeithio y cyfnewidiadau hyn. Dywedir am yr hen Frythoniaid gynt, eu bod yn arfer bwytta cnawd dynol: ond gwelwn y cyfnewidiad sydd wedi cymmeryd lle; nid anifeiliaid ond dynion ydynt yn bresennol. 4. Hefyd, ysgydwir y cenhedloedd, drwy eu troi yn wirioneddol at y Messiah. Pan y byddo pechadur yn cael ei droi i gofleidio Crist, y mae yno ysgwyd mawr arno; y mae ofn a dychryn yn ymlwybro drwy holl wythiennau y meddwl. Y mae daear- grynfa, ac ysgydwad, yn rhag8aenu troedig- aeth ceidwad y carchar. Nid cysur, ond tristwch, yw gwaith cyntaf gras. Frodyr, a ydych chwi wedi bod yng ngafael yr ys- gwyd yma ? Y mae wylofain yn myned o flaen gorfoledd, taranau y gyfraith o flaen cysur yr efengyl, ac ysgydwad o flaen djfod- iad dymuniant yr holl genhedloedd. II. Cyflawniad yr addewid,—" A dymun- iant yr holl genhedloedd a ddaw." Cawn yma ddesgrifiad dengar o'n Iachawdwr lesu Grist; Efe yw dymuniant, gobaith, a gor- foledd meibion dynion, bendith dynolryw, a chysur y byd; Nid yw ei holl ditlau eraill ond cynnifer o fan ronynnau, i wneuthur i