Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

206 ENGLYNION.—LLYTHYRAU AT Y PÀRCH. E. MORRIS. dir ; ac y mae yr Eglwys wedi penderfynu anfon Cenhadon attynt, i gyhoeddi yn eu clyw fod dymuniant yr holl genhedloedd wedi dyfod. " Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau'r byd." Ah frodyr ! Beth yw eich dymuniad chwi ? Ai plaid, ai Crist ? Os Crist, gwnewch goffa am dano yma heddyw. Oddiserth y rhai hynny ag sydd yn gwneud duwiau man o'u pleidiau, y mae pawb Cristionogion yn coffa am Grist ar y dydd heddyw—pawb yn ym- gyfarfod yn yr un dymuniad. Frodyr! ni tbal yspryd plaid yn angeu; gwna y tro yn burion i'ch difyrru yn y byd, ond ni ddeil yn wyneb marw. Ein dymuniad fyddo Crist; a dim arall yw dymuniad pawb wrth wynebu'r bedd.—O ! gweddiwn am fod yn feddiannol ar y dymuniad hwn. J. JONES. Rhodegeidio, Nadolig, 1842. GOSTEG O ENGLYNION, A GYFANSODDWYD TAN AFIECHYD. Ior, Dad addfwyn, er dedwyddfyd—doeth- Ro'i fendilhion hyfryd ; [aidd, Erfawr barch at yrfa'r byd, A'r wychaf ydy w'rIechyd. Yn gysur i ddyn pe gesyd—daear, Er dewis dedwyddyd, O holi berlau bannau byd, Yr uchaf fyddai'r Iechyd. Nod o boen ydyw da byd,—ran addien, A'i rinweddau hyfryd, Mwlwg i'r golwg i gyd, A brychau, heb yr Iechyd. O bawl i bawl bel y byd,—oes degan A ostega glefyd,— O'i befrau gorau i gyd, Dyrr ochain, ond yr Iechyd ? Ddyn byw, pe meddai y byd,—un cwla, Er calon gybyddlyd, Rhwydda' gwr, fe'i rlioddai'i gyd, Yn echwyn am ei Iechyd. Mwy llon, wych hoywfron, iach, hyfryd,— Cardottyn di'styrllyd, [ytyw, Na theyrnedd, o fawrwedd fyd, Yn ochain heb ddim lechyd. Poenfa, tan oedfa adfyd—y gwaeau, A'r gwewyr anhyfryd, Noeth a geir yn iailh i gyd, Eorth ocbain am werth lechyd. Y dyn claf yn dwyn clefyd,—reddf anian, I riddfannu'r yspryd, Erfawr gŵyn, awr frwyn oer fryd, Braw ochain heb yr Iechyd. Daw gweddi ddifri' o ddyfryd—galon F'ai gwaelaidd a nychlyd, Taeraidd ac elaidd i gyd, Fron nych, i erfyn Iechyd. Ddoe yn anfwyn ddyn ynfyd,—oedd brysur 1 ddibrisio hawddfyd; Heddy w, wedi ei golli i gyd, Wrth achos wel werth lechyd. Dyn iach nis edwyn Iechyd,—nes dirwyn Anystyriol fywyd I gyfyngdra, boenfa byd, I nychu tan afiechyd. Tafl y boen hwnt, ofal byd,—uthr am- Na orthrymma'r yspryd; [mharch, Dy Dduw da mawrha o hyd, Gwel achos, am gael Iechyd. Rhulhyn. Iolo Gwyddelwern. LLYTHYRAU AT Y PARCH. E. MOR- RIS, LLANELLI. LLYTHYR II. Syr,—Celfyddyd dra chywraint yn ei dy- feisiad cyntaf ydoedd ysgrifennu,sef y weith- red o drosglwyddo meddylddrychau trwy gyfrwng arwyddluniau, nodau, &c. Diau fod y gelfyddyd hon yn ne3af at argraphu yn ei Uesoldeb i'r hiliogaeth ddynol, ac wedi bod yn gymmhorth mawr, er cynnydd cym- deithas a gwyddiaeth yn eu plith. Ond yn gymmaint a bod agos pawb yn y dyddiau presennol yn gyfarwydd a hi, nid ydyw yn tynnu cymmaint sylw. Gan nad pa mor gy wraint y byddo unrhyw ddyfais, can gyn- tedd ag y daw yn gyffredin y mae yn peidio a bod yn nod sylw dynolion; yr hyn a allo pawb ei gyrhaedd,dirmygus yw. Bu amser pan yr oedd ysgrifennydd yn ddyn tra chym- meradwy ym mhlith dynion; ond y mae amser yn dynesu, pan y bydd yr hwn nad allo ysçrifennu yn cael ei nodi allan megis rhyw gymmeriad hynodol. Yn oesau boreuol y byd, pan yr oedd cym- deithas yn ei mabandod, nid oedd gan ddynolryw un llwybr i egluro eu drych- feddyliau mewn ysgrifen, onid y dull syml hynny o geisio gwneud llun neu ddelw y gwrthddrych y byddent am drosglwyddoeu meddyliau yn ei gylch i eraill. Rhaid fod y