Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL ÌÎHIF. 100. HYDREF, 1843. Cyf. VIII. EGLWYS WLADWRIAETHOL,—(Parhad o tu dal. 261.J 5* Goruchwyliaethau o dan ba rai y mae yr Eglwys wedi ei chyfieu ar y ddaear. Rhyw drefn ryfedd ydyw iech- ydwriaeth cyfrgolledigion y ddaear yn y dadlblygiad o'i dalennau gan yr uchel Dduw. Llawer gwaith a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth y tadau drwy y prophwydi, sef ychydig yn awr, ac ychydig yn y man ; ychydig wrth un, ac ychydig wrth arall; fel mai yn raddol yr amlygwyd y drefn fawr drwy yr hon y maeamrywddoethinebwedi cael ei hegluro. Yr Eglwys ydyw y llan- nerch gyssegredig, yn yr hon y mae yr arddangosiad mawr wedi ac yn cael eì wneuthur, yn yr eglurhad o drefn achub drwy Gyfryngwr, Ar y ddaear yr oedd dyn wedi cael ei gyfleu, ac ar y ddaear yr aeth ar gyfeiliorn oddiar lwybrau ei Gre- awdwr a'i Dduw ; o ganlyniad, ar y ddaear yr oedd trefn ei adferiad i gael ei hamlygu a'i datguddio, a'r gyfundraeth eglwysig i gael ei sef- ydlu, fel prif gyfrwng drwy yr hwn y gosodid bwriadau Duw mewn gweithrediad. Gyda bod dvn wedi syrthio, yr oedd moddion eì godiad yn harod i'w hamìygu, a dechreu- wyd rhoddi y drefn ddwyfol mcwn gwcithrediad drwy sefydliad eg- 2 0 lwysig ar y ddaear. Cyflewyd yr Eglwys, ^k\ flaenaf, Dan yr oruchwyliaeth batriarch- aidd. Wrth yr oruchwyliaeth ba- triarchaidd, y mae i ni ddeall yn neillduol sefyllfa neu gyflwr yr Eglwys dan gyfnod llywodraethiad y tadau, o Adda hyd Noah, ac o Noah hyd gaethiwed y llwythau etholedig yn yr Aipht ; o'r pryd y cymmerodd rhwy fath ointerregnum (cyfwng rhwng dwy lywodraeth) le yn ei lìywodraethiad, hyd sefydliad goruchwyliaeth Moses. Ni allesid rhoddi yr Eglwys, yn ei sefydliad cyntaf, dan oruchwyliaeth gyíFelyb i eiddo Moses : oblegid nid oedd cenedl na gwladwriaeth neillduol gan Dduw y pryd hwnnw, i ymddir- ied ei gyfammodau, ei oraclau, a'i bethau cyssegredig iddynt; ac ni allesid ei rhoddi dan yr oruchwyl- iaeth Gristionogol, oblegid Crist mewn addewid ydoedd yn y cyfnod hwnnw^ ac nid Crist wedi ymddangos yn y cnawd, wedi marw, wedi esgyn i'r nef, ac wedi ei wneuthur yn Ben uwchlaw pob peth i'r Egtwys. Yng nghyfnod boreuol yr Eglwys, yn neillduol o amser Adda hyd Noah, nid ydoedd egwyddorion llywodr- aethol wedi eu rhoddi mcwn gweith- rediad, fel y gwnaed ar ol y diluw, ac mcgis y mac yn parhau o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon. Yn y cyf-